top of page

TDF #3

Yr ail cymal yn profi’n ddramatig yn y cilometr olaf eto, wrth i Fernando Gaviria golli’r crys melyn i ennillydd y gymal, Peter Sagan, wedi damwain.

Sagan ‘nôl mewn melyn

Wedi dwy flynedd o seibiant, mae pencampwr y byd Peter Sagan (Bora-Hansgrohe) yn ôl yn y crys melyn.

Dyma’r tro cyntaf i’w dîm wisgo’r crys anrhydeddus yma’n y Tour de France.

Mewn gorffeniad technegol, cwympodd Fernando Gaviria i’r llawr ymysg eraill megis Daryl Impey, gan golli cysylltiad â’r grŵp blaen.

Yn y grŵp blaen bychan, roedd QuickStep, FDJ, Bahrain-Merida a Bora-Hansgrohe yn gyrru eu harweinwyr.

Ond y cyflymaf ohonynt oll oedd Sagan, wthiodd Sonny Colbrelli, Arnaud Demare ac Andre Greipel i 2il, 3ydd a 4ydd.

Wedi’r fuddugoliaeth, nid yn unig y crys melyn sydd ym meddiant Sagan ond crys gwyrdd y dosbarthiad pwyntiau hefyd.

Y ffefrynnau’n ddiogel

Yn yr ail grŵp ar y ffordd oedd y rhan fwyaf o’r ffefrynnau, gan gynnwys Geraint Thomas a Team Sky. Gorffennon nhw tua 10 eiliad yn ddiweddarach.

Mae Geraint nawr yn y 6ed safle, bymtheg eiliad tu ôl i Sagan a’r crys melyn – safle perffaith cyn y RTEC ar gymal 3.

Canlyniadau

Cymal 1

  1. Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe

  2. Sonny Colbrell (ITA) Bahrain-Merida

  3. Arnaud Demare (FRA) FDJ

  4. Andre Greipel (GER) Lotto-Soudal

  5. Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates

  6. Timothy Dupont (BEL) Wanty Groupe Gobert

  7. Alejandro Valverde (SPA) Movistar

  8. Andrea Pasqualon (ITA) Wanty Groupe Gobert

  9. John Degenkolb (GER) Trek-Segafredo

  10. Philippe Gilbert (BEL) Quickstep Floors

Pwyntiau, wedi cymal 2

  1. Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe, 104 pwynt

  2. Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors, 78 pwynt

  3. Alexander Kristoff (NOR) Uae Team Emirates

Timau, wedi cymal 2

  1. Quickstep Floors

  2. Wanty Groupe Gobert

  3. Astana

Brenin y Mynyddoedd, wedi cymal 2

  1. Dion Smith (NZL) Wanty-Groupe Gobert, 1 pwynt

  2. Kevin Ledanois (FRA) Fortuneo-Samsic, 1 pwynt

Reidwyr Ifanc, wedi cymal 2

  1. Fernando Gaviria (COL), Quickstep Floors

  2. Dylan Groenewegen (NED) LottoNL Jumbo, +10 eiliad

  3. Dion Smith (NZL) Wanty Groupe Gobert

Dosbarthiad Cyffredinol, wedi cymal 2

  1. Peter Sagan (SVK) Bora-Hansgrohe

  2. Fernando Gaviria (COL) Quickstep Floors +6 eiliad

  3. Sonny Colbrelli (ITA) Bahrain-Merida +10 eiliad

  4. Sylvain Chavanel (FRA) Direct-Energie +13 eiliad

  5. Philippe Gilbert (BEL) Quickstep Floors +14 eiliad

  6. Geraint Thomas (WAL) Team Sky + 15 eiliad

  7. Oliver Naesen (BEL) AG2R La Mondiale

  8. Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirares, +16 eiliad

  9. John Degenkolb (GER) Trek-Segafredo

  10. Timothy Dupont (BEL) Wanty-Groupe Gobert

Canlyniadau i gyd oddi ar wefan cyclingnews.com

Cymal 3

Er mor gynnar yn y ras, mae’r RTEC (ras timau’n erbyn y cloc) yn mynd i ysgwyd y Dosbarthiad Cyffredinol.

Mae’r trefnwyr wedi plotio cwrs anodd i’r timau daclo; un sy’n cychwyn gyda graddiant o 10% ac ar ol cymalau bryniog bydd dringfeydd eraill yn cymryd holl ymdrech y reidwyr.

Team Sky a BMC yw’r ffefrynnau mawr wedi perfformiadau’n y gorffennol, ond mae Sunweb a Quickstep hefyd yn mynd i fygwth y safle uchaf.

Os yw Sky yn ennill o 11 eiliad neu fwy, bydd Geraint Thomas yn y crys melyn.

Darogan

Rydw i’n darogan y bydd Sky yn ennill y gymal a Geraint Thomas yn cipio’r crys melyn.

Recent Posts

See All

ความคิดเห็น


bottom of page