top of page

TDF #17

Diwrnod arall i’r dihangiad wrth i Astana ennill eu hail cymal o’r bron.

Magnus Cort yn fuddugol

Ymosododd Cort, Ion Izagirre (2il) a Bauke Mollema (3ydd) o ddihangiad cyn cystadlu am y fuddugoliaeth mewn gwib.

Gorffennodd y peloton ymhell y tu ol iddynt ond dim newidiadau’n y dosbarthiad cyffredinol serch hynny.

Ni lwyddodd Dan Martin a’i ymosodiad ar y disgyniad 40km i mewn i dref Carcassonne wrth i’r peloton orffen gyda’u gilydd.

Canlyniadau ar procyclingstats.com.

Gyda diwrnod gorffwys ddydd Llun, beth sydd ar y fwydlen i’r reidwyr ddydd Mawrth?

Cymal 16

Cymal fynyddig gynta’r Pyreneau wrth i’r reidwyr deithio dros 200km a 5 dringfa wedi’w categoreiddio o Carcassone a Bagneres de Luchon.

Byddent yn dringo’r Col du Portillon (8.3km ar 7%) cyn disgyn i’r llinell derfyn.

Darogan

Romain Bardet yw’n ffefryn i am y cymal yma, diolch i’w dalent dringo a disgyn.

Recent Posts

See All
bottom of page