Tanysgrifwch i dderbyn y cofnodion diweddaraf yn eich ebost, rhag ichi fethu dim byd! Cliciwch yma: http://eepurl.com/hnfWTb
The Art of Cycling
James Hibbard Quercus
A meditative love letter to the sport of cycling, revealing how cycling can shed new light on age-old questions of selfhood, meaning, and purpose.
Interweaving cycling, philosophy, and personal narrative, The Art of Cycling provides readers with a deep understanding into the highs and lows of being an elite athlete, the limits of approaching any sporting pursuit from a strictly rational perspective, and how the philosophical and often counterintuitive lessons derived from sport can be applied to other areas of life.
Accessible to everyone from the hardened racer to the casual fan, The Art of Cycling engages the history of thought through the lens of cycling to undermine much of what is typically thought of as "intellectual," breathing new vitality into life, and countering society's obsession with progress and drive towards the abstract, detached, and virtual. (Broliant)
Mae ‘na dri naratif yn y llyfr yma. Y cyntaf yw seiclo - taith yr awdur a dau gyfaill ar hyd Califfornia. Yr ail yw athroniaeth - mewnbwn a thynnu paralel ag enwau megis Nietszche, Descartes, Heidegger ac yn y blaen. Y trydydd yw taith bersonol yr awdur fel cyn-seiclwr proffesiynol a fu’n brwydro iselder.
Drwy hyn, mae ‘na lif rhyfeddol o naturiol i’r gwaith, ac ro’n i’n teimlo’n hun yn cael fy nghydio gan y llif. Dyma awdur dawnus, heb os, sydd â chrefft gadarn ar drin geiriau yn ogystal â’r cynnwys. Mae’n llwyddo i greu profiad darllen ysgafn tra’n delio â chynnwys sy’n ddigon trwm.
Ond mae’r ysgrifennu ar ei orau pan fo’r tri naratif yn dod ynghyd; lle mae’n tynnu paralel rhwng athroniaeth a champ y ddwy olwyn, rhwng athroniaeth a bywyd personol ac yn y blaen.
Un enghraifft o’r modd y mae’n gwneud hyn yw drwy’r hen ddeuoliaeth sydd mor amlwg yng gwaith Camus yn enwedig - rhesymeg a rhamantiaeth. Rationalism and romanticism.
Mae’n dod â hynny i fyd rasio beics; it seems that the successful tend to overvalue the role played by their will while minimizing the fortuitous structural factors which have underpinned so much of their success.
Enghraifft arall. Does dim gair Cymraeg sydd wir yn cyfateb ag ystyr y gair Saesneg ‘becoming’. A dyna hanfod y llyfr yn y bôn; dyna’r daith yr awn ni arni drwy’r gyfrol. Mae elfen bersonol gref iawn i’r gyfrol wrth gwrs, a lle i uniaethu ag o mewn sawl man, ond yn fwy na hynny, mae’r awdur yn caniatàu i ni ddehongli hefyd.
Caiff sbardun i balu’n ddyfnach i’r cysyniad o ‘hunan’, ac mae’n defnyddio seiclo i archwilio os oes gwir ‘hunan’ oddi fewn i ni, gan fynd ar ôl y traddodiad gorllewinol o drindod (Y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân er enghraifft) ac ar ôl damcaniaethau’r enwau mawr a restrir uchod. Dyna rywbeth archwilir yn fanylach gan Guillaume Martin yn La société du peloton, ond mae’r paradocs yn cael ei drafod yn helaeth yma hefyd - camp i dimau sy’n cael ei ennill gan unigolion, camp gymdeithasol sy’n apelgar iawn i bobl mewnblyg.
Pur anaml y bydda’ i’n gwneud hyn, ond ro’n i’n teimlo angen mawr i blygu cornel uchaf tudalennau gan fod rhywbeth wedi ‘nharo i, rhywbeth y dymunwn i ddychwelyd ato. Mae’n debyg y byddai rhai ohonoch yn fy ngheryddu am wneud hyn, ac anharddu llyfr yn y fath fodd. Dyma un detholiad yr ydw i’n hoff iawn ohono:
In spite of its numerous moving parts, there are only three points where a cyclist is in direct physical contact with a bicycle when it’s being ridden: the handlebars, saddle and pedals, and it’s through these points of contact alone that the rider subconsciously processes, and acts on, the constant flow of information being communicated by his or her machine. Just as the skilled musician becomes aware of aspects of their instrument which would be imperceptible to anyone else, the cyclist comes to understand on a preconscious neuromuscular level, the sensations particular to their bike as they navigate a technical descent or thread their way through a field of riders. [...] Entering into a relationship with the bike, I don’t just regard it with the disinterested detachment of an observer, I use it. And in return it takes me out of my head - re-enchanting life and putting me squarely back into the world of lived experience.
Byddai llyfr am athroniaeth fel hwn yn gallu mynd yn hawdd i deimlo fel rhywbeth sydd wedi’i ddatgysylltu’n gyfan gwbl o fywyd go iawn. Ac nid yn unig trwy blethu’r naratif bersonol mae’r awdur yn llwyddo i wreiddio’r gyfrol yn y diriaethol ac nid yr haniaethol yn unig.
Mae’r llyfr mewn mannau’n mynd i’r afael â’r modd mae seiclwyr yn treulio cymaint o amser yng nghwmni’u meddyliau nhw’u hunain. It takes me out of my head. Mae dihangdod yn elfen fawr o apêl seiclo i nifer, ac mae hynny’n glir yma.
Dwi’n hoff iawn hefyd o’r gymhariaeth â cherddor yn y detholiad, sy’n atgyfnerthu’r modd y mae seiclo’n grefft, ac eto’n creiddio’r gamp yn y diriaethol i gyferbynnu â’r trafodaethau a’r dehongliadau haniaethol. Mae’r cyferbyniad hwnnw’n ehangach yn rhywbeth dwi’n ffàn mawr ohono mewn llenyddiaeth, barddoniaeth ac yn y blaen.
Dwi am bwysleisio ‘mod i’n cydnabod na fydd y gyfrol at ddant pawb, yn naturiol ddigon.
Ond i mi, pe bawn i’n ail-ysgrifennu’r cofnod sydd gen i eisoes o fy hoff bump llyfr seiclo (mae ‘nghasgliad i’n helaeth), dwi’n credu y byddai rhaid i mi ddod o hyd i le i hwn.
Dyma gyfrol sy’n llwyddo, yn syml iawn. Mae’i amcan yn amwys, fel athroniaeth ei hun, ond mae’r is-deitl yn crisialu’r cyfan; Philosophy, meaning and a life on two wheels. Y pwysicaf o’r tri yma, yn fy marn i, yw meaning - ystyr. Fel o’n i’n sôn yn gynharach, mae’r gyfrol ar ei gorau pan yn cyfuno’r gwahanol elfennau sydd ynddi, ac ystyr yw’r llinyn sy’n gwau drwyddyn nhw i gyd - ystyr i seiclo, ystyr iddo fo’i hun, ac ystyr i fywyd. Drwy hyn, cawn ei hatgoffa o pam mai seiclo ydy’r gamp orau’n y byd. Mae’n llawn ystyr, mae’n achubiaeth, mae’n gelfyddyd. The Art of Cycling - Campwaith.
Comments