Mewn partneriaeth gyda Komoot. Mae'r casgliad cyfan o ddringfeydd diarffordd i'w cael drwy glicio yma.
Mae 'na rywbeth arbennig am ddringfa diarffordd. Dringfeydd nad ydych chi'n dod ar eu traws ar hap a damwain. Mae'n rhaid i chi gynllunio'r reid yma - mynd i'w concro yn unswydd. Yn aml iawn, mae'r gwobr am wneud hynny'n werthfawr.
Yn fy marn i, mae'r rhain ymysg y gorau y gallwch eu gwneud. Maen nhw'n dawel - oddi wrth heolydd prysur - ac yn cynnig ymdeimlad perffaith o ddihangdod.
Cyn cychwyn ar ein taith i fyny'r dringfeydd euraidd yma, mae'n rhaid i mi ymddiheuro i chwi ddeheuwyr am y diffyg cynrychiolaeth o unryw le i'r de o Flaenau Ffestiniog (!) yn y casgliad.
Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddringfeydd diarffordd sydd i'w cael heblaw am y pump yma, felly plis anfonwch eich awgrymiadau neu'ch cwynion blin ar Twitter neu ebostiwch yddwyolwyn@gmail.com.
Sut mae diffinio dringfa ddiarffordd? 'Dead end' ydi'r ffordd i'w ddisgrifio yn Saesneg.
Mae'r ddringfa gyntaf ar y rhestr yn un adnabyddus o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru, ac yn ymgorffori natur y ddringfa ddiarffordd yn berffaith.
Yn gaeedig i geir, mae'r ymdeimlad o ddihangdod yn gryf iawn ar ddringfa Stwlan. Wedi troi oddi ar yr A496, mi ddringwch heibio cronfa ddwr Tanygrisiau ar y chwith a'r caffi ar y dde. Yna, mae'r ffordd yn gwyro am i fyny'n ddigon serth - cyfle i gynhesu'r coesau - cyn cyrraedd y giat sydd o'ch blaen.
Hwpo'ch beic dros y giat fawr, a gwasgu'ch hun drwy'r giat fach, a dyna ddechrau'r ddringfa. Dydy'r graddiant ddim yn rhy ddrwg ar y dechrau gyda chwarel a rhaeadr Cwmorthin ar y dde, ond cyn hir mae'r graddiannau'n dechrau cydio. Dyna ni wedyn, does dim lleddfu ar y serthedd - byddwch chi unai a'ch llygaid ambell fodfedd o flaen eich olwyn blaen neu'n mentro edrych i gyfeiriad llyn Trawsfynydd.
Ar y pwynt yma, dydy'r argae fawr nodedig ddim yn y golwg. Mae'n bosib ei weld o bell - bydda i'n ei weld ar y daith i'r gwaelod ar y Migneint, yn atgoffiad o'r hyn sydd i ddod; ac mae hefyd yn bosib ei weld o lwybr cerdded Cynwch (Precipice Walk, Llanfachreth) i un cyfeiriad, a phont y Bermo i'r cyfeiriad arall.
Ond unwaith y cyrrhaeddwch chi'r cyfres o fachdroeon, mae'r argae'n ymddangos o nunlle ac yn ddigon i gymryd faint bynnag o anadl sydd gennych ar ol. Ar ol y bachdroeon, dydy'r ddringfa heb orffen. Mae'r rhan anoddaf eto i ddod, gyda graddiant digon milain i'r diwedd wrth y llyn.
Wedi cyrraedd y copa, mae'n teimlo fel ei fod o werth yr ymdrech.
Mae'r ail ddringfa hefyd yn un sydd ddim yn agored i geir. Yn dringo am oddeutu 2km serth, heibio Marchlyn bach ar y dde cyn dringo am y top ar lan Marchlyn Mawr. Un o ffefrynnau Lefi Gruffudd yn y gofnod yma.
Mae'r golygfeydd ar y copa yn wefreiddiol gyda chadwyn o fynyddoedd mawrion Eryri i'w gweld yn glir. Yn sicr ar fy rhestr o lefydd sydd yn rhaid i mi fynd yn y flwyddyn newydd.
Yn nesaf, rydym ni am deithio i'r Dwyrain, dros y Carneddau, i ddyffryn Conwy. Pan y gwnes i fy reid 100 milltir cyntaf ym mis Medi, mi ddois i 'nol ar y ffordd gefn o Gonwy i Lanrwst - ac mae'n rhaid i mi gyfaddef na wnes i sylwi ar unrhyw arwyddbost yn pwyntio tuag at y copaon canlynol. Mae'n debyg bod hyn, eto, yn ymgorffori ysbryd y dringfeydd diarffordd yma.
Yr un cyntaf y byddwn i wedi dod ar ei draws byddai dringfa Cwm Eigiau. Wel, yn dechnegol, y cyntaf fyddai Bwlch y Ddeufaen - ond mae'n debyg bod hen ffordd Rufeinig yn parhau o'r bwlch i Abergwyngregyn ar arfordir y Gogledd, felly yn yr achos yma nid yw'n cyfrif fel dringfa ddiarffordd.
Fel Bwlch y Ddeufaen, sy'n pasio pentref Llanbedr y Cennin, mae dringfa Cwm Eigiau'n dechrau ym mhentref Tal y Bont ac yn sicr o gynnig her.
Ond y nesaf yw'r anoddaf, yr enwocaf a'r un sy'n dychryn nifer. Nid ar chwarae bach y mae awdur llyfr poblogaidd yn labelu dringfa fel un a ddylai gario rhybudd iechyd.
Mi ydw i wrth gwrs yn siarad am ddringfa'r Cowlyd, sydd a'i throed yn Nhrefriw. Bydd y ddadl os mai hwn, neu Bwlch y Groes o Lanymawddwy, yw'r anoddaf yng Nghymru yn parhau am dipyn. Un arall ar fy rhestr ar gyfer 2021.
Ac os nad ydi concro'i graddiannau dieflig unwaith yn ddigon, dewch i 'nabod Kieran Wynne-Cattanach benderfynnodd ei bod hi'n syniad mynd o'r gwaelod i'r top ac yn ol 22, ie 22, o weithiau yn syniad da i gyrraedd cyfanswm mynydd Everest. Hurt bost, a cewch glywed am y cyfan yn y gofnod yma.
Yr olaf, ond nid y lleiaf, yw dringfa Nant Gwrtheyrn ar benrhyn Llyn. Gan ddringo'r llethrau serth o ganolfan y dysgwyr, byddwch angen eich coesau dringo yn ogystal a'ch sea legs ar gyfer y ddringfa yma!
Dyna ni, felly, casgliad o bump o ddringfeydd diarffordd Cymru. Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw ddringfa yn unrhyw le sy'n eich gorfodi i gyrraedd y top a throi 'nol i lawr, anfonwch nhw ata i.
Rhannwch gyda'ch cyfeillion perthnasol a gobeithio'ch gweld chi nol yma am fwy o drafod seiclo lleol a rhyngwladol penwythnos nesaf.
Comments