Cymal 10
Y cymal rydw i wedi edrych ymlaen ato gymaint ers i’r cwrs gael ei cyhoeddi – un sy’n cychwyn yn y brydferth dref o Annecy tra’n gorffen yn Le Grand Bornand a’i awyrgylch Alpaidd.
Nid yw’n broffil hawdd o gwbl, gyda nifer o ddringfeydd heriol i’w taclo yn ystod y cymal hwn sydd 158.5km o hyd.
Dyma’r prif ddringfeydd:-
Col de la Croix Fry
Pellter: 11.3km
Graddiant cyfartalog: 7%
Categori 1
Montée du Plateau des Glières
Pellter: 6km
Graddiant cyfartalog: 11.2%
Categori HC
Col de Romme
Pellter: 8.8km
Graddiant cyfartalog: 8.9%
Categori 1
Col de la Colombiere
Pellter: 7.5km
Graddiant cyfartalog: 8.5%
Categori 1
Darogan
Gallwn fod yn hollol anghywir ac allan ohoni, ond o ystyried fod y cymal yn gorffen ar ddisgyniad, credaf mai Vincenzo Nibali fydd yn fuddugol.
Comments