top of page

Tour Paralel: Pogačar, Colombière a fi



Mae’n drydydd o Orffennaf, 2021, a chymal 8 y Tour de France sy’n cael ei gynnal yn gynharach na’r arfer oherwydd y Gemau Olympaidd. Meddyliwch yn ol flwyddyn - wel, llai na blwyddyn, mewn gwirionedd, i ras 2020. Un o’r rhediadau hwyraf erioed o’r ras, a’r rhan fwyaf yn cael ei chynnal ym mis Medi. Ar y 25ain, hoeliwyd sylw’r byd ar wr ifanc o Slofenia, Tadej Pogačar, gynhyrchodd berfformiad arallfydol - gair doji yn y byd seiclo - i gipio’r crys melyn o afael ei gyd-wladwr, Primož Roglič. Yn naturiol felly, Pogačar yw’r ffefryn mawr i ennill y ras am yr eilwaith o’r bron.


Ar ddechrau’r cymal, mae Pogačar yn eistedd yn y pumed safle ar y dosbarthiad cyffredinol. Rhwng ennill y cymal yn erbyn y cloc, cipio eiliadau gwerthfawr ar gymalau bryniog megis i Mur de Bretagne, ac ennill eiliadau bonws fan hyn a fan draw, mae ganddo fantais gadarn dros ei brif gystadleuwyr. Dydy’r hierarchaeth yn eu plith nhw heb sefydlu chwaith, ac mae’r gwr o Slofenia’n ymddangos ben ac ysgwyddau uwch eu pennau yn barod.


Mae cymal 8 yn gymal rhwng Oyonnax a Grand Bornand, sy’n ddigon pell yn y car i’r rhai ohonom sy’n adnabod traffyrdd a llwybrau tarw y rhanbarth. Er, ‘dim ond’ 150km ydy’r cymal, sy’n gymharol fyr o safonau’r Grand Tours. Yn nhroedfryniau dechrau’r dydd, mae naratif y dydd yn dechrau sefydlu, a daw i’r amlwg mai stori aml-haenog â nifer o edau yn gwau drwyddi fydd hon. Rasys o fewn y ras.


Drwy’r glaw yn gynnar yn y cymal wrth i dempo ffrwydrol gael ei osod, mae Geraint Thomas a Primož Roglič, dau o’r prif ffefrynnau i ennill yn Paris, yn colli gafael ar y ras am y crys melyn a’u gobeithion yn dirwyn i ben.


Dechrau poethi - er nid o ran y tywydd - wna pethau wrth gyrraedd dringfa gategori 1 i Mont Saxonnex ar y ffordd i dref Cluses, ac mae’r dihangiad yn fawr a serennog. Mae’n ddiwrnod sy’n eu siwtio nhw, ac mae’n bur debyg mai dringwr cryf o’u plith fydd yn dathlu yn Le Grand Bornand ar ddiwedd y dydd.


A minnau’n ddigon ffodus o fod wedi bod yn yr ardal hon lawer gwaith erbyn hyn, mae’r Col de la Colombière yn gyfarwydd i mi. Dyma’r ‘dringfa Tour de France’ agosaf at lyn Annecy - neu’r ochr ddeheuol beth bynnag - ac felly mae wedi bod yn uchafbwynt i ambell drip.


Ond ro’n i wastad wedi bod eisiau dringo’r Colombière yr ‘ochr anodd’; yr ochr fyddai’n dod fel denoumenent ar gymal o’r Tour.


Ac felly dyna wnes i eleni, er mwyn ail-greu rhan olaf ymosodiad anferthol Tadej Pogacar ar gymal 8 y Tour llynnedd.


Dwi’n dechrau ar y disgyniad o gopa’r Colombière i lawr am Cluses, yn mwynhau’r rhan uchaf yn enwedig sy’n ddigon serth i fod yn gyflym, ond ddim digon serth i fod yn beryglus. Mae’r corneli’n rhai goddefgar, heb fod yn rhy siarp. Mae haul y bore yn taflu golau cynnes, braf ar y copaon yn y pellter, ac yn llwyddo i losgi drwy’r cymylau i roi awyr las, glir.

Yr olygfa o gopa'r Col de la Colombière


Ar ôl cyrraedd Le Reposoir, y pentref hanner ffordd i lawr - o’m safbwynt i - mae’r disgyniad yn newid rhywfaint. Mae’n llai agored, yn nadreddu drwy goetir, ac hefyd mae’r graddiant yn gostegu, gan annog pedlo er mwyn cynnal y cyflymder. Mae’r ffordd yn culhau a’r corneli’n mynd yn dynnach, ac mae’r beic yn fwy ystwyth ar y ffordd nag unrhyw gar.


Ymhen hir a hwyr, mae’n rhaid i mi droi i’r dde i barhau’r disgyniad tuag at Scionzier yn hytrach na Cluses, gan mai dyna waelod y Col de Romme.


Wrth gyrraedd dringfa ola’r dydd - sy’n un ddringfa hir, mewn gwirionedd, yn hytrach na’r ddwy sydd ar broffil y ras; dringfa ddwbl, pe dymunech. Y Col de la Colombière - ffefryn gan y Tour - ond nid y brif ffordd i’r copa. Maent wedi dewis anfon y reidwyr ar y ffordd gefn heibio’r Col de Romme - y ffordd dawelach, ond tipyn anos. Wrth i’r peloton o ffefrynnau nadreddu drwy Scionzier ac ymlaen at waelod y Col de Romme, mae’r dihangiad yn dechrau chwalu’n shwtrwns a reidwyr ar draws yr heol i gyd, tra bo’r gwibwyr a’r reidwyr trymach yn dioddef yn barod ymhell tu ol.


Mae Scionzier yn fath o dref eithaf diwydiannol a nifer fawr o rowndabowts sydd i’w cael yn aml ar gyrion tref fwy.


Rywsut neu’i gilydd, dwi’n llwyddo i fethu’r tro am Romme, ac yn ffeindio’n hun ar rowndabowt arall. Digon hawdd troi’n ôl felly - ond gofal mawr i osgoi’r allanfa sy’n mynd am y draffordd. Dwi’n llwyddo i fethu’r allanfa gywir eto. Tri chynnig i Gymro, a dwi’n llwyddo i gyrraedd y Col de Romme.


Mae’r ffordd yn enghraifft berffaith o ‘ramps up right from the start’ wrth i beth sy’n ymddangos fel wal fy nghroesawu i’r ddringfa, a’r arwydd yn gadael i mi wybod y bydd y graddiant cyfartalog yn 11% am y cilomedr cyntaf.


Dwi’n medru teimlo’r graddiant caled hwnnw o’r cychwyn cyntaf, ac er ei bod hi’n gymharol gynnar yn y dydd, mae’n gynnes yn barod. Mae’r ffordd yn fy arwain o gwmpas ambell un o gorneli cynta’r ddringfa sy’n cynnwys degau o fachdroeon. Mwy nac Alpe d’Huez a’i 21 os cofia i’n iawn.


Cilomedr gyntaf y Col de Romme


Yn gefnlen i’r cyfan ar hyn o bryd mae’r dyffryn gyda’r ddwy dref fawr ar ei lawr, a mynyddoedd digon mawr yn esgyn i fyny naill ochr. Mae’r draffordd A40 i’w weld a’i glywed, y ffordd sy’n cysylltu Geneva a Mont Blanc a’r Eidal.


Wedi’r ail gilomedr anodd sy’n parhau ar raddiannau ffigyrau dwbl cyson, mae’r ffordd yn newid rhywfaint ac mae tipyn mwy o goed i’m cysgodi rhag yr haul sy’n prysur fynd yn danbaid. Mae sŵn y draffordd yn diflannu, ac o’r herwydd, mae’r profiad dringo go iawn yn cychwyn. Dim ond fi a’r beic a’r ffordd.


Ar lethrau’r Col de Romme mae mantais Søren Kragh Andersen yn pylu i ddim wrth i Mike Woods lwyddo i’w ddal a chymryd blaen y ras 7km o’r copa. Yng ngrŵp y crys melyn, mae Ineos yn cymryd y blaen drwy Michał Kwiatkowski a Tao Geoghegan Hart.


Mae’r tempo sy’n cael ei osod gan y ddau ohonynt yn ddigon i ddiosg y ddau ar frig y dosbarthiad cyffredinol sef Wout van Aert a Mathieu van der Poel. Bydd perchennog newydd ar y crys melyn ar ddiwedd y dydd.


Wrth gyrraedd pentref Nancy sur Cluses, mae’r graddiant yn gostegu rhywfaint, a dwi’n clywed a synhwyro rhywun ar fy olwyn gefn. Mae’n aros ar fy olwyn gefn am sbel go hir.


Mae’r graddiant yn mynd yn anos wrth ddringo allan o’r pentref, ac mae’n agor allan unwaith eto wrth i’r mynyddoedd ymddangos eto.


Mae Monsieur ar fy olwyn, sydd heb yngan gair, yn mynd heibio i mi. Ond ddim digon cyflym, a dwi’n styc tu ôl iddo fo.


Gyda phum cilomedr i fynd, mae UAE yn dod i’r blaen i weithio dros Pogačar a Davide Formolo yn gwagu’r tanc dros ei gyd-weithiwr yn gynnar yn y dydd.


Ymhen hir a hwyr, dwi’n laru ar dempo Monsieur. Mae fymryn rhy araf deg, a dw i isio gosod fy nhempo fy hun. Felly, dwi’n clicio mewn i un gêr uwch, ac yn ceisio rhoi ychydig o ymdrech er mwyn ei ddiosg go iawn.


Rownd cyfres o gorneli, ac mae’n agor eto. Dim ond cwmni fy meic, y ffordd, swn fy anadl, y mynyddoedd yn y pellter a byd natur o’m cwmpas sydd gen i. ‘Dim ond’. Dwi’n sylweddoli pa mor bur ydi’r profiad yma o ddringo, ac yn ei werthfawrogi, yn ei sawru.


2km i fynd o’r top ac mae’r anochel yn digwydd. Tadej Pogačar yn ymosod yn y crys gwyn, a Richard Carapaz yn gorfod ysgyrnygu dannedd go iawn i ddal gafael ar ei olwyn gefn. Mae’n ymosodiad o gryfder aruthrol, ac yntau’n pweru allan o’r cyfrwy am bron i hanner cilomedr cyn medru rhoi golau dydd rhyngddo fo a Carapaz.


Mae’n mynd ychydig yn haws wrth ddynesu at y copa, a graddiant y cilomedr olaf yn 7%, sy’n dipyn mwy goddefgar na’r cilomedrau a fu. Daw par sydd a thinc o Felgiaid neu Isalmaenwyr i’w ‘bonjour’, ac ymlaen a nhw tua’r copa. Dwi’n ceisio’u cadw nhw o fewn golwg wrth i’r ffordd gyrraedd plateau ar y top, ac ysblander y copaon ar eu gorau.

Top y Romme

Wrth ddynesu at gopa’r Romme a rownd y gornel olaf mae Pogacar yn prysur basio nifer fawr o aelodau’r dihangiad gwreiddiol, sy’n dal i fod ar wasgar ar hyd y cwrs. Yn eu plith mae Soren Kragh, sy’n taflu golwg ‘be ddiawl?!’ arno.


Does dim hyd yn oed arwydd ‘Col de Romme’ ar gopa’r ddringfa, wedi’r holl ymdrech. Dim ond arwydd am y pentref, sy’n fychan a di-nod mewn gwirionedd

Top y Romme


Ymhen ychydig, dwi’n ail ddechrau, ac yn barod am y disgyniad i ymuno a’r brif ffordd.


Lawr y disgyniad byr at Le Reposoir cyn ail-ddechrau dringo, mae Woods ar flaen y ras yn ei chymryd hi’n araf deg o gwmpas y corneli ar y disgyniad llithrig.


Le Reposoir: mae’n rhaid bod cysylltiad rhwng enw’r pentref a’r ferf ‘se reposer’, ymlacio neu ymadfer. Dw i’n bachu ar y cyfle i dynnu anadl cyn yr ymdrech olaf.

Le Reposoir

Wrth ddringo’r 7.5km sy’n weddill i gopa’r Colombiere, mae Pogacar yn parhau i basio nifer fawr o aelodau’r dihangiad, sy’n edrych arno mewn anghrediniaeth. Dim rhyfedd, a hwythau’n ei chael hi’n anodd troi’r pedalau tra bo’r anghenfil hwn yn dal i fedru pedlo’n y tsiaengylch mawr - y ‘big ring’.


Mae’r dringo’n gyson anodd, ond heb fod yn amhosib ar y pwynt yma. Hofran o gwmpas 8 a 9% wna’r graddiant, a dwi’n gallu goddef hynny ar hyn o bryd.


Mae ‘na Ffrancwr hyn o’m blaen i sy’n dechrau sgwrs, ac mae’n amlwg yn meddwl fod fy Ffrangeg i’n go lew gan iddo ofyn os mai Ffrancwr ydw i.


Yr un rig-ma-rol wedyn; Cymro ydw i, Geraint Thomas ayyb. Wedi reidio Tour da. Mynd yn hŷn rwan.


3.3km i fynd i Woods ac mae’n cael cwmni gan Dylan Teuns, reidiwr o Bahrain-Victorious sydd wedi amseru’i ymdrech yn berffaith ar y cymal, gan gadw’n eithaf pell y tu ol i flaen y ras ar y Romme, cyn codi’r tempo ar y Colombiere. Dydy hi ddim yn cymryd amser maith i Teuns ollwng Woods, ac mae bellach yn ymgyrch unigol am y cymal yn Le Grand Bornand.


Mae 3km olaf y Colombiére yn hunllefus.


Mae pob un ohonyn nhw, pob cilomedr unigol, ar raddiant o 11%.


Mae’n lladdfa, wir i chi. Dwi’n gallu dygymod fel arfer a 3km o 11% ar ei ben ei hun, ond nid ar ddiwedd dringfa hirfaith fel hon.


Ar ben hynny, mae’n ganol dydd a’r haul yn danbaid go iawn erbyn hyn.


Dwi yng ngêr hawsa’r beic, y Ffrancwr lleol ymhell o’m blaen erbyn hyn, ac yn araf droi’r pedalau er mwyn ceisio cyrraedd y copa. Dwi’n cael fy nhemptio i stopio a chymryd sbel - unheard of - ond yn rhygnu ‘mlaen. Bydda’i ar y top yn gynt fel’ne.


Ac yn y diwedd, dwi yn llwyddo. Roedd hwne’n dipyn o ymdrech, ac yn sicr ymysg y dringfeydd anoddaf dwi wedi eu gwneud, o dan yr amgylchiadau yn ogystal ag ar bapur o ran yr ystadegau ac ati.

Cyrraedd y copa; gyda diolch i Sara am y llun


Omelette efo caws lleol a bacwn ar y top, a golygfeydd arbennig yn gwmni. Mae’n gwneud y dringo werth yr ymdrech, on’d ydy.


Dros y copa ac mae Teuns yn cyrraedd yno gyntaf gan gipio pwyntiau i ddosbarthiad brenin y mynyddoedd. Yn y cyfamser, mae Pogacar wedi llwyddo i fynd heibio Woods a’r gweddill, a fo sy’n llwyddo i gyrraedd copa’r Colombiere yn yr ail safle. Fel pe bai eu hangen arno, mae’n hawlio 5 eiliad bonws ar gyfer y dosbarthiad cyffredinol.


Teuns yn feistrolgar ar y disgyniad - yn rhoi popeth yn y fantol er mwyn ennill er cof am ei dad. Mae’n llwyddo i ddal gafael ar y fuddugoliaeth, a fo sy’n medru codi ei freichiau mewn dathliad yn nghyrchfan sgio Le Grand Bornand. Tipyn o gamp pan fo anghenfil yn anadlu i lawr ei wddf.


Pogačar ddim yn peryglu dim ar y disgyniad ac o’r herwydd mae’n cael cwmni Woods unwaith eto, a Ion Izagirre hefyd. Dair munud ac ugain eiliad yn ddiweddarach, mae gweddill ffefrynnau’r dosbarthiad cyffredinol yn cyrraedd dan anghrediniaeth, a mynydd sy’n gynyddol amhosib i’w ddringo er mwyn dadgoroni’r brenin newydd.


Beth yw pencampwr?


“Mae pencampwr yn ymwybodol ei fod o’n unigryw ac mae’n arddangos hynny heb gywilydd na gwyleidd-dra ffals. Mae’n eithaf sicr o’i nerth, ei statws uwch, a’i allu i roi’r statws hwnnw yn y fantol yn ddyddiol - ond ei adennill eto. Ni all bencampwr fodoli heb gystadleuydd, heb elyn; dydy o ond yn ennill pan fo eraill yn colli.


“Er y gallai elwa o’i statws er mwyn meddiannu, neu elwa o’i natur unigryw er mwyn alltudio, y wyrth yw fod y pencampwr yn dangos ei allu - heb fawr ddim ymdrech - i uno pobl.”


Byddwn i’n maddau i chi pe baech yn meddwl mai geiriau athronydd mawr fel Jean-Paul Sartre neu Jean-Jacques Rousseau fyddai’r rhain. Ond geiriau Ffrancwr arall â meddwl athronyddol ydynt; geiriau Guillaume Martin, 8fed yn y Tour de France y llynedd, ac yntau’n dal gradd meistr mewn athroniaeth. Maen nhw’n dod o’i gyfrol ddiweddaraf, La société du peloton, sy’n archwilio’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r dorf yng nghyd-destun seiclo proffesiynol.


Ymddengys fod y cysyniad o bencampwr ac arwriaeth wedi bodoli erioed. Mae’r gwaith llenyddol o bwys cynharaf sydd wedi goroesi yn gerdd sy’n canu mawl i arwr, sef Epig Gilgamesh, gan ddyddio’n ôl i tua 2100 CC. Yn Ewrop, mae’r ddwy gerdd o Hen Roeg, yr Iliad a’r Odyseia, yn dyddio’n ôl i rhwng 800 a 600 cyn Crist. Yng Nghymru, canu mawl i arwyr yw cynnwys y farddoniaeth Gymraeg gynharaf sydd â chofnod ohoni, a hynny yn ngherddi Taliesin ac Aneirin o’r chweched ganrif.


Roedd Tour de France 2021, a’r cymal hwn yn benodol, wedi sefydlu statws Tadej Pogačar fel arwr. Y brenin nesaf i deyrnasu dros y Tour de France a’r byd seiclo yn ehangach.


Yr hyn sy’n gwneud iddo sefyll allan mewn cyd-destun modern - er yn ymdebygu i arwyr mawr y gamp yn y gorffennol fel Eddy Merckx - yw’r modd y mae’n rasio am bob eiliad bonws, am bob buddugoliaeth.


Mae’r rhinwedd ‘canibalistig’ yma yn nodweddiadol iawn o’i rasio. Does ond angen edrych ar ei palmares yn barod ac yntau mor ifanc i weld hynny. Mae wedi ennill mwy o gymalau yn y Tour de France mewn tair ras nag y gwnaeth Chris Froome, yn ogystal â llu o rasys wythnos a rasys undydd o bob math.


Ydy o’n rhywbeth am ei ieuenctid, yr awydd yma i ennill? Neu ydy o’n symlach; awydd i fwynhau rasio?


Does dim dwywaith fod gallu aruthrol ganddo.


Ond mae’r cryfder mae wedi'i ddangos mor ifanc wedi ei wneud yn darged i bawb arall - timau â chyllidebau mawr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w guro.


Ac mi lwyddodd Jumbo Visma i wneud hynny eleni.


Mae’n newid trywydd yr hyn yr oedden ni wedi ei ddisgwyl. Roedd disgwyl iddo feddiannu am flynyddoedd i ddod.


Sut bydd hyn yn newid ei gymeriad? Fydd o’n newid ei arddull rasio?


Cawn weld.


Ond mae’n sicr y bydd y blynyddoedd nesaf o rasio proffesiynol yn arbennig.

Recent Posts

See All
bottom of page