top of page

BByB 4/3 | Openingsweekend, Strade Bianche, Paris-Nice a mwy


Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel o brysur yn y byd seiclo proffesiynol wrth i'r tymor gychwyn go iawn - y World Tour a'r clasuron wedi dechrau. Cawn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd, ac edrych ymlaen at beth sy'n argoeli i fod yn wythnos brysur tu hwnt unwaith yn rhagor.

Ddim awydd darllen bob dim? Cliciwch ar y linc i gyrraedd man penodol yn y gofnod:

Edrych yn ôl:

Taith yr EAU Omloop Het Nieuwsblad ME

Omloop Het Nieuwsblad WE

Kuurne-Bruxelles-Kuurne

Le Samyn WE

Le Samyn WE

Faun-Ardeche

Royal Bernard Drôme

Trofeo Laigueglia

Edrych ymlaen:

Strade Bianche WE

Strade Bianche ME

Paris-Nice


Bydd y dolenni yma'n siwr o fod yn ddefnyddiol pan fyddai'n diweddaru pethau o fewn y gofnod - rhagolwg Paris-Nice er enghraifft gan nad ydy'r rhestr ddechrau wedi'i chadarnhau eto.

 

TAITH YR EMERADAU ARABAIDD UNEDIG

Pogacar yn drech na Yates

Wel, dyna i chi ras sy'n diffinio'r term anti-climax yn berffaith.


Mewn ras saith cymal, roedd y digwyddiadau allweddol i gyd ar cymal 1 a chymal 3. Yn wir, roedd gobaith na fyddai hon yn ras mor ddiflas ag arfer wedi i'r echelonau rwygo'r ras ar y cymal cyntaf.


Yn sgil hynny, roedd y frwydr am y dosbarthiad cyffredinol wedi'i hidlo'n barod i ond pedwar reidiwr lwyddodd i gadw yn y grwp blaen - pencampwr y Tdf Tadej Pogacar (UAD), Adam Yates (IGD), Fausto Masnada a Joao Almeida (y ddau DQT).


Mathieu van der Poel (AFC) oedd yn fuddugol bryd hynny yn y wib o flaen David Dekker (TJV). Ond wedi achosion Covid o fewn ei garfan, roedd yn rhaid i MvdP adael y ras, ac wedi hynny'n gadael i Dekker anrhydeddu crys yr arweinydd ar cymal 2.


Ras yn erbyn y cloc oedd yn aros am y reidwyr ar cymal 2, ac o ystyried fod Filippo Ganna (IGD) ar y rhestr ddechrau - dim ond un canlyniad oedd yn bosib. Ganna yn ennill o 14 eiliad o flaen Stefan Bissegger (EFN), reidiwr 22 y dylen ni'n sicr gadw llygad arno.


Daeth cymal y frenhines wedyn ar cymal 3 i gopa dringfa Jebel Hafeet. brwydr rhwng Yates a Pogacar oedd hi am y fuddugoliaeth - y naill methu diosg y llall oddi ar ei olwyn, a phencampwr y Tour yn ffrwydro ar yr eiliad gywir i groesi'r llinell gyntaf.


Y tu ol i'r par yma, roedd grwp cryf 48 eiliad i lawr y mynydd yn Sergio Higuita (EFN), Emanuel Buchmann (BOH), Harm Vanhoucke (LTS) ac Almeida; wedyn Florian Stork (DSM) a Neilson Powless (EFN) ar 54 eiliad.


Cafwyd perfformiadau cryfion gan Nick Schultz (BEX) a reidiwr 20 oed Trek-Segafredo, Mattias Skjelmose Jensen.


Wedi hynny, cafwyd tri chymal i'r gwibwyr - Sam Bennett (DQT) yn ennill ar cymal 4 a chymal 6 a Caleb Ewan (LTS) yn fuddugol ar cymal 7. Roedd ei berfformiadau cyson yn y gwibiau clwstwr ar draws yr wythnos yn ddigon i David Dekker gipio'r dosbarthiad pwyntiau.


Ar cymal 5 roedd dringfa arall ar ddiwedd, ond yn ol y disgwyl ni chafwyd y gwahaniaethau mawr ar y DC. Roedd hi'n ddiwrnod da, fodd bynnag, i Jonas Vingegaard (TJV) gipiodd ei fuddugoliaeth fwyaf yn ei yrfa hyd yn hyn.


Unwaith eto eleni, rydym ni'n gweld sut y gallai hon fod yn ras fwy ddiddorol drwy ad-drefnu'r cymalau - bod cymal y frenhines i Jebel Hafeet mor hwyr a phosib yn y ras.


Dosbarthiad cyffredinol terfynol

  1. Tadej Pogacar (UAD)

  2. Adam Yates (IGD) +35"

  3. Joao Almeida (DQT) +1'02

  4. Chris Harper (TJV) +1'42

  5. Neilson Powless (EFN) +1'45

Nôl i'r tabl cynnwys

 

OPENINGSWEEKEND

Gwibiau clwstwr yn thema


O'r pump ras undydd gwlad Belg sydd wedi cael eu cynnal yn yr wythnos ddiwethaf, mae pedwar o'r rheiny wedi gorffen mewn gwibiau clwstwr.


Beth allwn ni ddysgu o hynny?


Yn sicr un peth sydd wedi cael ei atgyfnerthu ydi mai'r reidwyr sy'n gwneud ras ac nid y route. Mae dyluniad route Omloop yn gwyro tuag at ffafrio arddull ymosodol, ond eto gorffennodd y ras i'r dynion mewn gwib glwstwr.


Dwi'n siwr fod y tywydd braf a sych wedi cyfrannu at hefyd, ond mae dadl hefyd fod safon mor uchel yn y peloton ar hyn o bryd - bod y gwahaniaethau rhwng y goreuon wirioneddol mor fach a'r gwahaniaeth mewn gwib. Hynny'n rhywbeth i gadw mewn cof at weddill tymor y clasuron.


Peth arall yw - er fod rhai o'r rasys yma wedi gorffen mewn gwib glwstwr, roedd y naratif cyn hynny, yn Omloop ME a KBK er enghraifft, yn ddifyr a diddorol. Felly mae'n werth gwylio mwy na'r cwpl o gilomedrau yn unig!


A dydw i ddim yn dweud fod gwibiau clwstwr yn ddiflas; dim ond gobeithio y gwelwn ni ymosodiadau a brwydrau mewn grwpiau mwy dethol yn yr wythnosau i ddod.


Dyma grynodeb o'r canlyniadau o wlad Belg.


Omloop Het Nieuwsblad ME

Wedi cyfres o ymosodiadau, gan gynnwys cyfle i weld crys enfys Julian Alaphilippe ar flaen y gad, gwib glwstwr a gafwyd i Ninove. Ac o ystyried cryfder carfan Deceuninck-Quickstep, roedd hi'n anochel mae'r dyn cyflym yn eu plith sef yr Eidalwr Davide Ballerini ddaeth i'r brig. Y Saes ifanc Jake Stewart, gafodd ei grybwyll ambell wythnos yn ol ar y blog, wasgodd heibio Sep Vanmarcke i sicrhau canlyniad gorau'i yrfa broffesiynol byr hyd yma. Roedd Owain Doull yn amlwg yn rhannau olaf y ras, oedd yn braf i'w weld, ac yntau'n berfformiwr cryfaf Ineos Grenadiers (22ain).

Nôl i'r tabl cynnwys


Omloop Het Nieuwsblad WE

Rwan, wedi i mi baldaruo am y gwibiau clwstwr yn gynharach, rhaid i mi nodi mai'r unig ras o'r pump clasur gwlad Belg i beidio a gorffen yn y fath ffordd oedd Omloop i'r menywod. Tactegau perffaith gan dim SD Worx - gyda Demi Vollering ar y blaen yn unigol am sbel wedi iddi symud o Parkhotel-Valkenburg; ac unwaith y cafodd hi'i dal roedd hi'n amser i ni weld Anna van der Breggen ar ei gorau yng nghrys yr enfys. Yn y wib i'r ail safle 23 eiliad tu ol, Emma Norsgaard Jorgenson (Movistar) oedd gyflymaf.

Nôl i'r tabl cynnwys


Kuurne-Bruxelles-Kuurne

Wedi diwrnod trychinebus yn Omloop Het Nieuwsblad y diwrnod blaenorol, Mads Pedersen wnaeth arbed y penwythnos i Trek-Segafredo wrth gipio'r fuddugoliaeth. Hynny, eto, mewn gwib glwstwr wedi i'r peloton amlyncu'r dihangiad o ryw bump reidiwr oedd yn cynnwys Mathieu van der Poel a Jhonatan Narvaez. Llwyddodd Tom Pidcock i gyrraedd disgwyliadau'r wasg Brydeinig drwy wibio i bodiwm - gan atgyfnerthu'r perfformiad cryf gafwyd yn Omloop.

Nôl i'r tabl cynnwys


Le Samyn WE

Er gwaethaf ymosodiadau diddiwedd yn rhannau olaf y ras gan Marlen Reusser, Anna Hendersen et al, gwelson ni wib glwstwr i'r llinell derfyn ar ddiwedd Le Samyn. 2il oedd hanes Emma Norsgaard Jorgenson am yr eildro yr wythnos hon wedi iddi hi gychwyn ei gwib ychydig yn rhy fuan - arwydd falle o amhrofiad ar ei hysgwyddau ifanc. Un reidiwr wnaeth amseru'i gwib yn berffaith oedd Lotte Kopecky, pencampwraig Gwlad Belg, er mwyn hawlio'r fuddugoliaeth.

  1. Lotte Kopecky (LIV)

  2. Emma Norsgaard Jorgenson (MOV)

  3. Chloe Hosking (TFS)

  4. Gladys Verhulst (ARK)

  5. Marjolein van't Geloot (DRP)

Nôl i'r tabl cynnwys


Le Samyn ME

Yn debyg iawn i'r ras gyfatebol i'r menywod, aeth ymosodiadau hwyr Victor Campenaerts, Lukasz Wisniowski et al yn ofer a gwib glwstwr a gafwyd ar y diwedd. Tim Merlier yn fuddugol o flaen Rasmus Tiller, Andrea Pasqualon a phar Israel StartUp Nation sef Sep Vanmarcke a Hugo Hofstetter. Ac ydi'r ffaith mai'r pennawd wedi'r ras oedd llun o lawfariau Mathieu van der Poel wedi hollti'n ddau yn adrodd cyfrolau?!

  1. Tim Merlier (AFC)

  2. Rasmus Tiller (UXT)

  3. Andrea Pasqualon (IWG)

  4. Sep Vanmarcke (ISN)

  5. Hugo Hofstetter (ISN)

Nôl i'r tabl cynnwys

 

RASYS UNDYDD ERAILL

Reidwyr ifanc yn dal sylw


Faun-Ardeche Classic

David Gaudu yn fuddugol o flaen Clement Champoussin - reidiwr 22 oed sydd wedi dal y sylw yn lifrai AG2R Citroen. Hugh Carthy o sir Gaerhirfryn yn gorffen yn drydydd. Aleksandr Vlasov yn y chweched safle o flaen Aurelien Paret-Peintre yn seithfed, y naill eisoes wedi gwneud i farc a'r llall eto i gamu i oleuadau mawr y WorldTour.

  1. David Gaudu (GFC)

  2. Clement Champoussin (ACT) "

  3. Hugh Carthy (EFN) +11"

  4. Mikkel Honore (DQT) +28"

  5. Dorian Godon (ACT) +40"

Nôl i'r tabl cynnwys