top of page

TDF #18

Crynodeb o’r diwrnodau diwethaf

A’r cymalau diweddaraf y tu ol i ni, edrych ymlaen mewn gobaith y mae’r Cymry wedi cyfres o berfformiadau cadarn gan ein harwr Geraint Thomas.

Cymal 16

Alaphilippe ennillodd ei ail gymal o’r ras wedi i’r dihangiad fod yn drech na’r peloton o naw munud.

Cymal 17

Yr hir-ddisgwyliedig gymal 17 ddim yn ein siomi gyda Nairo Quintana’n ennill wedi dim ond 65km o rasio. Geraint yn ymosod Dumoulin a Roglic gyda Froome yn cael ei ollwng.

Cymal 18

Diwrnod i’r gwibwyr a hoe i Geraint a’r ffefrynnau. Arnaud Demare yn fuddugol gan guro Christophe Laporte i’r llinell derfyn.

Yr hyn sydd i ddod

Dosbarthiad cyffredinol wedi cymal 18


Cymal 19

Diwrnod mawr yn y mynyddoedd wrth i Geraint geisio sicrhau bod digon o fwlch rhyngddo a Dumoulin cyn y REC.

Cymal 20

Ras unigol yn erbyn y cloc gyda Dumoulin yn ffefryn ond rhaid iddo adennill amser ar gymal 19 i fygwth y maillot jaune terfynol.

Cymal 21

Y diwrnod olaf yn gyfle olaf i’r gwibwyr – pwy fydd yn anrhydeddu’r Champs Elysees gyda buddugoliaeth? *sibrwd* dathliad i Geraint?

Recent Posts

See All
bottom of page