top of page

Da neu Na?! • Lifrai timau 2020

Mae’n draddodiad ar flogiau erbyn hyn i roi barn am lifrai timau gwahanol y byd seiclo proffesiynol ddechrau pob blwyddyn. Dyma ddetholiad o lifrai newydd, ffres ar gyfer 2020 - mwynhewch, a blwyddyn newydd dda!


Bahrain McLaren

Mae’r tîm yn cychwyn cyfnod newydd gyda nawdd McLaren - yn gartref newydd i reidwyr megis Mark Cavendish, Mikel Landa a Wout Poels ac i’r hyfforddwr Rod Ellingworth. Lifrai sydd wedi bod yn bwnc llosg - ac yn bersonol dydw i ddim yn ffàn.


Chwa o awyr iach, ond ’bach dros ben llestri.

4/10


Boels Dolmans

Un o dimau gorau WorldTour y menywod gydag Anna van der Breggen yn rhan o'r garfan dalentog. Mae'r oren wedi bod yn nodweddiadol o'r tîm yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac eleni maent wedi ychwanegu ryw sbarc creadigol i'r lifrai.


Ie, neu na - dwi ddim yn siwr.

6/10


Canyon SRAM

Mae Rapha'n sicr wedi ychwanegu lliw i beloton y dynion ac i beloton y menywod ar ôl gadael Sky. Yn y blynyddoedd diwethaf, Canyon SRAM sydd wedi dangos eu lliwiau llachar yn y peloton. Mae hyd yn oed yn fwy o liwiau wedi'u hychwanegu i'r crsyau ar gyfer 2020, sy'n ei wneud yn un o lifrai gorau'r flwyddyn, heb os.


Lliw, lliw, lliw!

8/10


Deceuninck-Quickstep

Wedi tymor llwyddiannus arall yn 2019, bydd y tim yn awchu i adlewyrchu'r perfformiadau a gafwyd gan reidwyr megis Julian Alaphilippe. Dyluniad tipyn goleuach ar gyfer y flwyddyn newydd, ond unwaith 'dech chi'n gweld y dyngarîs, allwch chi'm peidio'i gweld nhw.


Ychydig yn brysur o ran y noddwyr, ac mae'r dyngarîs yn y 'mhoenydio.

5/10


EF Education First

Yn dilyn cynrychiolaeth Rapha ym mheloton y menywod, dyma'u cynrychiolaeth ym mheloton y dynion, sef EF Education First. Maent wedi dod gyda'u pinc a'u glas yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r addasiad ar gyfer eleni yn fychan ond i'w weld.


Hoffi timau sy'n sefyll allan!

8/10



Israel Start-Up Nation

Gynt yn Israel Cycling Academy, mae Israel Start-up Nation yn un o'r timau sy'n newydd i'r World Tour eleni. Ymysg y garfan, mae Dan Martin, Alex Dowsett, Nils Pollitt ac Andre Greipel - felly bydd y tim yn gobeithio am flwyddyn gyntaf lewyrchus yn yr haen uchaf.


Dim rhy ddrwg.

6/10


Lotto Soudal

Er 'mod i'n dal i feddwl bod citiau Lotto Soudal yn camu i'r gorffennol yn hytrach nag i ddegawd newydd, mae hwn yn welliant o'r llynnedd, wrth iddynt ychwanegu'r du. Byddent yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn 2020 gyda Caleb Ewan a Tim Wellens.


Gwell na llynnedd.

6/10


Movistar

Does dim creadigrwydd o gwbl yn rhan o gitiau Ale i dim Movistar! Does bosib bod reidwyr megis Marc Soler ac Enric Mas, fydd yn herio am safle ar y podiwm yn y GrandTours eleni, yn haeddu gwell na hyn!


Sobor o blaen a diflas!

2/10


NTT Pro Cycling (gynt Dimension Data)

Mae'n deg dweud ei bod hi'n ddechrau cyfnod newydd i'r tim yma hefyd - wrth i'r tim gael nawdd teitl newydd drwy NTT ('rhiant' Dimension Data). Glas yn ymdoddi i las yn ddim byd newydd, ond am ryw reswm mae'n git sy'n taro tant. Cartref newydd i reidwyr megis Max Walscheid, Domenico Pozzovivo a deiliad record awr y byd, Victor Campenaerts.


Dwi'n ei hoffi.

7/10


Jumbo-Visma

Addasiadau bychain yn unig i'r cit ar gyfer eleni, ond newidiadau digon sylweddol i'r tim - gyda chyrrhaeddiad Tom Dumoulin yn sicr o achosi penbleth wrth ddewis carfan ar gyfer y Grand Tours. Mae Wout van Aert eisoes wedi bod yn gwisgo'r cit yn y rasys traws diweddar.


Syml, ond effeithiol.

7/10


Trek-Segafredo

Hanner ffordd drwy dymor 2019, cyn y Tour de France, bu i Trek Segafredo newid eu cit i fod yn wyn gan fwyaf yn hytrach na du gan fwyaf. Maent wedi cadw'r syniad eleni, ond mae'r llewys sy'n arlliw o las tywyll yn newydd - ac yn bersonol dwi'n meddwl ei fod yn llwyddiant.


Neis iawn.

7/10


Dyna ni, cofnod y citiau drosodd am flwyddyn arall. Mwynhewch y tymor gyfeillion, a chofiwch barhau i ddilyn y blog!

Recent Posts

See All
bottom of page