‘Climbers’ gan Peter Cossins



Fel y mae dringfeydd yn rhan greiddiol o bleser seiclo yn gyffredinol, mae’r dringwyr yn rhan greiddiol o apêl seiclo proffesiynol i nifer ohonom hefyd.


Mae llawer iawn o lyfrau dros y blynyddoedd wedi mynd i’r afael ag obsesiwn y ddynoliaeth gyda’r mynyddoedd; y mwyaf adnabyddus efallai fyddai ‘Mountains of the Mind’ gan Robert Macfarlane wnaeth ennill sawl gwobr.


Does dim prinder o’r math yma o lyfr yn y gofod llyfrau seiclo chwaith, ond y diweddaraf i ychwanegu ato ydy Peter Cossins, a’i gyfrol sydd aâr enw syml ‘Climbers’.


Bu’r gyfrol ar fy rhestr am gryn dipyn o amser cyn cael ei rhyddhau ym mis Mehefin, ac ro’n i’n gobeithio’n eiddgar am lyfr cynhwysfawr fyddai’n llwyddo i grisialu’r wefr o ddringo ac obsesiwn y byd seiclo â’r elfen yma o’r gamp.


Byddai’r llyfr wedi gallu disgyn i un o ddau gategori - hanes neu ddadansoddiad/myfyrdod.


‘Roeddwn rywfaint yn siomedig mai hanes dringwyr oedd prif ddiben y gyfrol. Mae’n gronolegol, yn dilyn stori’r dringwyr o’r tro cyntaf i’r Tour fynd i’r Pyrénées ym 1910 i’r presennol ac i gampau Pogačar.


Er hynny, dydy o ddim yn teimlo’n gydlynus rywsut, sy’n beth od mewn gwirionedd. Ceir pennod am fenywod sydd wedi’i luchio fewn i’r canol rywle, ac sy’n teimlo braidd fel ‘add-on’. Byddai’r gyfrol wedi elwa cryn dipyn o gynnwys mwy o hanesion o’r hen Tours de France i’r menywod er enghraifft, yn fy nhyb i. Yn ogystal, mae fel pe bai’n neidio o un dadl i un arall, sy’n wendid o’r trywydd llinell amser.


Mi wnes i ddysgu tipyn go lew wrth ddarllen y gyfrol. Er fod ambell un ar lein wedi cwestiynu gwirionedd a thrachywirdeb rhai o’r straeon sydd wedi eu cynnwys, mae’n rhoi darlun cyflawn o lwybr y dringwyr yn y gamp. Mae’n bosib mai’n cyfrifoldeb ni wedyn fel darllennwyr yw dehongli a dadansoddi, a thynnu paralel rhwng oesoedd gwahanol.


Er mwyn i mi fwynhau llyfr hanes - a dwi’n ffeindio hynny’n anodd, rhaid cyfaddef - mae’n rhaid cael rhywfaint o ddadansoddiad a rhywfaint o amlinelliad o effaith ar heddiw.


Mae hynny’n ddiffygiol yn y gyfrol, a phan fo ymgais i ddadansoddi neu fyfyrio, mae’n dyfynnu o gyfrol arall gan ailgylchu deunydd o waith eraill, megis Macfarlane.


Er enghraifft, roeddwn i’n meddwl fod y cysylltiad rhwng Catholigiaeth traddodiadol yng Ngholombia a’u hymgais i ddilyn ôl troed dioddefaint Crist ar Fryn Calfaria wrth ddringo ar feic yn hynod ddiddorol. Ond, yn anffodus, wedi ailgylchu hwn o un o lyfrau Matt Rendell oedd o.


Ond, clod pan mae’n ddyledus, roeddwn yn falch o’r modd y mae’n medru myfyrio a dadansoddi ar allu dringo Sbaenwyr yn benodol a’r cysylltiad â’r cysyniad o duende, sef cyflwr dwys o emosiwn a mynegiant mewn llên gwerin Iberaidd.


Mae’r straeon sy’n cael eu hadrodd yn dod yn fyw gan gyfraniadau gwreiddiol a chyfweliadau gan lu o ddringwyr o’r presennol a’r gorffennol. Yn hynny o beth, mae ‘na liw i’r hanes, mae ‘na ddyfnder i’r hanes ac mae ‘na ystyr i’r hanes.


Felly, pe baech yn dymuno cyfrol fydd yn eich haddysgu’n llwyr am ddatblygiad dringo o fewn y byd seiclo proffesiynol, am straeon ar rai o’r dringfeydd enwocaf, am flas ar hanesion mawrion y gamp, yna ni fyddwch yn siomedig a’r gyfrol hon.


Pe baech, fodd bynnag, yn chwilio am rywbeth sy’n llwyddo i ddod a rhyw nuance i’r gofod hwn ar y silff lyfrau seiclo a chyfuno mwy o fyfyrdod a dadansoddiad, byddwn i’n argymell rhoi darlleniad i ‘Higher Calling’ gan Max Leonard.


Ond dydy’r un o’r ddau wedi llwyddo i grisialu rhwng dau glawr y wefr o ddringo a’r wefr o wylio’r pros yn dringo.


Ac felly mae’r chwilio’n parhau am yr un llyfr fydd yn medru gwneud hynny.