top of page

Tair Blynedd o'r Ddwy Olwyn

Ges i neges gan Twitter yn gynharach wythnos yma:


"It's your Twitter anniversary! Celebrate with a special Tweet created just for you"


Dyna wnes i; trydar i'r byd fod y blog yn dathlu'i ben blwydd yn dair oed.


Pan y gwnes i gychwyn y blog dair blynedd yn ol, doedd gen i ddim disgwyliadau o gwbl. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n para ac y byddai'n pylu i ddim mewn amser bychan iawn.


Ond nid felly'r oedd hi, wrth gwrs!


Dwi'n dal yma yn sefyll, neu'n eistedd, i ysgrifennu cofnod arall i'r blog.


Mae edrych 'nol ar yr hyn sydd wedi digwydd ers Mehefin y 9fed, 2018, yn ddigon i'm rhyfeddu hyd heddiw.


Ro'n i wastad wedi cael diddordeb yn ysgrifennu am bob math o bynicau, a phenderfyniad wedi darllen erthygl 'sut i wneud arian ar-lein' oedd cychwyn y blog ar ei ffurf bresennol.


Mae'n werth nodi nad ydw i wedi gwneud llawer o ddim arian drwy'r blog - dim ond y cyfraniadau dwi'n gael ar y safle prynu coffi yr ydw i'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.


Cafodd y cofnod cyntaf ei gyhoeddi y diwrnod canlynol, yn bwrw golwg ar ras y Criterium du Dauphine oedd wedi'i hennill gan Geraint Thomas, gan drafod os y byddai'n cael arwain tim Sky yn y Tour de France oedd ar y gorwel.


Mae'n sefyllfa gyfarwydd eto eleni, gyda Geraint yn perfformio'n gryf yn yr un ras ar drothwy'r Grande Boucle.


Un peth ydyn ni'n ei wybod rwan nad oedden ni'n gwybod ar Fehefin 10fed 2018, yw bod gan Geraint y gallu i wireddu breuddwydion a chipio'r maillot jaune yn Paris.


Roeddwn i'n synnu'n fawr ar y diddordeb oedd yn y blog o'r dyddiau cynnar, a dwi'n wirioneddol werthfawrogol o'ch cefnogaeth. Heb hynny, byddwn i ddim yma'n sgwennu hwn heddiw.


Mi ffrwydrodd pethau yn ystod y Tour wrth gwrs wrth i Gymro gamu i'r gris uchaf ar y podiwm. Roedd hi'n amseru gwych i gychwyn blog am seiclo yn Gymraeg, yn doedd!


Yn raddol, mi gynyddodd y diddordeb a'r nifer o ddarllennwyr dros y misoedd canlynol, ond dwi'n teimlo y gwnaethon ni droi cornel ddechrau 2019.


Bryd hynny, mi roeddwn i ym mlwyddyn 9, ac i nodi diwedd Ysgol y Berwyn, cyn iddi droi'n Godre'r Berwyn fel ag y mae hi heddiw, roedden ni'n gwneud cynhyrchiad o Pum Diwrnod o Ryddid.


Cyrraedd adref o ymarferion ar ddydd Sul a'n syth i 'sgwennu am y mannau gorau i fynd ar feic yng Nghymru gan dderbyn cyfraniadau o ledled y wlad.


Cawson ni'r dringfeydd gorau a'r caffis gorau, a dyna oedd y tro cyntaf lle o'n i'n teimlo bod gwerth i'r hyn oeddwn i'n ei wneud ac hefyd 'mod i'n creu ryw fath o gymuned o gwmpas y blog.


Cafwyd tipyn o gofnodion eraill ar hyd y flwyddyn ac erbyn meddwl, mi roedd 'na 'falle fwy o elfen o seiclo proffesiynol erbyn diwedd y flwyddyn honno a dechrau 2020 na sydd rwan.


Pan ganslwyd y tymor seiclo pro dan gysgod y pandemig mi roedd hi'n amlwg yn amser arall-gyfeirio o hynny a troi'r sylw'n dynn eto ar seiclo yng Nghymru, gan edrych ar filltir sgwar a breuddwydio am fod dramor mewn amser digon dyrrus.


Dyna oedd sail y gyfres 'Hoff Bump', lle cefais rai o seiclwyr Cymru i ysgrifennu am eu hoff leoliadau ar ddwy olwyn. Roedd hi'n bleser pur eu rhoi nhw at ei gilydd yn wythnosol a chael amrywiaeth o ran pobl ac o ran daearyddiaeth.


Roedd y gyfres honno'n adlewyrchiad pendant o'r hyn 'dwi wedi'i gredu erioed; sef y dylen ni ymfalchio yn yr amrywiaeth sydd gennym yma yng Nghymru ym mhob agwedd, yn enwedig o ystyried ein bod yn wlad gymharol fach.


Mi ddenodd y gyfres dipyn o ddarllennwyr, a'r gogoniant hefyd o gael darllennwyr newydd. A doedd rheiny ddim yn seiclwyr i gyd - roedd modd denu darllennwyr o bob math sy'n ymddiddori yng Nghymru a'i daearyddiaeth a'i thirwedd hefyd.


Cafwyd ambell i leoliad oedd yn atgoffa pobl o fynd ar dripiau ysgol ac ati ddegawdau'n ol, oedd yn reit neis.


Dros y Gaeaf wedyn y gwnes i adeiladu rhywbeth arall o'r newydd. Gan ddechrau'n y clo dros dro ddiwedd Hydref/dechrau Tachwedd, cawson ni grwp o seiclwyr Cymraeg yn ymuno ar reids Zwift bob nos Fercher am 6 o'r gloch.


Dyna beth arall sydd wedi gwneud i mi synnu faint o bobl oedd gyda diddordeb; gyda grwpiau o dri deg ar rai achlysuron, cyn pylu i ddim erbyn y diwedd ym mis Mai! Ond roedd hynny'n beth da i'w weld hefyd; bod y tywydd yn gwella a bod pobl yn teimlo'u bod nhw'n gallu mynd allan i seiclo'n fwy nag oedden nhw.


Dwi'n edrych mlaen yn barod i ail-gydio yn rheiny pan ddaw'r glaw a'r gwynt a'r eira ddiwedd y flwyddyn, gan obeithio y caf eich cwmni bryd hynny.


Adduned blwyddyn newydd eleni oedd ymrwymo i sgwennu i'r blog bob dydd Sul yn ddi-ffael. Heno oedd yr agosaf i mi ddod i dorri hynny, er mod i'n ddyn rhydd bellach wedi i mi orffen y TGAU bythefnos nol!


Mae hi wastad yn anodd dod o hyd i syniadau newydd, gwreiddiol a dod o hyd i'r amser i ysgrifennu rhywbeth safonol a dwi am gyfaddef bod y cymhelliant yn gallu bod yn isel ar brydiau, ond mae gwybod fy mod i'n datblygu fy sgiliau a chynhyrchu rhywbeth y bydd pobl gobeithio yn ei ddarllen yn fy nghadw i fynd.


Wythnos nesaf, bydd hi'n amser am ragolwg o'r Tour de France fydd wedi cychwyn ymhen pythefnos, felly tan arni fydd hi wythnos yma i'w roi at ei gilydd. Llai o dorheulo a pheidio gwylio gormod ar yr Ewros!


Prosiect arall sydd gen i ar hyn o bryd yw creu casgliadau rhanbarthol drwy Gymru o'r uchafbwyntiau mae pobl wedi'i hargymell i mi dros y blynyddoedd.


Dyma rywbeth oeddwn i wedi bwriadu ei gychwyn yn ystod y clo mawr llynnedd, ond yn y pen draw daeth pethau ar draws ac mi hedfanodd y cynllun i'r gwynt.


Mae partneriaeth gen i gyda'r meddalwedd cynllunio routes poblogaidd sef Komoot, sy'n fy ngalluogi i greu cynnwys gwirioneddol gyffrous a defnyddio'r hyn sydd ganddyn nhw i'r eithaf.


Cychwynnais arni ddydd Iau a dydd Gwener, ac rydw i eisoes wedi creu a chyhoeddi casgliad i Sir Fon ac i Lyn ac Eifionydd. Mae modd i chi'i gweld nhw drwy glicio ar y botwm 'Map Seiclo Cymru' sydd ar dop y dudalen hon, wedyn clicio ar yr ardal perthnasol ar y map, wedyn clicio'r linc i Komoot.


Dwi am drio gweithio fy ffordd drwyddyn nhw a chyhoeddi un rhanbarth bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, felly'r gobaith yw bod casgliad i Eryri, i sir Conwy, i Dinbych-Fflint-Wrecsam, i sir Feirionnydd ac i sir Drefaldwyn erbyn adeg yma'r wythnos nesaf.


Byddai hyn oll ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth amhrisiadwy chi bob wythnos, boed i chi ddarllen y blog ers y dechrau un neu'n ddarllennydd newydd, felly DIOLCH i chi am hynny.


Gan obeithio y byddwn i'n dal yma mewn tair blynedd arall a thu hwnt.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page