top of page

Wythnos o Seiclo: Gogoniant y Gemau

I mi gael egluro'r fformat newydd: dwi'n cymryd ysbrydoliaeth o 'The Diary' mewn cylchgrawn gwleidyddol dwi'n ei fwynhau, lle mae rhywun gwahanol yn ysgrifennu am eu hwythnos bob wythnos. Bydd hwn yn dod pan na fydd gen i gofnod 'feature' i'w gyhoeddi, er mwyn sicrhau fod ysgrifennu blog wythnosol yn gynnaliadwy i'r dyfodol tra'n dal i'ch difyrru fel darllennwyr gyda chynnwys amrywiol. Mae'n teimlo fel oes ers y Gemau Olympaidd dwetha, 'dydi. Ac wrth edrych yn ôl, mae digon wedi digwydd mewn pum mlynedd. Gemau Olympaidd Rio, ro'n i'n symud o'r ysgol gynradd i'r uwchradd; Tokyo, symud i'r Chweched. Yn y canol, mae cymaint wedi digwydd ac wedi newid; bodolaeth y blog yn enghraifft amlwg. Rasys ffordd i'w cofio Roedd y rasys ffordd yn wych penwythnos dwetha. 'Nes i wirioneddol mwynhau'r profiad newydd o droi ras seiclo mlaen, ryw 60km i fynd, y peth cyntaf ar ôl deffro. Ras y dynion yn gystadleuol a gafaelgar dros ben ddydd Sadwrn; grwp serennog o 13 - pob un o dîm gwahanol felly dim mantais gan neb - yn brwydro ac amseru ymosodiad i'r dim oedd yr allwedd i fuddugoliaeth Carapaz. Roedd o mor gryf, ac mor glyfar. Pencampwr haeddiannol; ond dybiwn i mai Wout van Aert oedd seren y gêm, gan dynnu'r gweddill nôl ar ei liwt ei hun AC wedyn ennill medal arian yn y wib. Dwi'n meddwl fod y ffaith fod Pogačar wedi dod o fewn trwch blewyn i'w guro'n tystio fod y Belgiad wedi ymroi'n llwyr i'r ymdrech. Cyffrous dros ben, a hyn i gyd cyn hanner awr wedi naw! Heb os, fodd bynnag, Anna Kiesenhofer oedd brenhines y penwythnos agoriadol. Methu â chael cytundeb proffesiynol yn 2016 er ennill ras ar Ventoux a chanolbwyntio ar astudio PhD mathemateg yn lle. Wedyn, cael ei dewis yn nhîm Awstria ar gyfer y Gemau - ond neb yn ei iawn bwyll yn uwcholeuo ei henw ymysg y ffefrynnau. Ymosod o fewn y cilometr cyntaf un, a gadael ei chyd-ddihangwyr Plichta a Shapira a mynd ar gyrch unigol i'r fedal aur. Reidiwr mor mor gryf, a dwi'n mawr obeithio bod llawer mwy i ddod ganddi yn y blynyddoedd nesaf. Perfformiad sy'n haeddu lle yn y llyfrau hanes. Ond nid dyna ddiwedd y stori. Roedd hi'n mynd i fod yn anodd iawn i'r Iseldirwyr i fethu ag ennill o ystyried fod Vos, van der Breggen, van Vleuten A Vollering yn eu rhengoedd - pedair o'r goreuon yn y byd. Ond methu wnaethon nhw. Medal arian i van Vleuten a hithau'n dathlu â'i breichiau yn yr awyr wrth gyrraedd y llinell. Roedd hi'n meddwl ei bod hi wedi ennill. Rhaid cofio nad oedd gan y reidwyr radio yn eu clust, yn groes i'r arfer. Mae'n bosib felly nad oedden nhw'n ymwybodol o fodolaeth, heb sôn am faint, y bwlch amser i Kiesenhofer. Serch hynny, mae'n debyg fod 'na sawl ar feic modur, fel sy'n arferol, yn eu diweddaru o'r bwlch ar fwrdd du. Yn ôl y sôn, roedd 'na gymaint o feiciau modur nes eu bod nhw'n methu â gweld yr un yma. Dyma felly agor y dadlau ynghylch y radio unwaith eto. Cafwyd arbrawf fwy na degawd yn ôl o beidio â'u defnyddio, ond nesa' peth i boycott gafwyd gan y peloton bryd hynny. Yn yr arbrawf hwnnw, pryderon am ddiogelwch oedd eu dadl. Yr ateb, yn fy marn i, ydy cadw radio ond dim ond ar gyfer diogelwch, hynny yw i rybuddio reidwyr o unrhyw gorneli cas ac ati o'u blaenau. Dim cyfarwyddiadau gan y directeurs sportifs o'r car. Os digwyddith hynny - sy'n hynod annhebygol - mi gawn ni fwy o'r rasys athreuliol, cyffrous yma lle mae'r reidwyr yn rasio wrth reddf. Does dim dadlau'n erbyn y ras y cloc, fodd bynnag. Un reidiwr ar y tro, nhw yn unig, yn mynd mor galed ag y gallen nhw. Annemiek van Vleuten, un o arwyr byd seiclo menywod, yn cael ei haeddiant drwy ennill ras Olympaidd am y tro cyntaf. Mor braf oedd gweld hynny; nid yn unig fel gwobr iddi am ddwy flynedd mor llewyrchus a llwyddiannus, ond wedi'r anrhefn y dydd Sadwrn blaenorol lle'r oedd hi'n meddwl ei bod hi wedi ennill. Marlen Reusser o'r Swistir yn cipio'r fedal arian, a'r fedal aur i gyd-wladwraig van Vleuten, Anna van der Breggen. O ran y dynion, roedd sylw'r Cymry ar Geraint Thomas; a ganddo gwelson ni ymdrech lew a pherfformiad canmoliadwy i orffen yn 12fed, ond roedd y goreuon ar lefel arall. Stefan Kung a Filippo Ganna, dau o'r ffefrynnau mawrion a'r arbenigwyr gorau, yn methu cyrraedd y medalau. Roedd y rhai a'u hawliodd nhw, serch hynny, yn deilwng iawn. Rohan Dennis yn cael y fedal efydd wedi iddo dan-gyflawni'n ddiweddar; ymddengys nad yw'r berthynas rhyngddo a'i dim Ineos yn wych. Tom Dumoulin, sydd wedi cymryd saib i ganolbwyntio ar ei iechyd meddwl, yn dychwelyd i'r brig i gymryd medal arian. Roedd nifer yn credu na fyddai'n dychwelyd, felly mae'i weld yn perfformio fel hyn yn llonni'r galon. Ond funud yn gynt na nhw'i gyd oedd y Slofeniad, Primoz Roglic. Wedi gadael y Tour gydag anaf, ac yntau'n un o'r prif ffefrynnau, mae'n braf iawn gweld ei gryfder a'i bersonoliaeth yn ffynnu unwaith yn rhagor. Mae'r wythnosau a'r misoedd diwethaf yn sicr wedi profi pam ydw i wrth fy modd yn gwylio seiclo. Y dramâu, y straeon, y cymeriadau. Ac mi roedd y rasys ffordd Olympaidd yn fwy o dystiolaeth byth i hynny. Cael fy ngafael gan gampau gwahanol Nid yn aml ydw i'n gwylio unrhyw gamp heblaw seiclo neu pan mae Cymru'n chwarae, ond pan mae'r Gemau Olympaidd yn dod does dim esgus i beidio gwylio campau eraill. 'Dwi wastad yn mwynhau rygbi saith bob ochr ac mae mor braf ei gael yn y Gemau. Wnaeth o mo'm siomi; yn enwedig y gystadleuaeth i'r menywod oedd yn gystadleuol, yn agos ac yn gyffrous dros ben. O ran y ddwy olwyn, nes i fwynhau'r beicio mynydd fore Llun. Hollol wahanol i rasys ffordd wrth gwrs, ond enw cyfarwydd, Tom Pidcock, yn ennill yr aur. Cymaint o drueni fod Mathieu van der Poel wedi gorfod tynnu allan wedi damwain boenus. Gobeithio bydd o'n holliach yn fuan iawn. Anaml ydyn ni'n gweld yr hyn ddigwyddodd ddydd Mawrth, sef tair o'r un wlad ar y podiwm. Tair o'r Swistir yn hawlio'r medalau; Jolanda Neff, Sina Freid a Linda Indergrand. Mor braf yw gweld BMX yn rhan o'r Gemau hefyd. Er na wnes i'w gwylio nhw'n fyw oherwydd yr amser anghymdeithasol, dwi wrth fy modd fod yr agwedd yma o seiclo'n cael ei gynnwys. Mae'n agor y drws i bobl o gefndir gwahanol, o hil gwahanol. Pur anaml mae 'na gynrychiolaeth groenddu unrhyw le'n agos at frig y gamp, gan eu bod nhw'n gorfod wynebu cymaint o rwystrau i gyrraedd y lefel broffesiynol, felly roedd medal arian i Kye Whyte i'w groesawu a'i glodfori. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at wylio'r seiclo trac wythnos yma. Mae 'mlaen drwy'r rhan fwyaf o'r bore, hyd at amser paned, o 7.30. Mwy o fanylion yng nghofnod wythnos diwethaf drwy glicio yma. Mae 'na ddau fath o berson yn y byd... ...rhai sy'n meddwl fod mynd ar goll yn antur, a rhai sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddilyn y llwybr cywir. Dwi'n perthyn i'r ail gategori. Mae mor hawdd erbyn hyn, gyda chyfrifiaduron GPS gan Wahoo neu Garmin ac yn y blaen, i blotio route o flaen llaw a'i ddilyn yn ddidrafferth yr holl ffordd i fwynhau'r cyfan heb boen yn y byd. Daeth hynny'n ddefnyddiol iawn ddoe pan aethon ni ar lonydd anghyfarwydd mewn ardal anghyfarwydd yn nyffryn Ceiriog. Mantais arall o gynllunio o flaen llaw yw gallu gweld y proffil - felly roeddwn i'n ymwybodol bod 'na ddringfa galed allan o Glyn Ceiriog. Ond doedd hynny heb fy mharatoi i am y filltir oedd i ddod; cyfartaledd graddiant o tua 13%, ond cydrannau i'r gogledd o 30% yn ol y cyfrifiadur heibio'r eglwys. Prin oedd unrhyw gyfle am ysbaid, a doedd lleithder y ffordd ddim yn help chwaith. Ro'n i mor falch i weld yr arwydd am y groesffordd oedd yn dynodi'r copa. Wedi i mi gyrraedd adref, mi sylweddolais i fod hwn yn llyfr Simon Warren, Cycling Climbs of Wales, dan yr enw 'Church Hill'. Ond dwi'n meddwl fod y sgor her o 7/10 yn gamarweiniol.... mae'n lladdfa! Dwi'n falch o allu dweud fy mod i wedi cael allan ar y beic go iawn wythnos yma. Mi allai pobl feddwl ein bod ni seiclwyr yn bobl cwynfanllyd iawn... rhy boeth wythnos diwetha', rhy wlyb wythnos yma. Mi wnes i fachu ar y cyfle brynhawn dydd Llun i fynd am sbin dair awr yn sir Ddinbych o hanner can milltir, wedyn mymryn mwy na hynny ar reid ddoe (sydd yn rhan o gasgliad goreuon Clwyd, os ewch chi i dudalen Map Seiclo Cymru a chlicio ar yr ardal). Mae 'di bod yn dywydd da i fynd am dro. Ddydd Iau aethon ni i grwydro bryniau uwchben dringfa Cwm Hirnant, un o'r uchaf yng Nghymru, oedd yn braf, tawel ac anghysbell. Wedyn heddiw, dringo'r Arenig Fawr. Golygfeydd gwych dros Eryri - lle da iawn i werthfawrogi'n bro, a digon o her i'w gyrraedd. Fel arall, roedd dydd Gwener yn cynnig profiad newydd arall. Mi roedd yn anrhydedd bod yn rhan o sgwrs am chwaraeon lleol, dan arweiniad penigamp un o ffyddloniaid y blog, Owain Schiavone. Nic Parry, Begw Elain, Gwenan Harries ac Owain Gwynedd oedd yn rhannu'r panel efo fi, ac mi wnes i fwynhau'n fawr iawn. Mae'n drafodaeth ddifyr, ac os hoffech chi'i wylio'n ol cliciwch ar y linc yma. Hynny ar ol trafod y newidiadau yn yr Highway Code ar Post Prynhawn. Cam i'r cyfeiriad cywir o'n safbwynt ni fel seiclwyr, ond fel 'den ni'n gwybod, mae 'na ffordd bell i fynd.

Recent Posts

See All
bottom of page