Cyrchfannnau Seiclo: Nice

Mae’r gyfres dwi wedi bod yn ei hysgrifennu ers tro bellach sef y gyfres ar Genhedloedd Seiclo wedi bod yn un yr ydw i’n mwynhau gweithio arni’n fawr iawn, a phori ac archwilio cysylltiadau Slofenia, Awstralia, Denmarc a mwy gyda byd y ddwy olwyn.


Felly pan es i ar wyliau i ardal Nice a’r Côte d’Azur yn lled ddiweddar a chael tro ar feic yno, bûm i’n pendroni sut i greu cynnwys o’r trip.


Spin-off o’r gyfres Cenhedloedd Seiclo oedd yr ateb, a chyfres o’r newydd o’r enw Cyrchfannau Seiclo.


O ran poblogaeth, Nice - neu Nissa yn nhafodiaith yr ardal - yw’r bumed ddinas fwyaf yn Ffrainc ac mae’n gwasanaethu ardal helaeth yn economaidd o ran trafnidiaeth ac ati.


Mae’n ‘brif-ddinas’ ar ranbarth yr Alpes-Maritimes; sy’n cwmpasu’r gadwyn o fynyddoedd sy’n codi o lefel môr y Canoldir. Ar hyd arfordir y Rifiera Ffrengig mae cysylltiadau at ddinasoedd a threfi apelgar eraill megis Cannes i’r gorllewin a Menton i’r dwyrain, a rhyngddynt drefi a phentrefi glan-môr eraill sy’n ennyn cryn boblogrwydd.


Yn ddinas rhwng môr a mynydd, dim ond Paris sydd fwy poblogaidd o ran dinasoedd Ffrainc. Does dim rhyfedd fod pobl â phocedi dwfn wedi heidio i’r parthau hyn, a hynny ers canol y 19eg ganrif pan fyddai byddigion o Loegr (tardd enw’r Promenade des Anglais) yn bennaf yn treulio gaeafau yno.


Mae ei hapêl yn un ddiwylliannol yn ogystal ag yn ddaearyddol. Mae ganddi ddiwylliant unigryw sy’n ieithyddol ei natur, ac o hynny wedyn yn ymestyn at ŵyliau, cerddoriaeth ac yn y blaen. Mae’n ardal adnabyddus am ei cuisine, ac mae dylanwad Eidalaidd yn eithaf trwm arni.


Fel byddigion y 1800au, mae Nice a’r fro o’i chwmpas wedi denu seiclwyr o bob gallu dros y blynyddoedd, a rhai proffesiynol yn eu plith.


Mae degau o seiclwyr proffesiynol presennol yn byw yn Nice neu’i dinas a thywysogaeth gymdogol Monaco, a Geraint Thomas yn un ohonyn’hw mae’n debyg. Wnawn ni ddim crybwyll y’i bod hi’n cael ei hystyried yn hafan dreth…


Nid peth newydd mo’r apêl i seiclwyr proffesiynol chwaith; dyma lun o Tony Rominger - enillydd sawl Giro a Vuelta yn y nawdegau - yn ymarfer ar y Col de la Madone sy’n esgyn o Menton.

Felly, â minnau’n ymweld â’r ardal, roeddwn i’n meddwl y dylwn i weld beth fo diben yr holl ffẁs a ffwdan.


The best laid plans o’ mice and men gang aft agley.


Sawl gwaith ydw i wedi defnyddio’r llinell honno o gerdd Robert Burns ar y blog? Bydd rhaid i mi ddod o hyd i linell Gymraeg debyg.


Beth bynnag, mae nifer o lefydd y gellir llogi beic a’r holl offer angenrheidiol yn Nice, ond dybiwn i mai Café du Cycliste yw’r mwyaf adnabyddus, a hwythau hefyd yn frand dillad poblogaidd. Ydy, mae popeth ychydig bach yn premium yma, ond mae isho chwaeth weithiau’n does?


Dywedodd y dyn - wnaeth ddim celu’i syndod fod Cymro’n medru siarad Ffrangeg - wrtha’i yno fod y ffordd rhwng Menton a’r Col de la Madone oedd ar fy route gwreiddiol wedi cau oherwydd gwaith, ac wedi iddo argymell route wedi’i addasu i mi i ffwrdd â fi.



Wedi’r profiad newydd o seiclo mewn dinas, roedd hi’n braf troi ar lôn y Grande Corniche fyddai’n f’arwain at y Col d’Èze, y gyntaf o ddringfeydd y dydd.


Mae arwyddion Tour de France-aidd wedi eu plastro ar hyd ymyl y ffordd wedi i’r ras ddod yma ar y penwythnos glawog ‘na yn 2020. Dringfa gymharol hawdd ydyw hi, dim byd Alpaidd amdnai, ac mae’r math o raddiant sy’n galluogi rhywun i fynd amdani go iawn neu benderfynu tynnu troed oddi ar y sbardun.


Er nad yw prysurdeb traffig yn diflannu’n llwyr, mae’n parhau’n ddigon o syndod pa mor gyflym mae modd dianc rhag y ddinas fawr at bentrefi bychain yn edrych i lawr tuag at yr arfordir.



Mae golygfeydd tuag at yr Alpau tua’r gogledd i’w cael o’r copa sy’n cael ei farcio gan ambell arwydd ac ornament. Mae’n ddringfa eithaf adnabyddus a hithau wedi’i defnyddio mewn sawl rhediad o Paris-Nice ar ddiwedd y ras wythnos fel ras ffordd neu fel ras yn erbyn y cloc.


Mi es i ‘mlaen wedyn at dref o’r enw La Turbie, sydd ddim yn edrych i safon rhai o’r pentrefi eraill o’r tu allan, ond erbyn cyrraedd o fewn ei ffiniau yn hynod ddymunol. Beth arall sydd ‘na i seiclwr wneud heblaw stopio mewn boulangerie (un sydd wedi ennill gwobrau am ei baguettes gyda llaw) am damaid o ginio?



Oddi yno, mae’r ddringfa i’r Col de la Madone yn dechrau. Mae’r Madone yn eithaf adnabyddus o fewn y byd seiclo fel dringfa lle mae seiclwyr proffesiynol wedi bod yn ceisio a cheisio gosod amser gorau arni. O Rominger i Armstrong ac i rai mwy diweddar fel Froome a Porte, mae curo’r record wedi tyfu’n obsesiwn.


Beth bynnag, o’r cyfeiriad arall y gwnes i gyrraedd y Madone, sy’n ffordd anhygoel o ystyried pa mor agos ydyw i brysurdeb yr arfordir, wedi rhywfaint o helbul pellach gyda ffyrdd wedi cau.



Troi ar f’unfan a dychwelyd i La Turbie oedd hi wedyn, cyn cymryd disgyniad arbennig i lawr i Cap D’Ail sydd o fewn ffiniau tywysogaeth Monaco, a dilyn yr arfordir yr holl ffordd yn ôl i Nice.


Blas yn unig ges i o’r routes arbennig sydd i’w cael o fewn pellter agos i’r ddinas fawr. Ceir rhwydwaith yma sy’n ymestyn i fyny i’r Alpau glan-môr hyn, heb sôn ar hyd yr arfordir ac i mewn i’r Eidal lle mae mwy o bosibiliadau byth.


Wedi meddwl, mae’n eithaf clir pam fod cymaint o seiclwyr yn heidio yma.