top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

BByB 9/3: Strade Bianche, Tirreno Adriatico a mwy


Croeso i rifyn arall o fwletin byd y beic. Efallai ei bod hi'n teimlo fel dim o amser ers i'r diwethaf gael ei gyhoeddi, ond a ninnau mewn sefyllfa lle mae penwythnos o rasys undydd wedi bod, Strade Bianche yn uchafbwynt wrth gwrs, ein bod ni ar ganol Paris-Nice a bod Tirreno-Adriatico'n cychwyn fory, mae'n amser am ddiweddariad.


Rhestr cynnwys

<<

~

>>


STRADE BIANCHE WE

Bydd hi'n cymryd tipyn i guro SD Worx eleni

Er nad oedd digon o'r hanner o ddarllediad o'r ras - llai na 25km oedd yn cyfateb i ryw hanner awr, dri chwarter - roedd yn dal i fod digon i argyhoeddi'r gwylwyr.


Unwaith y daliwyd y dihangiad gwreiddiol, oedd yn cynnwys Mavi Garcia berfformiodd yn gryf tu hwnt yma llynnedd, roedd y detholiad allweddol wedi sefydlu a hwnnw'n llawn o'r enwau mawr.


Yn wir, mae'n bur debygol y gwelwn ni'r enwau yma droeon a thro yn ystod tymor y clasuron eleni. Reidwyr fel deuawd FDJ Cecile Uttrup Ludwig a Marta Cavalli; Annemiek van Vleuten o Movistar; Marianne Vos o Jumbo-Visma; Kasia Niewiadoma o Canyon-SRAM a Amanda Spratt o Bike-Exchange.


Ond doedd neb yn gallu dod yn agos at SD Worx; nhw oedd gan gryfder ddi-guro o ran niferoedd ac o ran safon y reidwyr. Er falle fod y diweddglo'n ffafrio Anna van der Breggen, Demi Vollering ac Ashleigh Moolman yn fwy, Chantal van den Broek-Blaak wnaeth y symudiad allweddol.


Un reidiwr oedd yn fodlon dilyn - Elisa Longo Borghini o dim Trek-Segafredo. Ond oherwydd fod pawb yn y grwp blaen yma'n disgwyl bod reidwyr mwy abl o fewn SD Worx ar gyfer y ddringfa olaf un ac felly byddai Blaak yn aros amdanyn nhw, roedd yn rhaid i Borghini wneud y gwaith i gyd ei hun.


Roedd hwn yn sefyllfa ddelfrydol i SD Worx; Blaak ddim yn gorfod gweithio gyda Borghini a'r pedwarawd yn y grwp tu ol ddim yn gorfod cyfrannu at yr ymlid chwaith.


Roedd hi wedyn yn frwydr rhwng y ddwy yma ar y ddringfa olaf un i Siena - Borghini yn ddringwr cryfach ac eisoes wedi ennill Strade Bianche ond wedi defnyddio llawer o egni i gadw'r lleill draw, yn erbyn Blaak oedd wedi gallu gwarchod egni tu ol i ELB.


Ac mi amserodd Blaak ei symudiad yn berffaith er mwyn ennill y blaen ar bencampwraig yr Eidal, ac unwaith yr oedd hi wedi sefydlu'r bwlch doedd dim modd ei dal.


Gyda thactegau a reidwyr goruchafol fel hyn, mae'n anodd iawn gweld unrhyw ffordd o guro'r garfan ar hyn o bryd.


Perfformiad cryf gan Blaak; yn enwedig o ystyried ei bod hi'n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'n ychwanegu Strade Bianche at palmares sydd eisoes yn cynnwys Pencampwriaeth y Byd, Ronde van Vlaanderen, Ronde van Drenthe, Gent-Wevelgem, Amstel Gold, Omloop Het Nieuwsblad a thri Le Samyn.


O gofio bod Paris-Roubaix'r menywod ar y gorwel am y tro cyntaf, dyma i chi reidiwr sy'n syth i uchelfannau'r rhestr ffefrynnau. Bydd hi'n awyddus i orffen ei gyrfa ar nodyn uchel, cyn troi ei sylw at fod yn DS flwyddyn nesaf. Caffaeliad i'r gamp, heb os.


STRADE BIANCHE ME

Gwledd o rasio a MvdP yn ffrwydro

Cywiriad: yn 2019 ennillodd Egan Bernal y Tour. Rhyfedd bod blogiwr seiclo Cymraeg yn gwneud camgymeriad o ran pwy ennillodd yn 2018!


Dyna i chi beth oedd gwledd.


Does dim byd yn well gen i nag eistedd drwy ddarllediad o ras feics drwyddi draw ar benwythnos. Yn amlwg, roeddwn i fel pob un sy'n ymddiddori mewn seiclo wedi cyffroi'n lan ar gyfer Strade Bianche ddydd Sadwrn. Er nad oeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bosib edrych ymlaen yn fwy at ras nag oeddwn i, allwch chi ddychmygu'r brwdfrydedd o glywed am awr ychwanegol o ddarlledu.


Mae 'na rywbeth am weld ras yn ei chyfanrwydd, neu ran helaeth ohoni. Y manylion bach. Fel stori ddirgelwch dda; pethau sy'n ymddangos yn ddibwys ar yr olwg gyntaf, ond ar y diwedd wrth edrych yn ol maen nhw'n arwyddocaol.


Mae mwy o gyfle i werthfawrogi'r tirlun yn ogystal, ac edmygu'r darluniau dramatig sy'n cael eu creu gan yr heolydd gwyn a'r graean.


Yn raddol yn ystod y tua 70km olaf yr hidliwyd y grwp blaen. Yn cychwyn y symudiadau mawr oedd grwp yn cynnwys Greg van Avermaet a'r Cymro Owain Doull, ac oddi hynny mi ddatblygodd y ddrama'n un nad oedd modd ei gadael.


Julian Alaphilippe oedd yn gyfrifol am y detholiad allweddol cyntaf - reidiwr llawn panache a chyffro y mae'n bleser ei wylio. Saith reidiwr oedd yn y grwp hwn - a dyna i chi'r grwp mwyaf talentog, serennog welwch chi am sbel, dybiwn i.


Yn gwmni i bencampwr heol y byd Alaphilippe, roedd pencampwr CX presennol y byd Mathieu van der Poel sydd wedi ennill y goron honno am y dair mlynedd diwethaf; y reidiwr ennillodd y dair blynedd blaenorol Wout van Aert; pencampwr y Tour de France Tadej Pogacar a'i ragflaenydd Egan Bernal, yn ogystal ag un o reidwyr ifanc mwyaf addawol ynysoedd Prydain os nad y byd Tom Pidcock, ac hefyd yr Awstriad Michael Gogl.


Ychydig mwy o wybodaeth i chi am Gogl, wedi i mi ddarllen erthygl Peter Cossins yn La Course en Tete. Fo yw capten Qhubeka-Assos ar yr heol, ac yntau'n 27 oed sy'n weddol ifanc i rol o'r fath. Mae wedi ennyn canmoliaeth gan ei DS sy'n ei ddisgrifio fel reidiwr sy'n gallu darllen ras o ran ei thactegau, yn ogystal a gan Alberto Contador pan oedd y Sbaenwr yn agos at ddiwedd ei yrfa. Cymaint oedd Contador yn ei feddwl o Gogl y gwnaeth o sicrhau ei fod yn ymuno ag o wrth iddo drosglwyddo i dim Trek.


Llynnedd, gorffennodd yn 9fed yn Strade Bianche ac eleni llwyddodd i berfformio'n gryf yn yr Etoile de Besseges heb ennyn gormod o sylw gan y pennawdau a'r gwybodusion. Mae rhai yn ei ddisgrifio fel un sy'n rhy denau a'n ormod o ddringwr i arbenigo'n y clasuron, sy'n gwneud synnwyr gan mai dyma'r rhinweddau delfrydol i Strade Bianche. Gwyliwch allan amdano'n sicr yn yr wythnosau i ddod.


Roedd Gogl yn llwyddo i gadw'n rhan o'r grwp blaen, yn wahanol i Wout van Aert a Tom Pidcock oedd angen pontio bwlch ar adegau. Ond rhwygodd yr Iseldirwr, Mathieu van der Poel, y grwp ar y sector graean olaf sef Le Tolfe a dim ond Alaphilippe a Bernal oedd yn gallu ei ddilyn.


Roedd 'na densiwn wedyn. Alaphilippe a van der Poel yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith yn y gwynt wrth i Bernal chwarae'r cerdyn 'mae Pidcock yn gryfach ac mae o yn y grwp tu ol', yn atgoffaol o dactegau SD Worx yn gynharach.


A'r tri ohonynt yn dal i fod gyda'i gilydd ar waelod y ddringfa olaf yn Siena, roedd rhywun yn mynd i wneud symudiad. Dyna pryd y cawson ni ffrwydriad arallfydol o bwer gan van der Poel, i saethu i'r blaen. Ac unwaith mae rhywun wedi ymosod ar y ddringfa olaf i Siena, y nhw sy'n fuddugol yn Strade Bianche.

Mae 'na gwestiwn felly ynghylch van der Poel. Mae hi'n weddol gynnar yn nhymor y clasuron, yn enwedig o gofio nad ydy rasys fel Ronde van Vlaanderen a Paris-Roubaix tan fis Ebrill a'r rhai bryniog yn yr Ardennes wedi hynny.


Ydy o wedi cyrraedd ei frig? Ydy hi'n rhy gynnar iddo fo gyrraedd ei frig? Neu ydy o heb gyrraedd brig ei allu, ac mae ganddo fo lefel arall i'w ddadgloi yn yr wythnosau nesaf?


Dybiwn i mae'r olaf o'r rheiny fydd agosaf at y gwir, ond cawn weld.


Ac o ran hanner arall y frwydr benben, mi roedd Wout van Aert yn ymddangos falle nad ydy o wedi cyrraedd brig ei allu eto ac yntau'n rasio ar yr heol am y tro cyntaf eleni yn Strade. Dydy hynny ddim yn syndod, gan ei bod hi'n debygol fod rasys yn hwyrach yn nhymor y clasuron yn uwch ar ei restr o flaenoriaethau.


A phwy feddyliai y bydden ni'n gweld tim Ineos gyda'r mwyaf o reidwyr ar flaen clasuron! Er fod Egan Bernal wedi dweud wrth deledu Ffrainc, 'a bod yn onest, dydw i ddim yn gwybod be' ddiawl dwi'n gwneud yma (yn drydydd)', maen nhw'n amlwg yn dysgu ac yn datblygu fel tim, ac mae Pidcock yn edrych yn barod am lwyddiant. Mae Bernal yn paratoi at y Giro d'Italia ym mis Mai, ac o edrych ar ei berfformiad yma mae'n rhaid mai fo fydd y ffefryn mawr ar gyfer la corsa rosa.


Deg uchaf Strade Bianche 2021

  1. Mathieu van der Poel (AFC)

  2. Julian Alaphilippe (DQT) +5"

  3. Egan Bernal (IGD) +20"

  4. Wout van Aert (TJV) +51"

  5. Tom Pidcock (IGD) +54"

  6. Michael Gogl (TQA) "

  7. Tadej Pogacar (UAD) "

  8. Simon Clarke (TQA) +2'25

  9. Jakob Fuglsang (APT) "

  10. Pello Bilbao (TBV) +2'39

LLUN YR WYTHNOS

CANLYNIADAU

Rasys undydd eraill


GP Larciano

GP Monseré

Cyfieithiad: Merlier yn dilyn Fabio Jakobsen ar restr ennillwyr y GP Jean-Pierre Monseré. Cavendish yn parhau rhediad presennol o dair blynedd heb fuddugoliaeth a Timothy Dupont sy'n cwblhau'r podiwm. O ran y Ffrancwyr, Pierre Barbier yn gorffen yn 4ydd a Thomas Boudat yn 6ed.


Braf gweld Cavendish yn y deg uchaf eto.


HYD YMA YN...

Paris-Nice

Cymal 1

Cymal 2

Cymal 3

Eto i ddod

Yn barod rydym ni wedi gweld pwysigrwydd yr eiliadau bonws sydd ar gael yn y gwibiau canolog. Casglodd Michael Matthews ambell i eiliad fonws er mwyn cyrraedd brig y dosbarthiad cyffredinol wedi cymal 2.


Bydd y rhain yn siwr o fod yn arwyddocaol wrth i ni edrych ymlaen at cymalau mynyddig ar cymal 4 a chymal 7 lle ceir gwib ganolog hanner ffordd i fyny'r ddringfa i'r llinell derfyn. Cwpl o ddiwrnodau bryniog hefyd fydd at ddant reidwyr y clasuron.


RHAGOLWG

Tirreno-Adriatico

Mae hon yn ras yn yr Eidal sy'n rhan fawr o baratoadau rhai o'r reidwyr sy'n awyddus i serennu yn y Giro d'Italia, yn ogystal ag atgyfnerthu paratoadau rhai o reidwyr y clasuron yn absenoldeb y rasys undydd mawrion dros y penwythnos yma. Cawn olwg ar rai o'r reidwyr sy'n disgyn i'r categoriau hynny ar ol cael golwg ar y cwrs.


Cymal 1: Er bod triawd o ddringfeydd yn hanner cyntaf y cymal, disgwylir gwib glwstwr ar ddiwedd y dydd.


Cymal 2: Diwrnod bryniog, yn enwedig tua diwedd y cymal, fydd yn berffaith ar gyfer y rhai sydd yn paratoi am weddill tymor y clasuron.


Cymal 3: Diwrnod arall fydd yn ffafrio rhai o arbenigwyr y clasuron, ond un all greu bylchau rhwng rhai o ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol.


Cymal 4: Cymal DC go iawn cyntaf y ras gyda diweddglo ar ddringfa HC, a hwnnw yr ail o'r rheiny ar y cymal. Disgwylir brwydr yma am y fuddugoliaeth yn y ras yn ei chyfanrwydd.

Cymal 5: Cymal sy'n edrych yn un lle bydd rhai o arbenigwyr y clasuron bryniog a'r puncheurs yn serennu, ond yn gyfle hefyd i rai o ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol ennill ac ad-ennill amser.

Cymal 6: Cyfle gwirioneddol i'r gwibwyr.


Cymal 7: REC gwastad ar lan y mor i orffen y ras, sy'n 11km o hyd ac yn berffaith ar gyfer arbenigwyr yn y maes.

 

Rhestr ddechrau


Gwibwyr: Luka Mezgec (BEX); Andrea Vendrame (ACT); Mathieu van der Poel, Tim Merlier (AFC); Sonny Colbrelli (TBV); Peter Sagan (BOH); Elia Viviani (COF); Davide Ballerini, Alvaro Hodeg (DQT); Hugo Hofstetter (ISN); Wout van Aert (TJV); Caleb Ewan (LTS); Matteo Moschetti (TFS); Niccolo Bonifazio (TDE); Fernando Gaviria (UAD).


Arbenigwyr y clasuron: Greg van Avermaet (ACT); Mathieu van der Poel (AFC); Alex Aranburu (APT); Peter Sagan (BOH); Zdenek Stybar, Kasper Asgreen, Julian Alaphilippe, Davide Ballerini (DQT); Alberto Bettiol (EFN); Kevin Geniets, Stefan Kung (GFC); Simon Clarke, Michael Gogl, Lukasz Wisniowski (TQA); Quinn Simmons (TFS).


Ffefrynnau'r Giro d'Italia: Simon Yates (BEX); Romain Bardet (DSM); Tobias Foss (TJV); Dan Martin (ISN); Vincenzo Nibali (TFS); Mikel Landa, Pello Bilbao (TBV); Domenico Pozzovivo (TQA); Joao Almeida (DQT); Dani Martinez, Egan Bernal, Pavel Sivakov (IGD); Thibaut Pinot (GFC)


Reidwyr DC eraill: Jakob Fuglsang, Gorka Izagirre (APT); Patrick Konrad (BOH); Julian Alaphilippe (DQT); Sergio Higuita (EFN); Valentin Madouas, Rudy Molard (GFC); Geraint Thomas, Michal Kwiatkowski (IGD); Michael Woods (ISN); Tim Wellens (LTS); Marc Soler (MOV); Nairo Quintana (ARK); Giulio Ciccone (TFS); Davide Formolo, Rafal Majka (UAD).


Arbenigwyr REC: Filippo Ganna, Geraint Thomas (IGD); Stefan Kung, Benjamin Thomas (GFC); Joao Almeida, Kasper Asgreen (DQT); Wout van Aert (TJV); Tadej Pogacar (UAD).


Y dosbarthiad cyffredinol

Bydd hi'n ddiddorol iawn dilyn naratif y dosbarthiad cyffredinol yn Tirreno, oherwydd y cyfleoedd sydd i'r puncheurs a'r arbenigwyr y clasuron. Mae 'na drafodaeth wirioneddol mai efallai arbenigwr clasuron sy'n gallu dygymod a chyfyngu colledion yn y mynyddoedd a'n weddol yn erbyn y cloc fydd yn llwyddo yma i gipio'r dosbarthiad cyffredinol. Enwau sy'n dod i'r meddwl yn syth yw Julian Alaphilippe a Wout van Aert.


*****Tadej Pogacar, Egan Bernal

****Julian Alaphilippe, Simon Yates ***Wout van Aert, Nairo Quintana, Dani Martinez, Joao Almeida

**Filippo Ganna, Mikel Landa, Pavel Sivakov, Tim Wellens, Giulio Ciccone

*Romain Bardet, Thibaut Pinot, Sergio Higuita


RHAGOLWG

Healthy Ageing Tour

Ras amrywiol sy'n aros am peloton y menywod yn yr Iseldiroedd dros y tridiau nesaf, gyda chyfle i ystod eang o reidwyr ddangos eu doniau.


Ar y cymal cyntaf, ceir diwrnod gwastad sy'n cynnwys 28 lap o gylch 4.5km o hyd, i roi cyfanswm o 126km. Gallwn ddisgwyl y gwibwyr i serennu yma; reidwyr fel Jolien D'Hoore, Christine Majerus (SDW); Chloe Hosking (TFS); Lorena Wiebes (DSM) a Kirsten Wild (WNT).


Ar yr ail ddiwrnod mae ras yn erbyn y cloc unigol lle y cawn ni flogwyr a gwylwyr gyfoethogi ein gwybodaeth am peloton y menywod, cyn diwrnod mwy bryniog i gloi.


Mae'r cymal olaf yn cynnwys 18 lap o gylch 6.5km gyda dringfa fer o 400m ar 6% ar ddiwedd pob lap, ac hefyd ar ddiwedd y cymal. Cyfle i reidwyr y clasuron atgyfnerthu eu paratoadau.


Mae Ellen van Dijk eisoes wedi ennill y ras yma deirgwaith, ac wedi'i pherfformiad yn Strade ddydd Sadwrn bydd hi'n gobeithio falle ychwanegu pedwerydd.


AMSERLEN

Yr wythnos i ddod

 

Bydd y Bwletin nesaf wythnos i ddydd Iau yn edrych nol ar yr holl rasys ar yr amserlen uchod, yn ogystal ag edrych ymlaen at Milano-Sanremo a mwy.


Gobeithio'ch bod wedi mwynhau darllen, a gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r rasio sydd i ddod.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page