top of page

TDF #8

Cymal diflas 231km o hyd oedd ar cymal 7 wrth i Dylan Groenewegen ddod o hyd i’w goesau gwibio o’r diwedd.

Groenewegen yn gynt na Gaviria 

Mi ddywedodd yr Iseldirwr Dylan Groenewegen cyn y ras ei fod yn ffyddiog bod y diweddglo’n ei ffafrio.

Llwyddodd i drosi nifer o ganlyniadau gwych ar draws y tymor yn fuddugoliaeth dros Fernando Gaviria a Peter Sagan sydd a dau cymal yr un o dan eu beltiau’n barod.

Mi fydd hi’n ddiddorol iawn gweld os adlewyrchir y diweddglo welwyd heddiw ar gymalau gwibio eraill yn ystod y Tour eleni.

Yn y wib ei hun, roedd yr enwau uchod ynghyd ag Arnaud Demare yn y safleodd gorau, tra gweithiodd Trek-Segafredo ar flaen y peloton yn ystod y dydd i warchod eu gwibiwr hwythau, John Degenkolb.

Cyfaddefodd Mark Cavendish nad yw’n gallu dal i fyny gyda’r timau eraill megis Bora-Hansgrohe a Quick-Step Floors ac felly mae’n anodd ei weld yn cipio 4 buddugoliaeth i gyrraedd record Eddy Merckx.

Eiliadau bonws i GVA

Cipiodd Greg van Avermaet dair eiliad bonws ar y ganolwib olaf wedi gwaith gwych ar flaen y peloton gan BMC i’w roi mewn safle perffaith.

Yn sgil hyn, daliodd ei afael yn dynn ar y crys melyn gan ddyblu ei fantais dros Geraint Thomas i chwech eiliad.

Fel arall, dim newidiadau o gwbl yn y 46 uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol wedi’r cymal tawel, hirwyntog hwn.

Oes angen cymalau mor hir?

Mae nifer o’r reidwyr, gan gynnwys Luke Rowe, wedi mynegi eu barn ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cymal 7, wrth i’r dadlau ail-agor ar y cymalau hirion yma.

Yn sicr, mae’n amhosib cynnal diddordeb unrhyw un am gymaint o amser ac felly dylid ail-ystyried y cymalau yma pan fo iechyd y reidwyr a diddordeb y gwylwyr yn y cwestiwn.

Mae ffrae debyg iawn yn mynd ymlaen yn y tenis hefyd, ar ol i Kevin Anderson a John Isner chwarae am 6 awr a 35 munud.

Chwaraewyd 50 gem yn y bumed set (nid oes “tiebreaker” yn y bumed set) gydag Anderson yn fuddugol 7-6 6-7 6-7 6-4 26-24. Anhygoel.

Canlyniadau

Cymal 7

  1. Dylan Groenewegen (ISE) LottoNL Jumbo

  2. Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors

  3. Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe

  4. Arnaud Demare (FFR) Groupama FDJ

  5. Christophe Laporte (FFR) Cofidis

Dosbarthiad Pwyntiau

  1. Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe, 234 pwynt

  2. Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors, 203 pwynt

  3. Alexander Kristoff (NOR) Katusha-Alpecin, 105 pwynt

Dosbarthiad Ieuenctid

  1. Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb

  2. Egan Bernal (COL) Sky, +27 eiliad

  3. Pierre Latour (FFR) AG2R La Mondiale, +02:17

Dosbarthiad Mynyddoedd

  1. Tom Skujins (LAT) Trek-Segafredo, 6 pwynt

  2. Sylvain Chavanel (FFR) Direct-Energie, 4 pwynt

  3. Dion Smith (SLN) Wanty Groupe Gobert, 4 pwynt

Dosbarthiad Cyffredinol

  1. Greg van Avermaet (BLG) BMC

  2. Geraint Thomas (CYM) Sky, +6 eiliad

  3. Tejay van Garderen (UDA) BMC, +8 eiliad

  4. Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, +9 eiliad

  5. Philippe Gilbert (BLG) Quick-Step Floors, +15 eiliad

Cymal 8

Gwib glwstwr arall sydd yma yn debyg i cymal 7, ond mae’n 50km yn llai a’r diweddglo’n fwy technegol.

Mae’n debyg y bydd y cyflymder yn uchel iawn gan fod y graddiant yn negyddol, ond mi fydd hi’n anodd cynal hynny gyda nifer o droeon i’r chwith ac i’r dde ynghyd a cylchfeydd.

O’r herwydd, mae’n bwysig cadw ar flaen y peloton ac mae’n bosib y bydd y grwp blaen yn gollwng y reidwyr ar y cefn ac yn natur y Tour, mae damweiniau hefyd yn debygol.

Darogan

Mae’r gornel olaf 600m o’r llinell derfyn ac mae Dylan Groenewegen wedi dangos eleni ei fod yn gallu dygymod a hynny.

Wedi buddugoliaeth ar cymal 7, dwi’n meddwl y bydd o’n parhau i guro Gaviria a Sagan felly ef yw’m reidiwr i.

Recent Posts

See All
bottom of page