top of page

Cenhedloedd Seiclo: Gwlad y Basg

Updated: Apr 12, 2021

Yr wythnos hon, cynhelir taith Gwlad y Basg; Tour of the Basque Country yn Saesneg, Vuelta al Pais Vasco yn Sbaeneg, neu Euskal Herriko itzulia yn yr iaith Fasgeg (Euskara).


Gyda hynny, daw'r cyfle perffaith i mi ysgrifennu cofnod sydd wedi bod ar y gweill ers tro byd - sef clodfori hoelion wyth y cenhedloedd seiclo ac yn eu plith, Gwlad y Basg.


Ceir adlewyrchiad clir iawn o frwydfrydedd y Basgwyr tuag at y gamp yn y Tour de France - gan fwyaf yn y Pyrenees cyfagos - lle amlygir eu baner, sy'n ryw hybrid o Jac yr Undeb yn lliwiau Cymru.


Dylunwyd y faner dan ysbryd genedlaetholgar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'r awch am annibyniaeth wedi bod yn gryf, a'n dreisgar ar brydiau, ers tro ac wedi cael ei arddangos yn rhai o'r rasys mwyaf dros y degawdau diwethaf.


Mae'r faner wedi bod yn weladwy iawn yn nyddiau cyntaf ras yr wythnos hon, sydd gan fwyaf yn cael ei thalfyrru i Itzulia (sy'n golygu Tour yn Euskara).


Dyma ras sy'n llawn o hanes, ac yn dyddio'n ol ganrif bron. Cynhaliwyd 8 rhediad o'r ras cyn stopio oherwydd y Rhyfel Cartref ym 1931. Ailgydiodd am un flwyddyn ym 1935 lle ennillodd yr arloeswr Gino Bartali, cyn dechrau yn ei ffurf bresennol fodern ym 1969.


Ceir darlun o un o rediadau cynnar y ras tua diwedd Fiesta: The Sun Also Rises gan Ernest Hemingway, lle mae'r prif gymeriad Jake yn cael diod gydag un o'r tim-reolwyr un noson a'n cytuno i gwrdd eto'r bore canlynol, ond dydy hynny ddim yn digwydd. Dyma un ffordd mae Hemingway yn portreadu diffyg amcan ym mywydau'r 'Genhedlaeth Goll' wedi'r Rhyfel Mawr.


Mae rhai o enwau mwyaf y Tour de France yn eu cyfnod wedi dod i'r brig yma - Jacques Anquetil, Luis Ocana, Stephen Roche, Sean Kelly, Tony Rominger ac Alberto Contador - sydd yn draddodiadol yn golygu cael gwisgo beret Basgaidd ar y podiwm.


Ond mae gwreiddiau seiclo yng Ngwlad y Basg yn dyddio hyd yn oed ymhellach.


Mae'n tarddu o ddiwydiant ffyniannus o gynhyrchu haearn a dur yn Bilbao, lle roedd beic yn ffordd dda ac effeithlon i gymudo i'r boblogaeth oedd yn gweithio yn y diwydiant hwnnw.


Yn ogystal, defnyddiwyd y dur o'r diwydiant i wneuthuro'r beics ac mae brandiau fel Orbea a BH wedi ymestyn ymhell tu hwnt i ffiniau gwlad y Basg wedi llwyddiant lleol.


Yn swyddogol, cymuned ymreolaethol yw Gwlad y Basg (autonomous community) ac mae Euskara yn iaith gyffredin o fewn ei ffiniau, gyda nifer debyg o ran siaradwyr i'r Gymraeg yn tua 750,000.


Ystyrir yr Euskara fel iaith arunig (language isolate) gan ieithyddwyr sydd wedi cael penbleth yn ceisio canfod gwreiddiau'r iaith; h.y. does gwreiddiau yn y Lladin, iaith Geltaidd neu'r Groegaidd er enghraifft.


Erbyn hyn, mae cynrychiolaeth dda o'r Basgwyr yn y peloton. Unigolion megis Mikel Landa (Bahrain-Victorious) a'r brodyr Gorka ac Ion Izagirre (Astana Premier Tech), yn ogystal ag ennillydd cymal 2 ddydd Mawrth, Alex Aranburu (Astana Premier Tech), ac hefyd tim Euskaltel Euskadi.


Mae'r tim mewn oren wedi bod yn adnabyddus ers 1998, ond wedi saib mi ddychwelon nhw ddechrau 2020. Noddir gan gwmni telegyfathrebu lleol Euskaltel a'r llywodraeth leol Euskadi, ac fe'i gwelir fel carfan genedlaethol y Basgwyr.


Heb os, mae gweddill yr wythnos hon yn gaddo i fod yn wledd o ran y rasio ac mae'r brwdfrydedd a'r angerdd tuag at seiclo am barhau i fyrlymu i'r dyfodol.


Llyfryddiaeth

Recent Posts

See All
bottom of page