top of page

Y podlediadau gorau i seiclwyr

Dros y blynyddoedd diwethaf mae podlediadau wedi tyfu yn rywbeth hynod o boblogaidd gyda rhai o bob lliw a llun i'w cael. Maen nhw'n ddefnyddiol i wrando arnyn nhw mewn amrywiaeth eang iawn o sefyllfaoedd; yn y car, yn y bath, tra'n rhedeg, tra'n gwneud sesiwn ar y beic tu fewn... mae'r rhestr yn ddiddiwedd.


Dyma ambell un sydd wedi'u creu a'u recordio gyda ni'r seiclwyr mewn golwg.


Nawr yw'r Awr

Iawn, podlediad i dreiathlwyr yw hwn (CONTROVERSIAL). Fodd bynnag, dwi'n ffeindio fy hun yn llwyddo i uniaethu gyda phrofiadau Dai a Nia, sy'n arwain y podlediad yn wych, yn ogystal a'r gwesteion. Dwi wir wedi mwynhau'r podlediadau cyntaf ac yn gyffrous iawn am ddyfodol y fenter. Mae'n debyg mai cyn bencampwraig y byd, Non Stanford, yw'r gwestai nesaf - edrych ymlaen yn barod at wrando arno ar y beic tu fewn neu yn y car.


Y Dihangiad


Mae gan Dewi Owen a Rheinallt ap Gwynedd, sy'n arwain y podlediad yma, wybodaeth a dealltwriaeth wych o'r byd seiclo proffesiynol a thrwy hynny yn dod a phodlediad o'r radd flaenaf yn y Gymraeg. Yn ystod y tymor cawn bennodau wythnosol sy'n trin a thrafod y rasys diweddaraf a'r rhai sydd i ddod, rhaglenni dyddiol yn ystod Le Tour de France ac ambell westai o'r gamp ei hun megis Scott Davies a Gruff Lewis. Edrych ymlaen yn fawr at gael gwrando yn ystod y misoedd nesaf gobeithio.


Watts Occurin'

Podlediad ymlaciedig (laid-back) gan ddau Gymro ar y sin seiclo proffesiynol yw Watts Occuring. Mae Geraint Thomas a Luke Rowe wedi 'nabod eu gilydd ers eu hieuenctid ac mae hynny'n amlwg iawn yn y sgyrsiau a gaent. Mae'r gwesteion yn amrywio o reidwyr proffesiynol megis Pavel Sivakov, Daryl Impey a Mark Cavendish i berchennog y tim Sir Jim Ratcliffe ac hyd yn oed i chwaraewr rygbi Cymru, George North. Os bydd y par yn gwneud yr un peth a llynnedd, gobeithiwn am ddiweddariadau ar ddiwrnodau gorffwys Le Tour eleni.


Cycling Tips Podcast

Ar gyfer eich dos wythnosol o newyddion y byd seiclo, peidiwch edrych ddim pellach na'r podlediad safonol yma gan CyclingTips, sef un o wefanau blaenllaw y gamp. Cawn drafodaethau o bynciau o bob lliw a llun ac mae'r criw o arweinwyr yn wybodus a mewnweledol.


Matt Stephens Unplugged

Siwr o fod fy hoff bodlediad ar y rhestr. Mae Matt Stephens yn gymeriad hoffus a hwyliog y bydd rhai ohonoch yn ei adnabod o'i yrfa proffesiynol (pencampwr Prydain ym 1999) neu o'i ddyddiau gyda GCN. Mae bellach yn gweithio fel sylwebydd ar gyfer Eurosport ac hefyd yn gwneud gwaith cyfryngau gyda'r siop Sigma Sports drwy sianel YouTube a'r podlediad yma. Mae'n ysgafn ac yn hawdd i wrando arno a chawn sgyrsiau difyr a doniol gyda gwesteion o bob math - i gyd yn rhannu'r un brwdfrydedd a sydd gan Matt am y gamp. Mae'i chwerthyniad o'n heintus (efallai ddim y dewis gorau o air yn yr oes sydd ohoni) a dwi'n ffyddiog y byddwch chi'n ei fwynhau.


The Cycling Podcast

Podlediad sy'n dod a thriawd o newyddiadurwyr ac awduron blaenllaw y gamp ynghyd (Lionel Birnie, Daniel Friebe a Richard Moore) i drafod yr wythnos o fewn y byd seiclo. Dwi'n mwynhau'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth mae'r arbenigwyr yma'n ei gynnig - dyma'r dos o newydidon a thrafodaeth wythnosol gorau allwch i ei gael, yn fy marn i.


Ambell un arall i'w ystyried

Dyma bedwar arall rydw i wedi'u clustnodi fel rhai yr ydw i'n edrych ymlaen i wrando arnyn nhw'n fuan.

  • Cyclist Magazine Podcast: podlediad newydd gan gylchgrawn gorau (fy marn i) y byd seiclo

  • The Rouleur Podcast: sgyrsiau difyr am nifer o agweddau gwahanol o'r gamp

  • Life in the Peloton with Mitch Docker: mewnwelediad o'r peloton sy'n cael ei arwain gan reidiwr proffesiynol

  • ReCycle: podlediad i chwi sy'n ymddiddori yn hanes y gamp

  • Bespoke: podlediad y BBC dan arweiniad Gareth Rhys Owen sy'n dod a chasgliad o newyddiadurwyr ynghyd i drafod Le Tour de France

I'r rhai ohonoch chi sydd efallai'n newydd i'r byd o bodlediadau, dwi hefyd yn awgrymu'r podlediadau chwaraeon yma:

  • Elis James' Feast of Football: trafod byd y bel gron yng Nghymru

  • Scrum V Podcast: trafod byd y bel hirgron yng Nghymru

 

Diolch am ddarllen y gofnod a chofiwch adael i'r podlediadau yma wybod os ydych chi'n mwynhau gwrando er mwyn cefnogi'u gwaith.

Recent Posts

See All
bottom of page