Cwestiwn sy’n cael ei roi’n aml i seiclwyr o bob lefel gallu yw; beth sy’n mynd drwy’ch meddwl chi am yr oriau unig ar y beic?
I nifer, gan gynnwys fi’n hun, mae’n amser llesol i brosesu meddyliau ac i gael meddwlgarwch answyddogol mewn byd gwallgof, ac mae’r elfen yma’n un o’n hoff bethau am ddianc ar ddwy olwyn.
Ond i Guillaume Martin, sydd ddwywaith wedi cyrraedd deg uchaf y Tour de France, mae’n amser i fyfyrio ar sut mae’r ddwy olwyn yn ddrych cymdeithas; a sut mae’r peloton yn ficrocosm cymdeithas.
Mae’n rhyfeddol sut mae ymennydd rhai pobl yn gweithio.
Yn raddedig mewn athroniaeth, mae eisoes wedi cyhoeddi dau lyfr sy’n plethu athroniaeth a seiclo - Socrates a Vélo a La société du peloton.
Cyhoeddwyd La société du peloton yn weddol ddiweddar, a dros wyliau’r Nadolig bum i’n araf ddarllen y campwaith hwn gan gymeriad unigryw iawn.
Felly bwriad y cofnod hwn yw rhoi rhagflas o’r ‘dweud mawr’ (fel dwi’n licio galw athroniaeth) sydd rhwng dau glawr y gyfrol, fydd gobeithio’n gwneud i chi weld seiclo mewn golau newydd.
Je sais le monde qui se dessine, je le désapprouve, et pourtant je participe à sa construction - voilà le drame de l'homme moderne, perdu entre la poursuite de son bien personnel immédiat et la conscience des maux que générera à terme cette quête, tiraillé entre un sens des responsabilités quant à l'avenir de ses enfants, de son espèce, et les contraintes de la vie singulière. Comment concilier fin du mois et fin du monde, pensée individuelle et pensée collective? (p15)
Fel y cawn ni weld fwy nag unwaith yn y gyfrol, mae’r dihangiad (y grŵp o reidwyr sydd wedi dianc ar flaen ras, breakaway yn Saesneg) wedi rhoi mwy nag un cyfle i Martin fynegi syniad am gynhesu byd-eang a’r modd yr ydym ni fel dynoliaeth yn ymdrin ag o.
Mae Martin yn hen gyfarwydd a bod mewn dihangiadau - yn wir, dyna sut y gwnaeth o lwyddo i serennu yn Tour 2021.
Beth sy’n aml iawn yn digwydd mewn dihangiadau yw methiant i weithio ar y cyd. Mae gennych chi unigolion sy’n daer eisiau ennill y ras, a thrwy hynny eisiau arbed cymaint o egni a phosib, ac felly’n gwrthod cyfrannu at y gwaith i gynnal bwlch y dihangiad.
Ond mae eraill sy’n llwyr ymwybodol fod ‘na grŵp mawr, pwerus yn anadlu ‘lawr eu gyddfau nhw, ac felly’n gweld gwerth cyd-weithio er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n dal i fyny.
Yn amlach na pheidio, mae’r grwp tu ôl yn llwyddo i ddal i fyny, a hynny fwy na thebyg oherwydd y diffyg cyd-weithio o fewn y dihangiad.
Felly mae Martin yma’n ein lleoli ni - pobl, dynoliaeth - fel y dihangiad, a newid hinsawdd/cynhesu byd-eang fel y peloton sy’n anadlu ‘lawr ein gyddfau.
Mae’n dweud uchod fod y dyn modern ar goll rhwng cael ei dynnu i un cyfeiriad gan ymgyrch er budd personol ac i gyfeiriad arall gan gyfrifoldebau megis dyfodol ei blant. Fe’n gadewir â’r cwestiwn; sut mae cymodi diwedd y mis a diwedd y byd, meddwl unigol a meddwl torfol?
Pour dépasser cette alternative stérile entre égoïsme et altruisme, il faut résolument s'extraire du champ de la biologie, ce que le sport permet : dans le domaine athlétique, ce n'est pas la survie que l'on cherche, il ne s'agit pas d'aller au bout du jeu sans risque - non, c'est la puissance qui est motrice. La soif de victoire est soif affirmation : on veut être premier pour s'éprouver, et cela n'est possible que par l'association avec autrui. (p66-7)
Yn y bennod nesaf dan y teitl ‘Le départ - prendre l’échappée’ mae’n canolbwyntio’n fwy ar chwaraeon a’i brif gymeriadau gan gynnwys y timau, gan fwrw golwg ar ambell i gamp gan gynnwys pêl-droed a rygbi.
Felly mae’r ‘dweud mawr’ yma yn benodol edrych ar beth sy’n gyrru pencampwyr, ac i barhau diben a hanfod y gyfrol, mae’n parhau’r myfyrdod hwn am y gwrthdaro rhwng yr unigolyn a’r grwp.
Mae’n dweud fod angen tynnu’r bioleg allan o bencampwyr i fedru goresgyn y dewis ofer hwn rhwng egotistiaeth ac allgaredd.
“Nid goroesi ydy’r amcan, dydy hi ddim yn fater o gyrraedd diwedd y gêm heb risg - na, y pwer a’r gallu yw’n injan. Y syched am fuddugoliaeth ac arddeliad: mae rhywun eisiau bod yn gyntaf er mwyn ei brofi, ac mae hynny ond yn bosib drwy gydweithio ag eraill.”
Fel y dywedodd wrth bodlediad Ned Boulting a David Millar, llyfr am groesddywediadau (contradictions) ydy La société du peloton, ac mae hwn yn enghraifft glir iawn o hynny; yr angen i gyd-weithio ag eraill er budd personol.
Pourquoi les meilleurs coureurs du monde se rassemblent-ils au sein de deux ou trois équipes seulement, s’exposant à une forte concurrence interne alors qu'ils pourraient être rois dans une formation outsider? L'importance de l'argent n'explique pas tout. C'est l'attrait de la puissance qui est décisif: on recherche la compagnie des meilleurs, des gagnants; la psychologie sous-jacente est que l'association avec d'autres talents renforce chacun, comme si les valeurs se multipliaient entre elles au sein d'un collectif. (p81-82)
Yr hyn mae’n ei arsylwi yma yw’r cwestiwn y mae nifer yn ei ofyn; pam fod reidwyr gorau’r byd i gyd yn heidio i ddau neu dri tîm mawr â chyllideb mawr - Ineos, Quickstep, UAE, SD Worx, Trek Segafredo - pan fyddai ganddyn nhw lawer gwell cyfle i serennu’n unigol mewn carfan lai o faint â llai o gystadleuaeth am arweinyddiaeth?
Nid yw, yn ôl Martin, mor syml ag arian yn unig. Yr hyn sy’n denu’r reidwyr hyn yw’r pŵer a’r nerth; ein bod ni fel pobl yn cael ein denu gan gwmni’r goreuon a’r buddugwyr.
Y seicoleg oddi tano hyn felly yw fod cyd-weithio â thalentau eraill yn ymgryfhau rhywun; fel pe bai’r teimladau a gwerthoedd yn cynyddu yng nghwmni eraill yng nghalon uned gref.
Mae hyn yn esbonio rhywfaint, felly, pam fod cynifer o reidwyr talentog all fod yn arweinyddion eu hunain ar garfanau eraill yn dewis gweithio ag eraill a gweithio dros eraill.
Rydym ni’n ôl at y pwynt gwreiddiol o’r berthynas rhwng yr egotistiaeth a’r allgaredd; ond y tro hwn, profir sut mae gweithio â phobl talentog eraill yn gallu cynyddu hunan-hyder a hunan-werth. Gwelwn yma sut mae’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r grwp yn gallu bod yn fwy cysylltiedig nag y byddai rhywun yn feddwl.
En vérité, nos sociétés, qu'elles soient microscopiques comme une équipe cycliste ou macroscopiques comme un État, ont-elles envie que leurs champions puissent être destitués, que la hiérarchie soit sans cesse bousculée? Il est tellement plus simple d'assurer le développement d'une organisation et son ancrage dans le temps par le statu quo, en maintenant les leaders en tant que leaders, les prolétaires en tant que prolétaires. Sans parler des considérations médiatiques : il est plus facile de faire la promotion d'une «star» déjà établie que d'en créer une… (p102)
Modd arall y mae Martin yn cymharu’r ddynoliaeth a chymdeithas â’r peloton yw’r hierarchaeth debyg sydd rhwng y ddau - yr arweinwyr ar y top a’r rhai sy’n nôl eu poteli yn is i lawr.
Beth mae’n ei ddweud hefyd sy’n ddifyr yw y ceir adlewyrchiad rhwng diffyg newid yn yr hierarchaeth hwn; mae arweinwyr yn aros yn arweinwyr, ar proletariats yn aros yr proletariats.
Mae’n llawer haws gwneud hyn, meddai, ac mae’n llawer haws dyrchafu seren eisoes wedi sefydlu’i allu na chreu un newydd. Datganiad real am y byd yr ydym yn byw ynddo.
Même que le leader d'une équipe cycliste se révèle impuissant sans laide de ses coéquipiers, incapable de lutter contre la force du peloton ou d'équipes organisées, de même le maître ne peut rien sans celui qui travaille pour lui. Un équipier à l' inverse n'a pas besoin de leader pour vivre. Si son champion abandonne la course pour une cause quelconque, rien ne pourra lui être reproché. Il pourra continuer son bout de chemin, et même tirer profit de la situation pour jouer sa propre carte. A l'inverse, un leader sans personne pour s 'épauler perd tous ses moyens. Il ne peut rivaliser avec ses concurrents directs. Plus encore: un leader a besoin de ses coéquipiers pour être valorisé comme tel. Si cette reconnaissance n'est plus là, si la défiance s'installe, alors le leader perd automatiquement son statut, faute d' yeux pour l'admirer. Un roi sans sujets est un être plein de misère. (p137)
Unwaith eto, cawn fewnwelediad difyr i’r meddwl athronyddol hwn sydd ganddo a’r modd y mae’n gallu dehongli’r hyn mae’n ei weld.
Yr hyn mae’n ei ddweud yw nad oes angen arweinydd ar yr équipiers (hynny yw’r reidwyr eriall o fewn y tim sy’n ei helpu), ond fod angen yr équipiers ar yr arweinydd. Nid yw, felly, yn berthynas reciproque neu symbiotique.
Yn wir, os ydy arweinydd tim yn gadael ras am ba bynnag reswm, os rhywbeth, elwa o’r sefyllfa wnaiff yr équipiers. Maen nhw’n cael cyfle o’r newydd i ddangos eu doniau; i ddangos eu cardiau.
O fewn y ras, mae’r berthynas hon yn glir o ran ei natur, ond mae hefyd yn wir yn ehangach. Er mwyn cael ei werthfawrogi - er mwyn gwerthfawrogi ei hun - fel arweinydd, mae angen yr equipiers hynny arno. Os yw’r arweinydd yn colli’r cydnabyddiaeth hwn, mae’n syth yn colli ei statws - neu i gyfieithu’n uniongyrchol, ‘does dim llygaid i’w edmygu o’.
‘Mae brenin heb ddinasyddion yn fod sy’n dioddef’.
Unwaith yn rhagor yma, cawn weld y dehongliad hwn o gymeriadau pwerus, dylanwadol sy’n trawsieithu’n rhwydd i gyd-destun ehangach cymdeithas.
J'appelle «champion » l'être humain qui porte celle-ci en lui, celui qui triomphe sur le champ de bataille symbolique, tout en se refusant à profiter de son triomphe pour imposer une politique à ceux qu'il a vaincus. Décision étrange, mortifère, car les battus du jour verront demain ouvert le lieu de leur revanche. Mais le champion est toujours bizarre, et c'est cette bizarrerie même qui fait sa beauté et sa grandeur. (p170)
I gloi, felly, dyma barhau ar y piste o fwrw golwg ar bencampwyr. Beth yw pencampwr?
“Bod dynol sy’n cario rhywbeth ynddo fo, rhywbeth sy’n trechu ar faes y gad symbolaidd, tra’n gwrthod elwa o’i oruchafiaeth i osod cyfundrefn ar y rhai mae wedi eu curo. Penderfyniad rhyfedd gan fod brwydrau’r dydd yfory’n agor y drws i ddïal. Ond mae’r pencampwr wastad yn hurt, a’r hurtwch hwn sy’n creu ei brydferthwch a’i fawredd.”
Mae’r ffaith y bod modd gwylio seiclo, bod yn rhan o seiclo, a dehongli’r byd yr ydym yn byw ynddo drwyddo, yn chwalu pen rhywun. Mae’r ffaith bod modd cael rhywun a meddwl fel Guillaume Martin yn y peloton yn ychwanegu at ei fawredd.
Yn yr amseroedd rhyfedd yr ydym yn byw drwyddyn nhw, mi allwn ni i gyd elwa o’r byd seiclo, ac mae’r gyfrol hon yn profi y gallwn ni hefyd ddysgu rhywbeth o’r byd seiclo.
Opmerkingen