top of page

Bwletin Byd y Beic: 18ed o Chwefror

Y diweddaraf o'r byd seiclo.


Mi fydd rhai craff ohonoch wedi sylwi fod cofnod yr wythnos hon wedi'i chyhoeddi ar ddydd Iau yn hytrach na'r dydd Mercher fel wythnos diwethaf. Bydd y diwrnod yn cyhoeddi yn amrywio yn ol y rasio.

 

Gruppetto

Gadewch i ni gynhesu gydag ambell un o'r pennawdau

Mi gofiwch chi'r drafodaeth yr wythnos ddiwethaf am fesurau diogelwch newydd gyflwynwyd gan yr UCI - cwynion yr wythnos hon na chafodd ochr fenywod y gamp unrhyw ddweud ar y mater.


George Bennett fydd yn anrhydeddu crys pencampwr ffordd Seland Newydd am y flwyddyn i ddod, ond cafodd ei guro i'r teitl REC gan Aaron Gate. Georgia Williams oedd yn fuddugol yn y ddwy ras gyfatebol i'r menywod.


Targed fwyaf Wout van Aert ar gyfer 2021 fydd Pencampwriaethau'r Byd yn Fflandrys. Daw hyn wedi iddo ddatgan wrth gylchgrawn ProCycling mae'i amcanion fel seiclwr yw cael palmares amrywiol - gwella'i REC, ennill medal Olympaidd, ennill y crys gwyrdd yn Le Tour yn ogystal a'r clasuron yng Ngwlad Belg.


Peter Sagan yn methu'r Openingsweekend ymhen wythnos a hanner er gwaethaf gwella wedi Covid-19.


Women's Tour 2021 (ym Mhrydain) wedi'i ohirio o fis Mehefin i fis Hydref.


Peloton

Y prif straeon o'r wythnos

TOUR DE LA PROVENCE

Sosa ar y brig ar y Ventoux

Ivan Ramiro Sosa gipiodd ei fuddugoliaeth fwyaf hyd yn hyn ar lethrau Mont Ventoux a thrwy hynny'n sicrhau'r dosbarthiad cyffredinol yn y Tour de la Provence.


Gweithredodd Ineos ar un o'r tactegau enwocaf sydd wedi'i phrofi dro ar ol tro ar y mynydd moel i sicrhau bod y Colombiad ifanc yn croesi'r llinell derfyn yn gyntaf. Ymosododd Sosa, gan orfodi Julian Alaphilippe i'w ymlid - a glynodd ei gyd-reidiwr Ineos Egan Bernal i olwyn y Ffrancwr.


Er ei bod hi'n ymddangos fod coesau dringo da gan Alaphilippe, yn enwedig o ystyried ei bod hi'n gynnar yn y tymor, nid oedd yn gallu cael gwared ar Bernal wnaeth wibio i'r ail safle oddi ar ei olwyn. Ond bydd Alaphilippe yn fodlon o'r cyfle i gael rasio a dringo cystadleuol yn ei goesau ar gyfer tymor y clasuron sydd i ddod.


Dyma fuddugoliaeth fwyaf nodedig Ivan Sosa hyd yn hyn. Wedi dangos ei allu yn 2018 yn lifrai Androni-Giocattoli Sidermec lle ennilodd y Bihor-Bellotto a'r Sibiu yn Rwmania, yn ogystal a'r Adriatica Ionica a'r Vuelta a Burgos, arwyddodd gytundeb o dros i £250,000 y flwyddyn gydag Ineos (Sky ar y pryd) ar ol gwrthod cynnig Trek-Segafredo.


Camodd i'r WorldTour yn sgil hynny yn 2019 gan ennill yn Burgos eto, a dod yn ail yng Colombia ac yn Occitanie. Ond ni wireddodd yr addewid yn 2020, gyda chymal yn Burgos yr unig ganlyniad o bwys.


Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o'i gefndir os ydych wedi darllen Colombia Es Pasion gan Matt Rendell. Daw o gefndir gweithiol, traddodiadol ac mae'i rieni'n falch ei fod yn gallu cael gyrfa tu hwnt i'r un maen nhw'n ei gael.


Gosododd ddringfeydd y genedl sail cadarn iddo, a bu'n rasio'n aml ochr yn ochr ag Egan Bernal am sbel go hir. Braf iddynt gael cyd-weithio eto, mae'n siwr.


Profodd y ddringfa ar y Ventoux yn gyfle da i reidwyr a gwylwyr asesu cyflwr a gallu reidwyr ar adeg gynnar yn y tymor. Gorffennodd Bernal bymtheg eiliad tu ol i Sosa, ac Alaphilippe ar 18". Wedyn perfformiad cryf gan Wout Poels 29 eiliad tu ol i'r Colombiad, ac yntau'n profi gallu dringo yn lifrai Bahrain-Victorious.


Yn y grwp orffennodd 48" tu ol roedd par Trek-Segafredo Bauke Mollema a Giulio Ciccone; yn ogystal ag Aleksandr Vlasov, Patrick Konrad, Jack Haig, Jesus Herrada a'r Belgiad ifanc Mauri Vansevenant.


Ddeg eiliad ar hugain ymhellach yn ol roedd Matteo Jorgenson, Warren Barguil a Matteo Fabbro.


Yn y ddau cymal ddaeth o flaen cymal y frenhines i Ventoux, Davide Ballerini gipiodd y fuddugoliaeth o'r wib ar y ddau achlysur. Y tro cyntaf o flaen Arnaud Demare yn ail, sy'n ymddangos fel nad ydyw wedi taro'i uchafswm cyflymder eto wedi sbel o salwch, Bouhanni yn drydydd, Clement Venturini yn bedwerydd a Matt Walls yn bumed.


Ar yr ail cymal, cafwyd peth rhialtwch oherwydd y glaw roddodd Vlasov ac Alaphilippe ar lawr, Ballerini oedd brenin y gwibwyr pwerus, y tro hwn o flaen Ciccone, Aranburu, Teuns a Konrad.


I gloi ar cymal 5 ddydd Sul gwelwyd gwib glwstwr fwyaf syml y ras wrth i reidiwr Sunweb, Phil Bauhaus, guro Ballerini, Bouhanni, Matteo Moschetti a John Degenkolb i'r fuddugoliaeth.


Dosbarthiad cyffredinol

Tour de la Provence 2021


1. Ivan Ramiro Sosa (Colombia) Ineos

2. Julian Alaphilippe (Ffrainc) Deceuninck-Quickstep +18"

3. Egan Bernal (Colombia) Ineos +19" 4. Wout Poels (yr Iseldiroedd) Bahrain-Victorious +39"

5. Patrick Konrad (Awstria) Bora-Hansgrohe +57"


Dosbarthiad y mynyddoedd: Filippo Conca

Dosbarthiad pwyntiau: Davide Ballerini


PROFFIL YR WYTHNOS


TOUR DE LA PROVENCE

Matteo Jorgenson (Movistar)

Pwy ydy o?

Reidiwr 21 oed o Califfornia sy'n rhan o dim Movistar yw Matteo Jorgenson. Americanwr arall sydd wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd amgen o sefydlu gyrfaoedd yn y byd seiclo proffesiynol yn Ewrop.

Pam ei fod o wedi dal sylw?

Dangosodd reddf ymosodol ar yr ail cymal i Manosque cyn atgyfnerthu'i gryfder ar Mont Ventoux (1'18 tu ol Sosa). Fodd bynnag, roedd yn enw cyfarwydd i ambell un cyn hynny wedi iddo amlygu'i hun yn Milan Sanremo, Liege-Bastogne-Liege a La Fleche Wallonne yn 2020.


Beth allwn ni ddisgwyl ganddo?

Mae ganddo brofiad a chryfder mewn rasys hirach o'i amser yn y rasys dan 23 ac wedi bod yn hyfforddi ers yn 8 oed. Ar hyn o bryd, mae'n arbrofi mewn rasys gwahanol ac arddulliau gwahanol gyda Movistar. Gallwn ddisgwyl ei weld mewn Grand Tour cyn hir, ac yntau'n credu bod hynny'n gam pwysig i'w ddatblygiad a'i brofiadau. Mae hefyd eisiau chwarae rhan gefnogol o fewn y tim, fydd yn berffaith ar gyfer ymgyrchoedd Miguel Angel Lopez yn y rasys cymalau. Cawn weld os y bydd yn datblygu ar yr hyn ddangosodd llynnedd yn y clasuron eleni.


Échappée

Beth i edrych ymlaen ato yn yr wythnos i ddod


TOUR DES ALPES MARITIMES ET DU VAR

Y dringwyr i frwydro'n yr Alpau

Dydd Gwener 19/2 tan Dydd Sul 21/2


Ras tri chymal yn yr Alpau sydd o'n blaenau rhwng ddydd Gwener a dydd Sul, a does dim un cilomedr o dirwedd gwastad o fewn golwg.


Mae'n ymddangos efallai bod y ras eleni'n gweddu'n fwy at reidwyr sy'n arbenigo yn y bryniau yn hytrach na reidwyr sy'n arbenigo yn y mynyddoedd, yn wahanol i'r ddyflwydd ddiwethaf lle mae Nairo Quintana a Thibaut Pinot wedi dod i'r brig.


Cymal 1

Y cymal cyntaf yw'r fwyaf heriol o'r tri, gyda'r reidwyr yn dringo'r Col de Gourdon (14km ar 4%) deirgwaith ar ddiwedd y cymal. Digon o amser i hidlo'r grwp blaen i lawr, ond falle nad ydy'r graddiant yn ddigon serth i weld rhwygiadau enfawr.


Cymal 2

Talpiog yw'r unig ffordd o ddisgrifio'r ail cymal ddydd Sadwrn - bryniau'n ddidrugaredd. Dwy ddringfa gategoredig sy'n rhy bell o'r diwedd i gael dylanwad anferthol dybiwn i - ond mae'r diweddglo'n edrych yn danllyd, 1.2km ar 10%.


Cymal 3

Triawd o ddringfeydd categori 1 yn rhan o'r arlwy ar cymal 3, gydag ambell i ddringfa heb gategori all beri trafferth ychwanegol i rai. Mae'n ymddangos fel cymal perffaith i ddihangiadau ac ymosodiadau - gobeithiwn fod y Col de Nice (2.5km ar 5%) sydd a'i brig lai na 7km o'r diwedd yn darddbwynt perffaith ar gyfer ffrwydro.


Y reidwyr

Bydd y Cymro Geraint Thomas yn rhan o dim llawn opsiynau'r Ineos Grenadiers. Bydd hwn yn gyfle i ni weld Tom Pidcock yn lifrai'r garfan am y tro cyntaf, tra bydd Rohan Dennis, Tao Geoghegan Hart a Pavel Sivakov yn cychwyn eu tymor yma. Byddwn i, fodd bynnag, yn cadw llygad ar Jhonatan Narvaez a Dylan van Baarle.


Byddwn i'n tybio mai'r ffefryn mawr ar gyfer y ras yw Giulio Ciccone wedi'i berfformiad yn Provence. Dangosodd ei allu dringo yn ogystal a'i allu i wibio i'r llinell derfyn; rhinweddau fydd yn allweddol yma. Hefyd yn nhim Trek-Segafredo mae Bauke Mollema, Toms Skujins a Kenny Elissonde all chwarae rhan.


Mae tim AG2R Citroen yn ddiddorol; yn gyfuniad o reidwyr i'r clasuron megis Greg van Avermaet a Nans Peters a dringwyr yn Clement Champoussin a Ben O'Connor. Champoussin yn enw ifanc i'w wylio (4ydd Tour de l'Avenir 2019, 8fed dosbarthiad ieuenctid Vuelta 2020), tra bo gan O'Connor amcanion dringo'n y Tour eleni.


O ran Groupama-FDJ, synnwn i ddim y bydden nhw'n canolbwyntio ar reidwyr fel Rudy Molard a David Gaudu yn hytrach na Thibaut Pinot. Bydd angen cadw llygad barcud ar Astana-PremierTech, fydd a'u gobeithion ar ysgwyddau Jakob Fuglsang a Gorka Izagirre yn bennaf, ond hefyd ar y reidiwr ifanc Harold Tejada ddangosodd ryw fflach ymosodol ar Ventoux.


Ar wahan i hynny, cwpl o enwau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw - Henri Vandenabeele (DSM), Jesus Herrada (Cofidis), Magnus Cort (EF Nippo), Fabio Aru (Qhubeka Assos), Rui Costa (UAE), Mike Woods a Dan Martin (Israel), Pierre Latour (Total Direct Energie), Angel Madrazo (Burgos BH) a Xandro Meurisse (Alpecin-Fenix).


Darllediad

Gellir gwylio uchafbwyntiau yn unig o'r cymal cyntaf a hynny ar GCN Race Pass, wedyn mae darllediad byw ar GCN Race Pass a'r Eurosport Player ddydd Sadwrn (13:00-14:00) a ddydd Sul (14:00-15:15).


Er mwyn gwylio'r cymal cyntaf yn fyw, bydd angen gwylio ar sianel gwlad Belg, Sporza, a fwy na thebyg bydd angen VPN arnoch er mwyn gwneud hynny.


TAITH YR EMERADAU ARABAIDD UNEDIG

Ras WorldTour gynta'r tymor yn y Dwyrain

Dydd Sul 21/2 tan Dydd Sadwrn 27/2


Mae'n flwyddyn bellach ers i daith yr EAU orfod cael ei stopio wedi pump o'r saith cymal yn sgil achosion o'r coronafeirws, ac mae pawb yn gobeithio na fydd hynny'n cael ei ail adrodd eleni.


Sut i wylio

Mae'n fyw ar GCN Race Pass a'r Eurosport Player bob dydd o ddydd Sul tan ddydd Sadwrn, a hynny yn y boreau o'n safbwynt ni - 10:45 tan 12:45. Bydd ar gael ar-alw yn dilyn y cymal hefyd.


Dyma beth dylech chi wylio allan amdano yn y ras.


Brwydr rhwng y gwibwyr mawr

Mae taith yr EAU erbyn hyn yn ras wythnos gyflawn sy'n cynnig amrywiaeth yn y rasio. Eleni, mae pedwar cymal yn berffaith ar gyfer y gwibwyr pur.


Dim syndod felly bod y rhestr ddechrau'n cynnwys toreth o wibwyr cyflymaf y byd. Yn eu plith, mae Caleb Ewan, Sam Bennett, Pascal Ackermann, Jasper Philipsen, Giacomo Nizzolo, Fernando Gaviria, Luka Mezgec, Max Walscheid, Mathieu van der Poel, Elia Viviani, Matteo Moschetti, Cees Bol, Andrea Vendrame, Phil Bauhaus a David Dekker i enwi ond pymtheg!


Gwyliwch allan amdanynt ar cymal 1, cymal 4, cymal 6 a cymal 7.


Ganna yn y REC

O bosib y reidiwr cryfaf, mwyaf nerthol yn y byd. Mae'i ddawn gan fwyaf yn y ras yn erbyn y cloc, a cawn gyfle i weld Filippo Ganna yn serennu ar cymal 2. Mae'n gwrs gwastad 13km ond yn dechnegol ar brydiau.


Pwy all ddod yn agos ato? Ymhlith y rheiny sy'n arbenigo'n erbyn y cloc mae Joao Almeida, Mikkel Bjerg, Alex Dowsett a Jos van Emden.


Yr enwau mawr ar y diweddgloeon copa

Er fod y ras yn dal i fod yn ifanc yng nghyd-destun y WorldTour, mae'r diweddgloeon copa i Jebel Hafeet (cymal 3) a Jebel Jais (cymal 5) wedi dod yn reit nodedig ymysg y dringwyr.


Bydd disgwyl i'r bylchau mawr rhwng y ffefrynnau gael eu ffurfio ar yr ail cymal yn y REC; fodd bynnag, gallwn ni weld gwahaniaethau amser arwyddocaol ar Jebel Hafeet yn enwedig.


Mae'n ddringfa 10km ar 7.5% sy'n apelio at y dringwyr pur fydd yn obeithiol o allu disodli rhai o'r arbenigwyr REC yn safleoedd uchaf y dosbarthiad cyffredinol.


Tadej Pogacar oedd yn fuddugol ar y mynydd llynnedd o flaen Alexey Lutsenko ac Adam Yates. Mae'r tri yn dychwelyd eleni. Bydd Yates yn ymddangos mewn lifrai Ineos am y tro cyntaf, fel y bydd Dani Martinez - dringwr cryf arall. Yn ffres o'i fuddugoliaeth yn Provence, mae Ivan Ramiro Sosa hefyd yn bresennol.


Er mai Ineos fydd y tim cryfaf, mae ambell i dim arall sydd a dyfnder dringo o fewn eu carfannau. Wout Poels a Jack Haig yn Bahrain-Victorious; Emanuel Buchmann a Patrick Konrad yn Bora-Hansgrohe; Rigo Uran a Sergio Higuita yn EF Nippo; Gregor Muhlberger ac Alejandro Valverde yn Movistar; Joao Almeida a Fausto Masnada yn Deceuninck-Quickstep.


Mae'n ymddangos y bydd Sepp Kuss yn chwarae rhan arweiniol yn Jumbo-Visma, fel y bydd Vincenzo Nibali yn Trek-Segafredo; a chawn weld sut siap fydd ar Chris Froome yn ei ymddangosiad cyntaf dros Israel-StartUp Nation. Enw ifanc i wylio allan amdano yw Harm Vanhoucke o dim Lotto-Soudal.


Flamme Rouge

Dwi wedi bod yn...


DARLLEN

...llyfr Lowri Morgan, 'Beyond Limits'. Dwi bron a'i orffen ac yn mwynhau'n arw. Mae'r ysgrifennu'n wych, wirioneddol yn dal sylw'r darllennydd. Straeon a phrofiadau anhygoel. Werth darllen.

GWYLIO

...yr arlwy ddiweddaraf sydd wedi cael ei ryddhau ar y gwasanaeth newydd GCN+. Dwi 'di gwylio Legends: Andy Schleck a'r ddau ran o Around the World in 80 Days (Mark Beaumont) yn barod. Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un sydd a diddordeb mewn gwylio ffilmiau a docu-ffilmiau seiclo/triathlon - ac mae ar hanner pris (£20 am flwyddyn yn lle £40) tan ddiwedd y mis.


SEICLO

Mi ddaeth fy wythnos o wneud llai o seiclo i ben ddydd Sul a'n teimlo'n barod i wneud mwy rwan. Roedd hi'n bwrw yn y Bala ac ar hyd Llyn Tegid, ond roedd hi wedi brafio erbyn cyrraedd top Bwlch y Groes ddydd Mawrth! Mwy i ddod gobeithio.

Recent Posts

See All
bottom of page