top of page

21 o gyfrolau seiclo newydd '21


Yng Ngwlad yr Iâ, ar Noswyl Nadolig, mae pobl yn cyfnewid llyfrau ac yn eu darllen am oriau tra'n bwyta siocledi. Boed hynny'n swnio fel nefoedd i chi neu beidio, does dim amau fod y cysylltiad rhwng llyfrau a'r Nadolig yn bresennol ac yn gryf ar draws y byd.


Does dim amau chwaith eu bod nhw'n anrheg Nadolig perffaith i unrhyw un, gan gynnwys seiclwyr. Felly bwriad y cofnod hwn ydy efallai rhoi ambell syniad o lyfrau y gellir eu rhoi i anwyliaid sy'n ymddiddori'n y ddwy olwyn, drwy fwrw golwg ar y rhai sydd wedi cael eu cyhoeddi eleni. Drwy hap a damwain, digwydd bod, mae 'na 21 ohonyn nhw.


Wedi fy ysbrydoli gan erthyglau o'r fath yn yr i, y Guardian neu'r New Statesman lle mae pobl yn cyfrannu eu hoff lyfrau o'r flwyddyn a'u 'rhestr 'Dolig'; dwi wedi eu rhannu nhw'n ddau brif gategori - y rhai yr ydw i wedi eu darllen, a'r rhai nad ydw i wedi eu darllen. Mae 'na is-gategoriau nes ymlaen hefyd. Lincs i bookshop.org sydd wedi eu cynnwys yn bennaf; siop ar-lein sy'n galluogi i chi gefnogi siopau llyfrau annibynnol ym mhob cwr o'r byd, gan gynnwys rhai bychain yng Nghymru - a phan dwi'n cyfeirio at 'siopau llyfrau mawr', dwi'n cyfeirio at Waterstones, WHSmith a World of Books.


Mwynhewch!


Y rhai yr ydw i wedi eu darllen

Dyma gasgliad o'r cyhoeddiadau newydd eleni y gallaf roi fy marn arnynt; pedwar o gyfrolau gwahanol.


'Vuelta Skelter' gan Tim Moore

Dyma lyfr y gwnes i wirioneddol ei fwynhau - yn fwy na'r disgwyl, â bod yn gwbl onest. Mae Tim Moore yn hen law ar ysgrifennu llyfrau o'r fath yn y genre teithio, ac fe'i ddisgrifir gan ambell un fel "Bill Bryson ar ddwy olwyn". 'Vuelta Skelter' yw diweddglo'i drioleg ddiweddaraf, yn dilyn 'Gironimo' a 'French Revolutions', lle mae Moore yn dilyn route Grand Tours y gorffennol a'u hail-greu mewn modd digri a hawdd ei ddarllen. Y tro hwn, mae'n ail-greu route 1941 y Vuelta, gan ddilyn hanes Julian Berrendero - buddugwr y flwyddyn honno - oedd newydd dreulio deunaw mis yng ngwersylloedd carchar Franco. Mae'n plethu seiclo, hanes a digrifwch mewn modd hollol rhwydd - mae'n wych.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr arferol. RRP £20.


'Black Champions of Cycling' gan Marlon Lee Moncrieffe

Cyfrol y gwnes i ysgrifennu'n eithaf helaeth amdano yma, lle mae'r awdur a'r academydd Marlon Lee Moncrieffe, cyn-seiclwr elite, yn ymchwilio i hanes pencampwyr croenddu y byd seiclo. Dyma bwt o'r cofnod hwnnw: "Mae Moncrieffe yn dadlau drwy gydol y gyfrol fod angen newid diwylliannol oddi wrth naws elitaidd y gamp er mwyn cael mwy o seiclwyr croenddu yn gyffredinol, a mwy o seiclwyr croenddu ar frig y gamp. Mae’n edrych ar grwpiau lleol megis Black Cyclists Network ac unigolion fel Justin Williams o L39ION fel camau cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir o ran ysgogi’r genhedlaeth nesaf." Darllen difyr, yn sicr.


Ar gael o wefan Rapha. RRP £25.


'A Cyclist's Guide to the Pyrenees' gan Peter Cossins

Cyfrol y gwnes i brynu fel rhan o fy ymgyrch i berswadio i fy rhieni i fynd â ni i'r Pyrenees. Mi weithiodd, a chroesi bysedd y gallwn ni fynd haf nesaf. Mae bob amser yn ddifyr i mi i edrych ar y math yma o lyfr - 'guide books' ar gyfer seiclo, a gweld sut maen nhw'n strwythuro'u cyfrol. Un arall o awduron mwyaf profiadol y gamp, Peter Cossins, sy'n ein tywys ar ddegau o reids a routes y gadwyn o fynyddoedd ar draws nifer o ranbarthau. Nid yw hwn y math o gyfrol y byddai pobl sydd eisiau edrych ar luniau a mapiau yn ei hoffi - mae'r pwyslais yn sicr ar y seiclo. Canllaw defnyddiol iawn, fodd bynnag, i unrhyw un sy'n pasa mentro i'r Pyrenees ryw ben.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr arferol. RRP £16.99


'Revolutions' gan Hannah Ross

Yn y cofnod y gwnes i ei grybwyll yn gynharach, cymharu 'Black Champions' efo 'Revolutions' gan Hannah Ross y gwnes i. Cyfrol arall sy'n archwilio hanes grwp lleiafrifol yng nghyd destun seiclo y dois i ar ei draws yn y New Statesman o bob man. "Ceir naws fymryn yn fwy positif yn llyfr Ross [o'i gymharu a 'Black Chammpions'], yn disgrifio hanesion yr arwyr yma frwydrodd achosion pwysig ac arddangosodd wydnwch athletaidd, mae ‘na’n dal i fod naws o rwystredigaeth dealladwy. Dyma lyfr cynhwysfawr, wedi’i ymchwilio’n drwyadl, yn llawn o hanesion digon diddorol, sy’n llawn i’r ymylon o hanes seiclo menywod."


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr arferol. RRP £16.99 (clawr caled) neu £9.99 (clawr papur).


Y rhai nad ydw i wedi eu darllen

Alla'i ddim cynnig fy arbenigedd ar y rhain yn anffodus... eto. Mae 'na lu o lyfrau arbennig yr olwg sydd wedi cael eu cyhoeddi eleni a sy'n werth eu darllen, felly dyma drosolwg.


I ffans seiclo proffesiynol...

Hunangofiannau a bywgraffiadau, yn ogystal â golwg yn ôl ar dymor y peloton yn 2021.


'Tour de Force' gan Mark Cavendish

Pwy fyddai wedi meddwl y bydden ni'n cyrraedd y Nadolig yn 2021 a bod Mark Cavendish wedi dod 'nôl o nunlle i ddod yn gyfartal â record Eddy Merckx o ran buddugoliaethau cymalau yn y Tour de France?! Stori tylwyth teg; un o'r goreuon mewn chwaraeon modern, yn sicr. Cav ei hun sy'n adrodd y stori - o'r dagrau yn Gent-Wevelgem i'r gorfoledd yn Ffrainc.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr arferol. RRP £20


'Kilometer Zero' gan Lora Klinc

Dyma un o'r llyfrau mwyaf difyr a gwahanol ar y rhestr eleni. Lora Klinc yw gwraig Primož Roglič, y Slofeniad sydd wedi dod yn gymeriad hoffus ac adnabyddus ar frig y gamp broffesiynol, ac mae hi'n plethu bywyd teuluol yng nghanol helbul Grand Tour, rhywfaint o olwg fywgraffiadol ar Roglič yn ogystal â'i safbwynt hi o'r gamp fel rhywun sy'n gymharol newydd iddo.


Ar gael fan hyn a fan draw, gan gynnwys yn Waterstones. RRP £20.


'Racing in the time of super-teams' gan griw La Course en Tête

Dyma'r ail flwyddyn o'r bron i'r awduron seiclo y tu ôl i wefan wych La Course En Tête - yn eu plith William Fotheringham, Jeremy Whittle, Peter Cossins a Sadhbh O'Sea - gyhoeddi casgliad o ysgrifau am y tymor seiclo proffesiynol. 'Racing in the time of Covid' oedd y teitl llynedd, ac mi wnes i wirioneddol fwynhau hwnnw, ac felly'n edrych ymlaen yn fawr at 'Racing in the time of the Super-teams'.


Ar gael ar wefan La Course en Tête neu Amazon. RRP £13.99


I'r pocedi dyfnion...

Byddwch chi'n ffodus iawn os y gwnewch chi dderbyn un o'r rhain y Nadolig hwn.


'Icons of Cycling' gan Kirsten van Steenberge

Mae hwn yn dipyn o gyfrol; 200 o luniau gan ffotograffwyr blaenllaw sy'n cloriannu gwefr y byd seiclo. Yn ôl y synopsis, mae'n "ficrocosm o uchelgais ac angerdd, poen a gorfoledd, mae'n gelfyddyd mewn ffotograffiaeth ac yn ddogfen gyfoes o gamp ffyniannus. Ychwanegiad i'w drysori at gasgliad unrhyw un sy'n ymddiddori mewn beics." Apelgar a drudfawr!


Ar gael yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau mawr. RRP £49.25 (ond ar ostyngiad yn wob.com er enghraifft)


'The Road Book' olygwyd gan Ned Boulting

Cyfrol swmpus dros ben ystyrir yn 'Feibl' i ffans seiclo proffesiynol. Mae wedi'i lenwi i'r ymylon ag ystadegau, traethodau a hanesion oddi fewn i'r peloton gan sêr megis Tadej Pogacar, Jasper Stuyven, Sarah Storey a Lizzie Deignan ac yn rhoi tymor proffesiynol 2021 ar gof a chadw.


Ar gael ar wefan The Road Book. RRP £50


I'r anturiaethwyr...

Genre hynod boblogaidd yr ydw i wedi'i fwynhau'n fawr dros y flwyddyn diwethaf - llyfrau fel gan Tim Moore neu Emily Chappell sy'n plethu genre ysgrifennu teithio ac ysgrifennu seiclo. Be' well?!


'For Those Who Can't' gan Brendan Walsh

Stori Brendan Walsh am dorri record y byd Guinness am groesi'r Unol Daleithiau o'r pwynt mwyaf gogleddol ym Maine i'r pwynt mwyaf deheuol yn Fflorida ar hyd arfordir yr Iwerydd, fis yn unig wedi iddo gael anafiadau mewn damwain. Seiclo 17 awr y dydd am bron i ddeuddeg diwrnod, oll i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at elusen iechyd meddwl, ac yntau wedi colli nifer o gyfeillion i iselder. Dyma'i stori o ganfod fersiwn hapusach ohono'i hun drwy ddwy olwyn.


Ar gael fan hyn a fan draw, gan gynnwys yn Waterstones. RRP £10.99


'From My Home To Yours (Un Duo vers l'Inconnu)' gan Thibault Clemenceau

Dogfen o daith yr awdur Thibault Clemenceau gyda'i wraig Khanh Nguyen benderfynodd dreulio'u mis mêl yn teithio 10,000 o filltiroedd ar ddwy olwyn o Ffrainc, cartref Thibault, i Fietnam, cartref Khanh. Yn croesi mynyddoedd y Swistir, gwynebu Kalshnikovs yn niffeithdiroedd Iran, brwydro drwy dorfeydd yn India, cuddio rhag teigrod yn Nepal, llochesu yn pagodas Burma a seiclo drwy gaeau reis Fietnam - oll wrth i'r pandemig rygnu 'mlaen. Fe'i ddisgrifir fel stori o gariad, antur ac athroniaeth; yn teithio'r byd o'ch soffa. Ar gael yn y Saesneg, neu'r Ffrangeg.


Ar gael yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau mawr. RRP £14.99


'The Great North Road' gan Steve Silk

Y ganmoliaeth gan Tim Moore ar flaen y llyfr yn tystio fod hwn yn sicr yn lyfr i'r rhai ohonom sy'n mwynhau'r sub-genre yma. Stori o ddilyn yr hen brif ffordd rhwng Llundain a Chaeredin, 400 milltir mewn 11 diwrnod drwy drefi a chefn gwlad Lloegr a'r Alban i ddarganfod mwy am orffennol Prydain yn ogystal â chipolwg tua'r dyfodol.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £9.99


'Signs of Life' gan Stephen Fabe

'Archwiliad meddylgar o ddynoliaeth... mae Fabes yn gwmni gwych ac yn gwneud i reidio beics edrych fel y ffordd orau o weld a deall y byd', medd y Guardian am 'Signs of Life' gan Stephen Fabes. Wedi iddo adael ei yrfa fel meddyg i seiclo'r byd, mae ei daith yn dangos o'r newydd dioddefaint, cymuned a'n dyletswydd i ofalu.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £10.99


I'r cogyddion...

Fel y gwyddwn, mae seiclo'n mynd law yn llaw â bwyd, felly dwy gyfrol berffaith i gyfuno'r ddau.


'Eat Bike Cook' gan Kitty Pemberton-Platt a Fi Buchanan

40 o reseitiau i gyflenwi egni seiclwyr gyda chyngor a dyddiaduron gan fenywod sy'n seiclo, rhai proffesiynol ac amaturiaid brwdfrydig. Yn ogystal â chynnig ysbrydoliaeth am ffyrdd o lenwi'ch boliau, mae'n ddathliad o'r gymuned o fenywod sy'n seiclo; o'r stop yn y caffi yng nghanol reid; y paced o Haribos sy'n sicrhau eich bod yn goroesi'r 25km olaf a'r byrgyr ar ddiwedd y dydd.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £10


'The Cycling Chef: Recipes for Getting Lean and Fuelling the Machine' gan Alan Murchison

Mae'r Cycling Chef yn ôl. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfrol gyntaf, 'Recipes for Performance and Pleasure', daw ail gyfrol gan Alan Murchison. Mae Murhcison, cogydd seren Michelin a maethegwr chwaraeon blaenllaw, yn datgelu sut gellir mwynhau bwyd cytbwys a blasus tra'n cyflawni colli pwysau tymor-hir a chael effaith gadarnhaol ar eich perfformiad ar ddwy olwyn.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £22


I'r seiclwr canol oed...

MAMILs a MAWILs yn eich plith, dyma'r un i chi...


'The Midlife Cyclist' gan Phil Cavell

Cyfrol sy'n cael ei disgrifio fel 'maniffesto' i seiclwyr dros bedwar deg oed sydd eisiau cadw'n iach, osgoi anafiadau a pharhau i gyflawni'n uchel, ac sydd wedi derbyn canmoliaeth gan Elinor Barker, Fabian Cancellara, Phil Liggett a chylchgrawn Cycling Plus. Mae'r awdur, Phil Cavell, yn enw adnabyddus yn y cylchoedd 'biofecaneg', ac yn archwilio'r twf ym mhoblogrwydd seiclo yn y to oedran yma.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £14.99


I'r haneswyr...

Golwg yn ôl ar orffennol y gamp


'Women on Wheels' gan April Streeter

Yn debyg i 'Revolutions', grybwyllwyd yn gynharach, mae 'Women on Wheels' yn archwilio hanes seiclo menywod - y tro hwn rhwng 1880 a 1980. Mae'n edrych ar hanesion difyr mewn manylder, gan ddangos fod yn rhaid i rai menywod - oedd yn sêr y sioe ar brydiau - oresgyn rhwystrau rhywiaeth, alltudiaeth ac economaidd er mwyn gallu seiclo.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £12.99


I'r athronwyr...


'The Art of Cycling' gan James Hibbard

Cyfrol sy'n cael ei disgrifio fel llythyr garu fyfyrdodol i seiclo, y cyn-seiclwr proffesiynol James Hibbard sy'n mynd ar daith i ddisgrifio sut y gwnaeth o ddisgyn yn ôl mewn cariad â'r gamp a sut y gall y gamp roi golau newydd ar hunaniaeth, ystyr a phwrpas. Mae'n plethu seiclo, athroniaeth a naratif bersonol yn ogystal â phrofiadau o uchelfannau ac iselfannau'r gamp broffesiynol.


Ar gael yn y siopau llyfrau mawr. RRP £14.99


I'r Francophones...

Parlez-vous français? J'espère que vous ayez plaisir en lisant ces deux livres sous-dessous.


'La sociéte du péloton' gan Guillaume Martin

Ail lyfr Guillaume Martin sy'n cyfuno dau beth - seiclo ac athroniaeth. Mae'n enw cyfarwydd i ddilynwyr y byd seiclo proffesiynol ac yntau wedi gorffen yn 8fed yn y Tour de France eleni, ac mae ganddo hefyd radd mewn athroniaeth. Byth ers clywed fod Martin yn ysgrifennu am athroniaeth seiclo, mae wedi bod yn uchelgais gen i i wella fy Ffrangeg hyd bwynt y gallaf ddarllen ei lyfrau. Dwi'n gobeithio 'mod i wedi cyrraedd y pwynt hwnnw - ac y byddaf yn gallu darllen y llyfr hwn sydd - fel mae'r teitl (a'r isdeitl; philosophie de l'individu dans le groupe) yn ei awgrymu - yn myfyrio ar sut mae seiclo'n gallu symbylu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.


Ar bodlediad Ned Boulting a David Millar, Never Strays Far, yn ddiweddar, bu Martin yn trafod ei lyfr ac athroniaeth. https://open.spotify.com/episode/3r6m6HV3T4Sj8IrGxlx6Qi?si=755fb6ab52b447e2


Ar gael o Amazon.fr efo cludiant arferol DG. RRP 17€90


'Mon année arc-en-ciel' gan Julian Alaphilippe

Cyfrol hunangofiannol Julian Alaphilippe - sy'n cyfieithu i 'fy mlwyddyn enfys' - am ei flwyddyn gyntaf yng nghrys enfys pencampwr y byd. Fe'i ennillodd yn Imola yn 2020 ac yn Louvain yn 2021, felly mae'n adrodd hanes ei dymor rhwng y ddwy fuddugoliaeth yna. Dwi'n credu y bydd yn rhaid i mi fynnu copi.


Ar gael o Amazon.fr efo cludiant arferol DG. RRP 22€90

 

Dyna ni, rhestr swmpus o gyfrolau 2021 - ac mae'n siwr gen i fod yna rywbeth at ddant pawb yma.


Hwyl ar y darllen.


cliciwch ar y botwm isod i danysgrifio i dderbyn y cofnodion diweddaraf yn eich ebost


Recent Posts

See All
bottom of page