top of page

Be’ ddysgais i o drip beicbacio

Dwi ‘di siarad lot am feicbacio ar y blog; ‘di cyfweld lot o bobl amdano fo, ac wedi cael fy nifyrru gan straeon gwahanol bobl am eu profiad nhw o’r gamp hon.


Felly ro’n i’n meddwl y byddai’n well i mi roi tro arni.


Rŵan, i ddechrau, mae’n rhaid i fi fod yn glir am gwpl o bethe.


Ma’r bobl sydd wedi siarad â mi am feicbacio wedi bod yn cario’u holl stwff ar eu beic am ddyddiau os nad wythnosau; yn cysgu mewn corsydd a gwrychoedd, yn seiclo drwy’r nos ac yn gwbl ddibynnol ar garejis 24/7.


Dydy hynny ddim yn apelio ata i, ac felly ‘nes i ddim mynd mor bell â hynny o bell ffordd.


Gan mai dyma ‘mhrofiad cyntaf i o seiclo aml i ddiwrnod o bwynt i bwynt, ‘nes i ddim bod yn rhy galed arnaf i’n hun o ran hunan-gynaliadwyedd, fel petai.


Dwi’n meddwl mai ‘Beicbacio Lefel 2’ oedd yr hyn wnes i ymgymryd ag o. Yn cario fy holl stwff, ond ddim ond am dridiau, a dim pabell na dim byd. B&Bs neu westy o ryw fath ar ddiwedd y dydd, a phryd swmpus o fwyd.


Peth arall sydd wedi bod ar fy meddwl ers tro ydy’r modd yr ydw i’n aml yn siarad am lefydd yng Nghymru i seiclo heb fod â phrofiad personol ohonyn nhw. Ro’n i angen datrys hynny, a gwella ar hynny - ac mae tipyn o ffordd i fynd yn dal i fod.


Ond bu’r trip hwn yn ddechrau.


Dyma nes i ddysgu o ‘nhaith.


…bod dim byd yn mynd yn ôl y disgwyl

Mi wnawn ni ddechrau efo’r un amlwg. Does dim bwys pa mor fanwl ydi’ch cynllun chi - ac oedd, mi’r oedd f’un i yn fanwl - bydd pethau ddim yn dilyn hwnnw drwy’r amser.


Mi ddigwyddodd hynny i mi ar raddfa eithaf sylweddol; ro’n i wedi cynllunio seiclo tri diwrnod, a seiclo dau ddiwrnod wnes i yn y diwedd am amrywiol resymau.


Aberystwyth a Llanymddyfri oedd fy nau gyrchfan, fel petai, a do mi gyrrhaeddais i’r rheiny, ond ar routes fymryn yn wahanol i’r hyn wnes i gynllunio.


…bod hyblygrwydd yn allweddol

Ar y diwrnod cyntaf, erbyn cyrraedd top y Dylife, roedd hi’n dechrau bwrw glaw’n eithaf trwm, ac ro’n i’n gwybod mai yma oedd y lle olaf y medrwn i wneud penderfyniad o ran cytogi.


Cofeb Wynford Vaughan Thomas ar y Dylife

Roedd fy route gwreiddiol yn mynd a mi wedyn i Lanidloes, Rhaeadr, Cwm Elan a lawr i Aber drwy Gwmystwyth a heibio Porth yr Hafod. Tipyn o ffordd i fynd, ac mi’r oedd gorfod cyrraedd Aber erbyn 6 yn pwyso’n drwm ar y meddwl.


Rhwng y ddau ffactor yna, mi wnes i benderfyniad i quit while I was ahead a mynd yn ôl i lawr i Fachynlleth a chymryd y 487 i Aber heibio Cletwr am ginio ac yna i Ynyslas a Borth.


Erbyn troi ar North Road, roedd fy nheiar blaen i wedi rhwygo. Lwcus mai yma oedd hynny’n digwydd ac nid mewn rhyw fan anghysbell yng Nghwm Elan, ac felly mi roedd y penderfyniad yn teimlo fel yr un iawn.


Ar yr ail ddiwrnod, ro’n i’n cadw llygad agos ar y rhagolygon ar gyfer y dydd Mercher gan fod posiblrwydd o stormydd a glaw t’rannau.


Mi wnes i benderfyniad cynnar i hepgor y daith i’r Fenni (o fanno o’n i’n dal y trên yn wreiddiol), ac yn hytrach gymryd y trên Heart of Wales i Amwythig o Lanymddyfri.


Mi wnaeth hynny newid cynllun y dydd Mawrth hefyd, gan ‘mod i’n daer isio dringo’r Mynydd Du - felly mi wnes i ymestyn y route gynllunwyd er mwyn ei gynnwys.


…bod gwefr o fynd i lefydd am y tro cyntaf

Mae mynd i lefydd newydd ar feic yn gymaint o wefr.


Dwi ‘di gallu gwneud hynny fwy nag erioed yr haf yma, sydd wedi bod yn wych. Rhwng bod yn hŷn ac aeddfetach a phasio prawf gyrru, mae modd i mi grwydro a phrofi rhai o’r argymhellion sydd wedi eu hanfon ataf dros flynyddoedd o ‘sgwennu’r blog.


Er fod y rhan helaeth o’r diwrnod cyntaf yn gyfarwydd i mi, roedd yr ail ddiwrnod rhwng Aber a Llanymddyfri yn gwbl newydd.


…beth yw anghysbell

Dydych chi ddim yn gwybod beth ydy ystyr y gair anghysbell tan eich bod chi’n mynd o Dregaron ac angen cyrraedd Llanymddyfri, ac yn mynd dros Fwlch Esgair Gelli, heibio Soar y Mynydd a Llyn Brianne. Hynny pan fo hanfodion cynhaliaeth eich bywyd i gyd ar eich beic; pan fo popeth yn eich dwylo chi. Dim signal ffôn chwaith, yn amlwg. Does ‘na ddim lle i hyd yn oed ystyried ‘beth os..’.



Dwi’m yn meddwl ‘mod i ‘rioed wedi bod mor falch o weld gwareiddiad na phan nes i weld cwpl o dai yn Rhandirmwyn.


…bod o’n lot o amser ar eich pen eich hun

Mae hwn yn un eithaf amlwg efallai. Os ydych chi’n mynd ar drip tridiau ar eich pen eich hun, yna mae’n lot o amser ar eich pen eich hun.


Mae’n lot o amser i hel meddyliau ac ati, ac unig gynulleidfa’ch pyliau o forio canu yw ambell ddafad.


Ac er fod angen i mi ‘sgwennu englyn at Dalwrn y Beirdd y Sadwrn canlynol, yn yr holl amser ar y beic, dwi’n meddwl mai un lein o gynghanedd nes i lwyddo’i gyfansoddi.


…beth yw fy syniad o ffordd ddelfrydol

Beth yw’ch ffordd ddelfrydol chi ar feic?


Roedd y cwestiwn hwn yn rhywbeth y gwnes i fyfyrio arno dipyn yn ystod y daith, a dwi’n credu mai dyma fy meini prawf:


•  Un lôn, h.y. singletrack. Yn ddigon cul i atal llif cyson o geir, ond eto ddim yn rhy gul fel bod rhaid neidio i’r gwrych bob tro mae ‘na gar yn dod.

•  Arwyneb y ffordd yn dda; dim rhaid bod yn darmac andros o llyfn a moethus, ond dim tyllau na graean mân os yn bosib.

•  Golygfeydd. O ryw fath.

•  Ddim yn bell o ryw fath o wareiddiad. Signal ffôn yn ddelfrydol rhag ofn i rywbeth annisgwyl fynd o’i le.

•  Un ai dringo, neu oriwaered. Dim o’r nonsens fyny-a-lawr di-baid.



…bod Cymru’n fyd bach iawn, iawn


Pan o’n i yn y stesion yn Llanymddyfri fore Mercher a thipyn o amser cyn i’r trên gyrraedd, mi ges i fy stopio gan ddyn oedd eisiau siarad. Ac ar ôl dweud ‘mod i’n dod o’r Bala ac yn y blaen, doedd dim arwydd fod y sgwrs am ddod i ben, ac felly dyma fi’n dweud wrtho fod fy Nhaid yn arfer gweithio’n y Coleg.


Roedd o’n gwybod yn union pwy o’n i wedyn.


A dyna lle bûm i’n sefyll am ugain munud dda, yn siarad efo Eric Penybanc, oedd yn cofio fy mam yn bedair oed.


 

Y routes


Dyma’r casgliad o routes.


I ddechrau dyma’r un gynllunwyd yn wreiddiol:



A dyma’r un wnes i’i gwblhau:


Tri uchafbwynt


Y ddringfa ddienw

Cyrraedd Machynlleth o Ddolgellau (wel, Cross Foxes) heb fynd ar y ffordd fawr oedd y nod. Mae rhywun wedi uwcholeuo ffordd gefn fyddai’n gwneud yn union hynny ar feddalwedd Komoot, a nifer yn argymell.


Mae’n rhan o Lôn Las Cymru, route rhif 8 ar y rhwydwaith genedlaethol. Does dim dal be gewch chi ar Lôn Las; dydy’r route yn ei chyfanrwydd ddim yn addas i feic ffordd, ac mi allech chi stymblo dros ran graean.


Wrth fynd am Dalyllyn o Cross Foxes, dilynwch yr arwydd am route 8 beic. Bydd angen mynd drwy’r giât, ac mae’n dringo’n weddol serth ar lôn dawel iawn a’i garped o faw defaid tan yr ail giat. Mae’n gostegu rywfaint wedyn os cofia’i’n iawn ac wedyn yn mynd fymryn yn fwy serth tua’r top sy’n cael ei nodi gan giât arall. Be fyse beicbacio heb ffyrdd efo giatiau?


Dwi’n parhau ar hwn yr holl ffordd i Fachynlleth, ac mae arwyneb y ffordd yn dda yr holl ffordd - yn rhyfeddol mewn mannau. Drwy Aberllefenni a Chorris, ymlaen heibio’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac ar ei ddiwedd mi gyrrhaeddwch chi’r gwaith ffordd tragwyddol ar y ffordd fewn i Mach.


Soar y Mynydd a Llyn Brianne

Ro’n i’n gwybod y byddai’r rhan hon o’r daith yn anghysbell, ond do’n i ddim falle’n disgwyl iddi fod mor anghysbell ag oedd hi.


Mae hynny wirioneddol yn rhywbeth i’w gadw yn y cof, yn enwedig os ydych chi’n ystyried ei wneud ar eich pen eich hun - ddim yn rhywbeth ‘swn i 100% yn ei argymell. Rhywfaint o ddygnwch yn angenrheidiol.


Mae’n dringo o Dregaron drwy ran â choed bob ochr ac mae’n serth iawn ar un pwynt, cyn disgyn rhywfaint ac ail ddechrau dringo’n fwy graddol wedyn wrth i bethau agor allan.


Wedi hynny, bu rhaid i mi aros i gwpl o wartheg ufuddhau i’m gorchymun iddyn nhw symud o’m ffordd, ond roedd gweddill y ffordd yn ddiffwdan.


Mae’n werth stopio am ysbaid fach yn Soar y Mynydd, cyn dechrau ar y daith ar hyd ymyl Llyn Brianne, lle mae lefel y dŵr yn hynod o isel ar hyn o bryd.


Wrth ddychwelyd i wareiddiad, gallwch un ai fynd drwy Rhandirmwyn neu Gilycwm i Lanymddyfri.


Y Mynydd Du

Dwi mor falch y gwnes i ymestyn fy reid ar y dydd Mawrth er mwyn cynnwys Y Mynydd Du; un o’r dringfeydd oedd reit yn uchel ar fy rhestr o rai i’w cwblhau.


O Lanymddyfri, penderfynais ddilyn y ffordd fawr i Langadog oedd ddigon tawel ar y pryd, cyn troi i’r chwith (digon hawdd methu hwn) am Frynaman.


Mae’n dechrau rhyw ddringo’n raddol yma, cyn i’r arwydd mawr brown ddynodi dechrau’r ddringfa ‘go iawn’.


Mae’r dringo’n gyson drwyddi draw, y rhannau cyntaf yn eithaf caeëdig, cyn ichi groesi grid gwartheg ac yna mae’n agor allan yn gyfan gwbl a golygfeydd gwych i’w cael. Rownd un tro pedol, parhau i ddringo, rownd Tro’r Gwcw, ac wedi hynny dydy’r copa ddim yn rhy bell. Oddi yno, mae’r golygfeydd i’r de yn arbennig ar ddiwrnod clir, a gellir gweld am filltiroedd maith.


Roedd y ddringfa hyd yn oed yn fwy melys o wybod ei bod hi fwy neu lai’n downhill all the way i’r gwesty wedi hynny.


 

Felly dyna ni. Gobeithio y cawsoch chi flas ar fy nhaith yn yr un modd ag y cefais i flas ar feicbacio!


Mentrwch - mae wir werth y profiad.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page