top of page

Caffis Gorau De Cymru | Stepen Drws c3 p2

Updated: Jan 6, 2020

Ychydig o fisoedd yn ôl, mi gyhoeddais gofnod o gaffis seiclo gorau gogledd Cymru – ac mae’n hen bryd cael cofnod o gaffis seiclo gorau’r deheubarth.


Mae caffi’n beth hollol angenrheidiol ar reid, ac mae’n hawdd dod o hyd i un sy’n eich denu’n ôl yno.


Diolch i Court Medlicott, Lowri Cooke, Ifan Gwilym, Rhys James a Tanwen Haf am eich cyfraniadau ar Trydar tuag at y gofnod yma.


*Awgrymiadau yw’r rhain, ac nid hysbysebion*


Caffi Gruff – Talybont, Ceredigion

Lle gwell i ddechrau na chaffi’r seiclwr proffesiynol sy’n denu nifer helaeth o seiclwyr o bob cwr o’r wlad. Menter Gruffudd Lewis, o dîm Ribble (gynt o Madison-Genesis), yw hon – ac mae’r thema seiclo’n amlwg drwyddi draw, o’r mygiau Grand Tour i’r addurn ar y waliau.


Caffi Cletwr – Tre’r Ddôl, Powys

Caffi cymunedol yn Nhre’r Ddôl sydd ar agor bob dydd o’r wythnos, ac yn cynnig lluniaeth ysgafn, cacennau a brecwast am brisiau rhesymol.


Café Vélo – Llanilltud Fawr, Morgannwg

Caffi arall sy’n ceisio denu’r rhai sy’n dod am baned mewn lycra ar deiars tenau gyda’i henw a’i thema amlwg. Mae hefyd yn cynnig sbarion ar gyfer eich reids, ac mae ganddynt track pump a thiwbs ar gyfer eich pyncjars.


The Plug – Dinas Powys, Morgannwg

Canmoliaeth yn unig ddarganfyddwch chi am gaffi a chegin The Plug yn Ninas Powys – sy’n cynnig lluniaeth o bob math.


I Want To Ride My Bike – Caerdydd

Caffi, bar a siop feics sy’n groesawgar iawn i seiclwyr ac yn cynnig lluniaeth o bob math mewn lleoliad canolig iawn yng Nghaerdydd ger yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae modd trwsio’ch beic yma, gwylio rasys seiclo a mwynhau paned mewn caffi bywiog â golygfa dda hefyd.


Quarters Coffee – Casnewydd

Caffi newydd, modern ond poblogaidd yng Nghasnewydd sy’n cynnig coffi o’r radd flaenaf yn ogystal a chacennau a lluniaeth ysgafn.


Caffi Pwnc – Trefdraeth

Caffi sy’n dathlu diwylliant chwaraeon gan gynnwys seiclo mewn modd tafod-yn-y-boch. Prydau ysgafn neu brydau mwy gydag ystod o ddiodydd poethion ar gael hefyd.


-


Diolch yn fawr am eich cyfraniadau tuag at y gofnod yma – ac wrth gwrs, mae modd diweddaru os oes gennych chi unrhyw gaffis i’w cynnig ar Trydar (@cycling_dragon) neu yddwyolwyn@gmail.com .

Recent Posts

See All
bottom of page