top of page

Cenhedloedd Seiclo: Awstralia


Dros yr wythnos ddiwethaf, mae llygaid y byd seiclo - neu'r rhai sydd wedi deffro'n ddigon cynnar neu aros ar eu traed ymhell heibio amser gwely - wedi bod ar Awstralia. Cartref Pencampwriaethau'r Byd eleni, a hynny yn Wollongong, De Cymru Newydd.


Ar ddiwedd yr wythnos fel hyn, gyda phob ras bellach wedi ei chynnal, daw cyfle i edrych yn ôl ar y rasys eu hunain, ond hefyd mae'n gyfle i ni ofyn y cwestiwn; i ba raddau mae Awstralia'n genedl seiclo?


I ddechrau, mae'n rhaid i ni sefydlu pencampwyr newydd y byd. Yn gyntaf, rhaid llongyfarch y Gymraes Zoe Bäckstedt ar ennill dau bencampwriaeth byd yn y categori iâu - y ras yn erbyn y cloc, a'r ras ffordd.


Yn y categori Elite, roedd hi'n fuddugoliaeth argyhoeddiadol dros ben gan Remco Evenepoel yn y ras ffordd i ddynion, gan wneud ymosodiad nodweddiadol o hirbell i gipio crys yr enfys mewn ras hollol wahanol i'r arfer. Coron ar gwpl o fisoedd penigamp i'r Belgiad gyda'i fuddugoliaeth gyntaf mewn Grand Tour hefyd bellach ar ei palmarès.


Coron ar flwyddyn arbennig i gloi gyrfa arbennig oedd buddugoliaeth Annemiek van Vleuten yn y ras gyfatebol i'r menywod. Hynny ar ôl torri'i phen-elin yn y ras yn erbyn y cloc yn gynharach yn yr wythnos, ac mae'i dycnwch hi'n ysbrydoliaeth i ni gyd i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n dal i fod yn bosib.


Felly, dyma fynd 'mlaen felly at brif diben cofnod yr wythnos hon, sef i archwilio'r cysylltiad rhwng seiclo ac Awstralia.


Ffiniau


Y peth amlwg cyntaf i'w nodi yw daearyddiaeth. Mae'r rhan helaeth iawn o'r rasys proffesiynol yn digwydd ar gyfandir Ewrop, ac felly mae hwnnw'n gosod ffin llythrennol yn ogystal ag un meddyliol.


Nid hawdd oedd cychwyn gyrfa fel seiclwr proffesiynol i Awstraliaid yn yr oes a fu, a hwythau'n gorfod delio â mordaith hirfaith, cyn addasu i diroedd, ieithoedd a diwylliannau newydd filoedd o filltiroedd o adref. Wedi dweud hynny, mae anturio drwy seiclo yn Awstralia'n dyddio'n ôl i'r 1890, at grŵp o seiclwyr yn torri tir newydd oedd yn galw'u hunain yn 'Overlanders'.


Felly, yn naturiol ddigon, dydy gwreiddiau seiclo proffesiynol o leiaf yn Awstralia ddim yn rhai dyfnion dros ben, ond dros y degawdau diwethaf, mae'r diddordeb wedi tyfu'n aruthrol.


Er nad ydy Awstralia ddim agosach at Ewrop erbyn hyn wrth gwrs, mae'n wlad ac iddi ddiwylliant cryfach o seiclo, a thrwy ddatblygiadau o bob math mae bellach yn llawer haws i reidwyr o Awstralia gyrraedd eu llawn botensial.


Ond eto, mae'n parhau i fod yn anos i'r reidwyr hyn fynd ymlaen i gyrraedd pinacl y byd seiclo.


Gadewch i mi'ch pwyntio chi at y Zwift Academy. Academi fyd-eang y gall unrhyw un ymuno ag o o unrhyw le yn y byd ydyw, lle mae seiclwyr yn reidio ar eu tyrbos tu fewn ar y meddalwedd Zwift gan gystadlu am gontract proffesiynol.


Mae 2/3 o'r gwobrau a'r contractau ar gael yn y Zwift Academy wedi mynd i reidwyr o Awstralia neu Seland Newydd. Ar ben hynny, roedd hanner y rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2021 yn dod o Awstralia.


Rŵan, dwi'n credu fod hyn yn arwydd clir o'r talent aruthrol sydd ymysg seiclwyr Awstralia, ond hefyd ei bod hi'n dal i fod yn anodd dod o hyd i gytundeb yn Ewrop heb gynlluniau fel hwn.


Mae'n gynllun sydd wedi dwyn ffrwyth i Jay Vine, er enghraifft, enillodd ddau gymal yn y Vuelta a gwisgo crys brenin y mynyddoedd am rai dyddiau.


Rhwystrau mewnol


Er fod seiclo proffesiynol yn Awstralia bellach yn gamp o bwys, gyda nifer fawr o reidwyr ar y lefel uchaf ac wedi bod ers rhyw ddegawd, mae 'na'n dal i fod rhwystrau i'w goresgyn o fewn y wlad ei hun.


Dros y degawd diwethaf, mae gwthiad wedi bod i geisio gwella diogelwch seiclwyr ar ffyrdd Awstralia. Ond, mae'r nifer o anafiadau i seiclwyr fel cyfran o holl anafiadau traffig wedi cynyddu.


Dydy diwylliant moduro Awstralia'n ddim help i'w hymdrechion chwaith. Dangosodd arolwg fod 1 ym mhob 5 o yrrwyr Awstralia wedi ymddwyn mewn modd ymosodol tuag at seiclwr.


Dim rhyfedd, felly, fod y gyfran o seiclwyr wedi gostwng yn y degawd diwethaf; 18.2% yn 2011, 15.5% yn 2017, ac mae'r ffigwr bellach mor isel â 13.8% (2019).

Ffaith ddifyr: Awstralia oedd y wlad gyntaf i wneud gwisgo helm yn orfodol yn gyfreithiol, a hynny ddechrau'r nawdegau. Mi ddisgynnodd y nifer o seiclwyr yn aruthrol yn sgil hynny, yn enwedig ymhlith plant yn seiclo i'r ysgol.

Mae'n rhywbeth sy'n effeithio ar y gamp o safbwynt broffesiynol hefyd. Yn 2019, bu i beloton Awstralia gael ei ysgwyd gan farwolaeth seiclwr ifanc, disglair Jason Lowndes, gafodd ei ladd gan gar tra'n hyfforddi.


Ond dydy Cycling Australia ddim yn cymryd rôl flaenllaw yn y drafodaeth. Mae'r rhan helaeth o'u cyllideb nhw'n cael ei wario ar berfformiad.


Y twf


Er hynny, rhaid cadw golwg ar y darlun mawr. Mae gan Awstralia lu o seiclwyr uchel eu parch sydd yn gystadleuol iawn yn y peloton proffesiynol, a hynny ym mhob agwedd o'r gamp.


Mae gwibwyr megis Caleb Ewan, Kaden Groves, Michael Matthews, Chloe Hosking a Tiffany Cromwell yn enwau mawr yn y peloton; tra bo dringwyr fel Ben O'Connor ac Alexandra Manly hefyd yn ffrwydro ar y sîn â thalent addawol iawn.


Ddeng mlynedd a mwy ers buddugoliaeth Cadel Evans yn y Tour de France, mae gan Awstralia reidiwr Grand Tour newydd i'w gefnogi. Yn ail yn 2020, ac yn fuddugwr yn 2022, mae Jai Hindley wedi profi'i hun ymysg goreuon y byd yn y Giro d'Italia.


Mae Awstraliaid yn y gorffennol wedi dod i'r brig yn y meini hefyd; Mat Hayman a Stuart O'Grady yn Paris Roubaix, Simon Gerrans yn Milan-Sanremo a Liège-Bastogne-Liège.


Mae gan y wlad record dda ar gynhyrchu seiclwyr o bob math sy'n medru llwyddo ar bob math o dirwedd, ac mae'n parhau i wneud hynny.


Dybiwn i fod y datblygiad yn seiclo Awstralia wedi bod yn un gweddol debyg i'r un ym Mhrydain; buddsoddiad mawr yn y trac - gan fod hynny drwy bencampwriaethau'r Byd, y Gemau Olympaidd a'r Gymanwlad yn darparu arian y llywodraeth - yn anuniongyrchol yn cyfrannu at lwyddiant ar y ffordd.


Y llwyddiant yn ysbrydoli to newydd o seiclwyr, a'r buddsoddiad mewn perfformiad yn rhoi dechrau da i'r seiclwyr trac sy'n mynd ymlaen wedyn i serennu ar y ffordd.

 

Felly, mae'n glir i mi fod Awstralia wedi cadarnhau ei lle ymysg cenhedloedd y byd seiclo. Teithio haws i Ewrop a'u parodrwydd i gymryd rhan yn y Zwift Academy yn symbol efallai o'r cyswllt rhyngwladol agosach sydd bellach.


Ond mae'r bygythiad i dalentau'r genhedlaeth nesaf yn dal i fod tra bo lefelau seiclo yn dirwyio am amrywiol resymau.


Dydy dyfodol to newydd o seiclwyr o'r radd flaenaf ddim yn sicr nes bydd y llywodraethau'n mynd i'r afael â'r problemau yno.

Recent Posts

See All
bottom of page