top of page

Bwletin Byd y Beic: 10fed o Chwefror

Wythnos ddigon prysur o fewn y byd seiclo, felly dyma ni geisio crynhoi yr hyn rydym ni wedi’i weld dros y saith diwrnod diwethaf.

 

Gruppetto

Gadewch i ni gynhesu gydag ambell un o'r pennawdau


Mae Nairo Quintana yn gwella'n raddol o anaf i'w ben-glin ac yn edrych ymlaen i gymryd rhan yn y Tour des Alpes Maritimes et du Var, er nad yw ar ei lefel uchaf. Yn y cyfamser, wedi'r ddamwain erchyll yng Ngwlad Pwyl y llynnedd, mae ei gyd-reidwyr Deceuninck-Quickstep yn canmol datblygiad Fabio Jakobsen wrth iddo ymadfer o'i anafiadau.


Profion positif yn golygu nad oedd Sport Vlaanderen-Baloise yn gallu rasio yn yr Etoile de Bessèges, wrth i Covid-19 barhau i greithio'r tymor seiclo. Peter Sagan hefyd yn cadarnhau ei fod wedi profi'n bositif am y firws tra'n hyfforddi yn Gran Canaria.


Ineos Grenadiers yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer Grand Tours y flwyddyn. Geraint Thomas i arwain y garfan ynghyd a Tao Geoghegan Hart a Richard Carapaz yn Le Tour de France; Egan Bernal, Filippo Ganna, Pavel Sivakov a Dani Felipe Martinez i dargedu'r Giro d'Italia tra bydd Adam Yates yn arwain y gad yn y Vuelta. Dau cymal REC pellter hir y Tour yn gweddu iddo, meddai Geraint.


23 tim i gystadlu yn y Grand Tours eleni gyda Total-Direct énergie, Arkea-Samsic a B&B Hotels yn cael lle yn y Tour de France.


Strade Bianche yn defnyddio'r un route a'r llynedd, ond bydd Liege-Bastogne-Liege yn cynnwys dringfa newydd - Cote de Desnié. Bydd 80km olaf y ras yn unfath i'r menywod a'r dynion.


Mathieu van der Poel a'i dim Alpecin-Fenix i ganolbwyntio ar wythnos gyntaf y Tour de France, tra bo Nacer Bouhanni (Arkea-Samsic) yn awyddus i gronni buddugoliaethau wedi iddo orffen yn ail ar cymal cyntaf Etoile de Bessèges.


Cyn-CEO tim Sky Fran Millar yn cadarnhau fod cynnig am dim cyfatebol i'r menywod wedi'i wrthod yn gynnar yn y trafodaethau. Dywedodd Sir David Brailsford wrth y Guardian nad oedd cynlluniau ar hyn o bryd chwaith.


Chris Froome yn dweud ei fod yn anhapus yn defnyddio breciau disg ar feiciau Factor ei dim newydd Israel Start-Up Nation wedi degawd o ddefnyddio breciau rim ar feiciau Pinarello.


Vuelta a Espana 2021 i orffen gyda ras yn erbyn y cloc yn Galicia; trywydd gwahanol i'r diweddglo yn y brifddinas Madrid sydd wedi bod ers 2014.

 

Peloton

Y prif straeon o'r wythnos


ETOILE DE BESSÈGES

Buddugoliaeth unigol ar cymal 3 yn ddigon er mwyn i Tim Wellens sicrhau'r DC

Tim Wellens brofodd unwaith yn rhagor mai fo ydy brenin rasys cymalau Chwefror gyda buddugoliaeth yn Etoile de Bessèges.


Christophe Laporte oedd ar frig y dosbarthiad cyffredinol wedi'r ddau cymal cyntaf, diolch yn bennaf i'w fuddugoliaeth ar y cymal cyntaf o flaen Nacer Bouhanni. Gorffennodd yn bumed wedyn ar yr ail cymal mewn gwib o grwp dethol ennillwyd yn annisgwyl gan Timothy Dupont.


Ar cymal 3 y gwnaeth Wellens ei farc. Yn ymosod o ddihangiad bum seren yn cynnwys Egan Bernal a Vincenzo Nibali, agorodd fwlch o 37 eiliad.


Er gwaethaf perfformiadau cryfion ar y deuddydd olaf gan Filippo Ganna - yn ennill yn unigol ar cymal 4 ac yn y REC ar cymal 5 - roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel yng ngafael Wellens.


Diddorol iawn oedd gweld cryfder Ganna mor fuan y tymor, wnaeth ofyn y cwestiwn a oedd am gystadlu yn y clasuron coblog. Fodd bynnag, y Giro d'Italia ym mis Mai a'r gemau Olympaidd (REC ac ymlid tim) yw ei dargedau i'r tymor.


Cafwyd perfformiad cryf gan y Cymro Owain Doull yn y REC dydd Sul, wnaeth orffen yn 8fed, ond stori dra wahanol oedd hi i Geraint Thomas - ddywedodd y byddai wedi gallu gorfod cerdded i fyny'r ddringfa olaf yn lle ei seiclo.


Dosbarthiad cyffredinol

  1. Tim Wellens (Gwlad Belg) Lotto Soudal

  2. Michal Kwiatkowski (Gwlad Pwyl) Ineos +53"

  3. Nils Politt (yr Almaen) Bora-Hansgrohe +59"

  4. Jake Stewart (Lloegr) Groupama-FDJ +1'02

  5. Mads Wurtz Schmidt (Denmarc) Israel StartUp Nation +1'19


PENCAMPWRIAETHAU CENEDLAETHOL AWSTRALIA

Y profiadol a'r ifanc yn cipio'r crysau gwyrdd ac aur

Mae pencampwyr cenedlaethol cyntaf 2021 wedi cael eu cadarnhau wedi wythnos o rasio am y crysau gwyrdd ac aur yn Awstralia.


Ganol wythnos, y reidiwr ifanc addawol Luke Plapp, 20, gipiodd dlws REC y dynion, tra llwyddodd Sarah Gigante i amddiffyn ei choron yn REC y menywod.


Dros y penwythnos wedyn, y profiadol Sarah Roy oedd yn fuddugol yn ras ffordd y menywod, cyn ras gyffrous tu hwnt i'r dynion - Cameron Meyer oedd yn fuddugol am yr eildro yn olynol fu'n rhan o'r dihangiad terfynol.


UCI

Mesurau diogelwch newydd yn creu stŵr yn y peloton

Mae mesurau diogelwch newydd gyhoeddwyd gan yr UCI (Union Cycliste Internationale) wedi creu tipyn o stŵr tu fewn a thu allan i'r peloton.


Ymhlith y rheolau newydd mae rhai sy'n gwahardd reidwyr rhag reidio ar y tiwb llorweddol (y safle super-tuck ar ddisgyniadau) a rhag reidio gyda 'bariau ero/REC anweledig' (invisible aero/TT bars).


Mae rhai reidwyr wedi ymateb yn chwyrn i hyn, gan ddweud na ddylai'r UCI ddweud wrth reidwyr proffesiynol sut i reidio'u beics, ac y byddan nhw'n eu gwahardd rhag dathlu a'u dwylo yn yr awyr nesaf.


Fodd bynnag, mae eraill gan gynnwys Dan Martin yn cydnabod fod y sefydliad wedi cymryd camau rhagweithiol, gan weithredu cyn i unrhyw beth ddigwydd.


All yr un peth ddim cael ei ddweud am eu hymateb i ddamweiniau yn agos at y llinell derfyn, fodd bynnag. Maent wedi ymestyn eu mesurau ar y rhwystrau o fewn yr ychydig gan medrau olaf yn sgil rhai damweiniau nodedig yn 2020.


THIBAUT PINOT

'Dwi wedi ystyried stopio yn aml iawn' - Pinot mewn cyfweliad gonest gyda L'Équipe

Mewn cyfweliad gonest gyda'r papur newydd chwaraeon Ffrangeg, L'Équipe, bu Thibaut Pinot yn trafod y gorffennol, y presennol a'r dyfodol gan agor llygaid nifer.


"Dwi 'di bod drwy rasys dair wythnos, gwael, yn 2019 wnes i ddim para un diwrnod. 'Dwi ddim eisiau byw fel 'na, o leiaf ddim eleni," meddai.


"Mae 'na rywbeth sy'n fy nenu i i'r Giro a dwi'n credu 'mod i angen hynny i adlamu. Gwnes i fy mhenderfyniad cyn iddyn nhw ryddhau'r parcours, ond mi wnaeth hynny gadarnhau fy mhenderfyniad." Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'n ei "helpu i adennill hyder mewn Grand Tours".


"Er y byddwn i'n hoffi gorffen ar y podiwm yn y Giro ryw ddydd, dydw i ddim bellach eisiau grwp sydd wedi'i adeiladu o fy nghwmpas i. Rwan, dwi eisiau i'r reidwyr eraill rasio eu ras nhw hefyd. Dydw i ddim eisiau tim sydd wedi ymroi 100% tuag atai."


Y dyfyniad wnaeth daro nifer oedd: "Je serais manager, je n'aimerais pas avoir un mec comme moi en coureur. Moi, je le vends ce mec-là, je le donne même!", yn cyfieithu i "Pe bawn i'n reolwr, byddwn i ddim yn hoffi cael rhywun fel fi yn reidiwr. Fy hun, byddwn i'n ei werthu, neu ei roi i ffwrdd!"


Aeth ymlaen i drafod sut y gwnaeth o gymryd cyffur tuag at boen cefn dros y Gaeaf. "O safbwynt foesegol 'dwi wastad wedi bod yn eu herbyn. [Yn y Gaeaf] roeddem ni mewn cyfnod hollol tu allan i gystadlu. Byddwn i byth yn ei gymryd rhwng dwy ras.


"Mae'n fy ngwneud i'n sal [h.y. defnyddio cyffuriau o'r fath rhwng rasys]. Pe bawn i wedi cymryd y cyffur tuag at fy nghefn, byddwn i wedi gorffen rasys nad oeddwn i wedi gallu eu gorffen. Fy nghodwm llynedd, fy anaf yn 2019, fy bronchitis er enghraifft."


Yna, bu'n trafod sut mae'r byd seiclo proffesiynol wedi newid yn ystod ei yrfa. "Does dim hwyl rwan. Yn fy Tours de France cyntaf, bydden ni'n mynd i'r pentref i wrando ar glown 20 munud cyn dechrau cymal. Rwan, ar yr un adeg, rydym ni mewn cyfarfod er mwyn gwybod sut i gymryd y roundabout neu beth yw cyfeiriad y gwynt."

 

PROFFIL YR WYTHNOS


ETOILE DE BESSÈGES

Jake Stewart (Groupama-FDJ)

Pwy ydy o?

Reidiwr 21 oed o Coventry yw Jake Stewart. Bu'n rhan o dim datblygiad Groupama-FDJ o 2019 tan arwyddo cytundeb broffesiynol gyda'r garfan WorldTour ym mis Hydref 2020.


Pam ei fod o wedi dal sylw?

Perfformiodd yn gyson yn Etoile de Bessèges, gan orffen yn 9fed ar y cymal cyntaf i'r puncheurs a'n 7fed ar cymal 3 yn y wib o'r grwp tu ol i Wellens, cyn gorffen yn 10fed yn y REC i hawlio'r 4ydd safle ar y DC terfynol. Tipyn o gamp i reidiwr ifanc o ystyried yr enwau oedd yn bresennol.


Beth allwn ni ddisgwyl ganddo?

Mae wedi dangos ei allu fel gwibiwr ac fel puncheur yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n ei roi ar y trywydd cywir ar gyfer yr Openingsweekend ddiwedd mis Chwefror a gweddill y clasuron. Yn 2020, llwyddodd i orffen Scheldeprijs yn y grwp blaen o wibwyr, felly mae'n ymddangos fod canlyniad mawr o fewn gafael.

 

Échappée

Beth i edrych ymlaen ato yn yr wythnos i ddod


TOUR DE LA PROVENCE

Cast bum seren i'r ras bedwar cymal fydd yn brwydro ar lethrau'r Ventoux

Mae'r rasio Ewropeaidd yn newid ger yn y dyddiau nesaf wrth i'r reidwyr frwydro am goron y Tour de la Provence.


Gallwn ni wahanu'r rhestr ddechrau'n ddwy garfan - y garfan sydd eisoes a pheth profiad rasio yn 2021 wedi'r Etoile de Besseges etc a'r garfan sydd heb. Faint o ddylanwad fydd hynny'n ei gael ar y canlyniad terfynol?


Wedi'i fuddugoliaeth yn Besseges, bydd Tim Wellens yn hyderus o'i allu yn y bryniau, a bydd yn sicr yn edrych ar y ddau cymal cyntaf gyda llygaid awchus. Bydd reidwyr fel Julian Alaphilippe a Giulio Ciccone yn sicr yn cadw golwg ar y cymalau hyn yn ogystal, a'u rhinweddau ymosodol yn sicr yn ffafriol iddynt.


Wrth symud tuag at frwydr y Ventoux, mae 'na ambell i dim sy'n sefyll allan. Ineos yw'r cyntaf, a hwythau'n gallu dibynnu ar Egan Bernal, Ivan Sosa ac Eddie Dunbar i gyrraedd y copa'n gyntaf. Astana Premier-Tech yw'r un arall - carfan gyflawn all ddarparu mwy nag un fuddugoliaeth ar draws y pedwar diwrnod, gan gynnwys Alexey Lutsenko a Gorka Izagirre yn ogystal a'r dringwyr pur mwy ifanc, sef Aleksandr Vlasov a Harold Tejada. Gallwn ni hefyd weld Bora-Hansgrohe yn cael effaith ar y mynydd moel gyda'u par o Awstriaid, Felix Grossschartner a Patrick Konrad; neu efallai Bahrain-Victorious gyda'r triawd o Wout Poels, Dylan Teuns a Jack Haig.


Gan edrych ymhellach ar hyd y rhestr ddechrau, mae cwpwl o enwau eraill y dylem ni gadw llygad arnynt; Warren Barguil o Arkea-Samsic; Bauke Mollema a Niklas Eg o Trek-Segafredo; Enric Mas o Movistar; Fabio Aru o Qhubeka-Assos a Jesus Herrada o Cofidis.


Am wn i y bydd y gwibwyr yn torri bol eisiau cael rhywbeth allan o'r ras fynyddig hon ar y cymal olaf - enwau mawr fel Arnaud Démare (Groupama-FDJ), Matteo Trentin ac Alexander Kristoff (UAE), Bryan Coquard (B&B Hotels), Nacer Bouhanni (Arkea-Samsic) a John Degenkolb (Lotto Soudal) - ond bydd rhaid iddynt fod yn wyliadwrus o unrhyw ymosodwyr slei.


Rhestr ddechrau anhygoel; methu aros.


Rasys eraill i'w gwylio (os oes amser rhwng gemau'r Chwe Gwlad!):

  • Eeklo Ethias CX (dynion a menywod) - Chwefror 13

  • Clasica de Almeria (dynion) - Chwefror 14

  • Brussels Universities Badkamers Trofee (dynion a menywod) - Chwefror 14

 

Flamme Rouge


LLYFR YR WYTHNOS

'What Goes Around' gan Emily Chappell

Os hoffech chi ongl wahanol ar y byd seiclo, mae hwn yn lyfr gwych i'w ddarllen. Gan y reidiwr sydd wedi cwblhau'r ras Transcontinental ac ysgrifennu amdano yn 'Where There's a Will', cawn ei hanes fel courier yn Llundain yn cludo parseli ar ddwy olwyn - a'r holl gymhlethdodau sy'n dod gyda hynny. Wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr.

 

Digon i gnoi cil drosto ac i edrych ymlaen ato felly. Mwynhewch!

Recent Posts

See All
bottom of page