top of page

TDF #10

Dioddefaint i nifer o’r ffefrynnau ar gymal tu hwnt i heriol, wrth i Greg van Avermaet sicrhau mae yn ei feddiant o y byddai’r crys melyn ar y diwrnod gorffwys cyntaf.

John Degenkolb yn fuddugol

Gydag ychydig dros 15km i fynd wedi i ddihangiad o 10 fod allan drwy’r dydd, ymosododd dri reidiwr o’r peloton i geisio am y fuddugoliaeth.

Yr Almaenwr, John Degenkolb (Trek-Segafredo; pencampwr Gwlad Belg, Yves Lampaert (Quick-Step Floors); a’r crys melyn Greg van Avermaet (BMC) lwyddodd i gadw allan tan y diwedd.

Yn y wib, roedd hi’n anochel taw Degenkolb fyddai a’i drwyn dros y llinell yn gyntaf diolch i’w gyflymder a’i brofiad.

Van Avermaet orffennodd yn ail gyda Lampaert yn drydydd.

Ffefrynnau’n cael diwrnod cymysglyd

79135411-402E-4EFB-B625-041F2DEAF877.jpeg

Llun: Nia Davies (anfonwyd dros Twitter)

Roedd lwc yn erbyn yr Awstraliad Richie Porte (BMC) ar y cymal hwn wrth iddo orfod ymadael a’r ras cyn cyrraedd y crynfeini.

Dioddefodd godwm lle mae’n debyg iddo dorri pont ei ysgwydd.

Roedd hi’n ddiwrnod trychinebus i Romain Bardet (AG2R La Mondiale) wrth iddo golli amser ynghyd ac eraill megis Tejay van Garderen, Mikel Landa a Rigoberto Uran.

Ond, yn lwcus i’r Cymry, roedd Geraint Thomas yn ddiogel ynghyd a nifer o’r ffefrynnau eraill fel Quintana, Yates, Froome a Bob Jungels.

Oriel

Gweler gredydau’r lluniau wrth glicio ar yr unigolion.

Canlyniadau

Cymal 9

Dosbarthiad Pwyntiau

Dosbarthiad Mynyddoedd

Dosbarthiad Ieuenctid

Dosbarthiad Timau

Dosbarthiad Cyffredinol

Diwrnod gorffwys sydd ar ddydd Llun, y 16eg o Orffennaf, felly bydd cyfle i ragolygu’r wythnos sydd i ddod bryd hynny.

Cofiwch, os nad ydych yn fy nilyn ar Twitter, gellir gwneud hynny – @cycling_dragon.

Recent Posts

See All
bottom of page