Wel dyna ddechrau penigamp i’r Tour de France eleni.
Beth yr oeddem yn ei ddisgwyl: Cymal wibio syml, di-drafferth gyda’r cyntaf yn croesi’r llinell yn cipio’r crys melyn cyntaf a dim gwahaniaeth amser rhwng y ffefrynnau.
Beth ddigwyddodd: Cymal wib â Fernando Gaviria’n ennill ei gymal cyntaf yn y Tour de France a chymryd drosodd y crys melyn. Ond…
Y ffefrynnau’n colli amser
Er mai dim ond cnewyllyn bach o’r ffefrynnau ddioddefodd golledion amser cymharol sylweddol yn ystod y cymal cyntaf, roedd y rhai oedd yn destun i’r colledion yn brif ffefrynnau.
Wedi codwm, collodd Chris Froome 51 eiliad i’r grŵp blaen. Gorffennodd o gyda Richie Porte (BMC) ac Adam Yates (Mitchelton-Scott).
Cafodd nifer arall eu dal yn ôl oherwydd rhesymau gwahanol; gan gynnwys Egan Bernal (Sky) a Nairo Quintana (Movistar) gollodd funud a phymtheg eiliad.
Roedd y ffefrynnau eraill yn ddiogel yn y grŵp blaen, gan gynnwys Geraint Thomas (Sky), Romain Bardet (AG2R), Tom Dumoulin (Sunweb) a Vincenzo Nibali (Bahrain-Merida).Bydd hyn yn achosi newid yng nghynlluniau’r timau mawr, er rhaid cyfaddef ei bod yn gynnar yn y ras i’r colledion yma chwarae rhan yn y dosbarthiad cyffredinol ar ddiwedd y ras.Y tri tim sydd yn debyg o fod yn y tri uchaf ar y cymal RTEC ar gymal 3 fydd Sky, BMC a Sunweb. Gan gymryd na fydd unrhyw ddrama ar gymal 2, mae gan y tri tim gynrychiolydd i gipio’r crys melyn.Serch hynny, plan B fyddai’r un i wneud hynny o safbwynt Sky a BMC yn Geraint Thomas a Tejay van Garderen wedi i Froome a Porte golli amser.Ond o gofio fod Tom Dumoulin (Sunweb) wedi gorffen yn ddiogel ar gymal 1, byddai buddugoliaeth yn y RTEC yn cynnig y cyfle perffaith iddo gymryd mantais gynnar.
Groenewegen yn 6ed? Kittel yn 3ydd?
Roedd y wib orffenedig ychydig yn annisgwyl o ran y canlyniad ac eithrio’r ddau uchaf – Gaviria a Peter Sagan (Bora-Hansgrohe).
Roedd QuickStep wedi gweithio’n galed i gael Gaviria’n y safle perffaith ar gyfer y wib ac fe’u gwobrwywyd yn haeddiannol, tra fod Sagan yn ffefryn am y crys gwyrdd.
Ond ar ôl tymor sigledig gyda Katusha-Alpecin, byddai Marcel Kittel yn hapus iawn wedi gorffen yn drydydd – cyfle iddo godi ei hyder yn sylweddol.
Ac yn gorffen yn chwech roedd y ffefryn am y gymal, y gwibiwr Iseldireg ifanc, Dylan Groenewegen.
Disgwylwyd iddo serennu’n y cymal hwn ond mae digon o amser iddo serennu’n parhau i fod.
Canlyniadau
Cymal 1
Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors; 04:23:32
Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe, +yr un amser
Marcel Kittel (GER) Katusha-Alpecin, +y.u.a.
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates
Christophe Laporte (FRA) Cofidis
Dylan Groenewegen (NED) LottoNL-Jumbo
Michael Matthews (AUS) Team Sunweb
John Degenkolb (GER) Trek-Segafredo
Jakob Fuglsang (DEN) Astana
Rafal Majka (POL) Bora-Hansgrohe
Dosbarthiad Reidwyr Ifanc, wedi cymal 1
Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors
Dylan Groenewegen (NED) LottoNL-Jumbo
Thomas Boudat (FRA) Direct-Energie
Dosbarthiad Timau, wedi cymal 1
Quick-Step Floors
Astana
Bora-Hansgrohe
Dosbarthiad Pwyntiau, wedi cymal 1
Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors, 63 pwynt
Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe, 37 pwynt
Marcel Kittel (GER) Katusha-Alpecin, 24 pwynt
Dosbarthiad Mynyddoedd, wedi cymal 1
1. Kevin Ledanois (FRA) Fortuneo-Samsic, 1 pwynt
DOSBARTHIAD CYFFREDINOL
Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors
Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe, +4 eiliad
Marcel Kittel (GER) Katusha-Alpecin, +6 eiliad
Oliver Naesen (BEL) AG2R La Mondiale, +9 eiliad
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates, +10 eiliad
Christophe Laporte (FRA) Cofidis
Dylan Groenewegen (NED) LottoNL-Jumbo
Michael Matthews (AUS) Sunweb
John Degenkolb (GER) Trek Segafredo
Jakob Fuglsang (DEN) Astana
Cymal 2
Cymal wib arall sydd i’w ddisgwyl yma – un debyg i’r cymal cyntaf a dweud y gwir.
Bydd y lonydd culion yn achosi gofid o gofio colledion amser ddoe, ond hefyd 1 dringfa categori 4, un canolwib ac un gwib ar gyfer eiliadau bonws.
Mae’n bosib y bydd y diweddglo technegol yn profi’n her i’r reidwyr, nifer o droeadau a gwyntoedd uchel yn sialens yn ei hun heb anghofio fod y graddiant yn 2-3%.
Darogan
Ar ol llwyddiant ysgubol ar y cymal cyntaf, i mi, mae’n anodd gweld heibio Fernando Gaviria a QuickStep Floors yn cymryd buddugoliaeth arall.
Comments