top of page

TDF #19

Sgiliau o gamp y gorffennol o fudd i Primoz Roglic wrth oddo gipio cymal yn y Tour de France am yr ail flynedd o’r bron.

Ennillydd teilwng

Ymosododd Roglic ar y disgyniad olaf gan adael ei gyd-ffefrynnau – Dumoulin, Geraint, Froome ayyb – yn ei sgil.

Cipiodd fuddugoliaeth o 19 eiliad dros Froome (yn y trydydd safle ar ddechrau’r dydd) a chasglu 10 eiliad bonws yn ychwanegol gan esgyn i safle podiwm.

Y Prydeiniwr yn erbyn Roglic mewn ras am y trydydd safle bellach a hyn yn mynd i fod yn gyffrous yn y REC ar cymal 20.

Ond, mae’n bosib i Roglic golli ambell i eiliad ar y DC os yw Dumoulin am brotestio’n ei erbyn am or-ddrafftio ar y disgyniad.

Geraint ar drothwy buddugoliaeth hanesyddol

Gan ddangos graen ac urddas, gwibiodd Geraint Thomas i’r ail safle gan ymestyn ei fantais dros Tom Dumoulin i ddau funud a phum eiliad.

Disgwylir yr ystadegwyr i Dumoulin ennill cymal 20 gan guro Geraint o ychydig llai na munud a hynny wrth gwrs yn ddigon i Geraint sicrhau ei fod wedi ennill y Tour de France 2018.

Mam bach, mae hwn yn mynd i fod yn benwythnos a hanner!

Canlyniadau

Canlyniad

1. Primoz Roglic 2. Geraint Thomas +19″ 3. Romain Bardet ”

DC

1. Geraint Thomas 2. Tom Dumoulin +2’05” 3. Primoz Roglic +2’24

Cymal 20

Y diwrnod lle all Geraint Thomas gipio buddugoliaeth yn y Tour de France a dod a’r maillot jaune yn ol i Gymru.

31km o ras yn erbyn y cloc bryniog a’r ystadegau’n ffafrio Dumoulin heb ffactorio blinder, ysbrydoliaeth ayyb.

Darogan

Credaf y bydd Geraint eisiau gadael ei stamp ar y ras ac yn defnyddio ysbrydoliaeth i gipio buddugoliaeth gan adael Dumoulin yn gwegian mewn blinder o’r Giro a’r Tour.

Recent Posts

See All
bottom of page