top of page

Dringfeydd Gorau Cymru: Nant y Moch

Ryw flwyddyn a hanner yn ôl, mi ges i’r cyfle i seiclo un o’r dringfeydd fu ar fy rhestr am amser maith, ac un saethodd i uchelfannau fy rhestr o hoff ddringfeydd.


Y cam cyntaf oedd y dringo i Nant y Moch ar reid hirach ddechreuon ni yn Ynyslas. Gallwch chi ddarllen am hwnnw drwy glicio fan hyn. Dyma wnes i sgwennu ar y pryd am gyrraedd y gwaelod:


“Ar ôl dad-bacio'r car a gwneud y ffaff-cyn-reid, 'den ni'n barod i fynd.


“Mae'r gwynt gorllewinol y tu cefn i ni yn bleserus dros ben, ac mae'n teimlo fel ein bod ni'n hedfan (bron) ar y ffordd i Dre'r Ddôl. Yma, rydym ni'n troi i'r dde ar yr A487. Dydy o ddim yn wych o ffordd i fynd ar feic o bell ffordd, ond dim ond cyfnod byr ydy o i Dalybont.


“O'r ffordd brysur, ymhen munudau mae'n teimlo fel ein bod ni mewn byd gwahanol ar ôl troi i fyny am Nant y Moch.”


A dyna’r atgof sydd wedi aros gryfaf yn fy meddwl wedi hynny; pa mor sydyn mae’r byd yn newid, a gymaint mae’r ddringfa’n teimlo fel ‘taith’, for want of a better word.


Mi gawn ni fanylu ar hynny, wrth i mi geisio troi olwynion fy nghof i grisialu’r profiad, ar ôl cymryd cipolwg ar yr ystadegau.


Pellter: 8km (5 milltir)

Graddiant cyfartalog: 4.6%

Uchafswm graddiant: 18.1% (yn ôl VeloViewer)

KOM: Sawl sy’n dwyn yr enw ‘Horsing Around’ 18:17

QOM: Ali Cameron 23:16

Aelodau Clwb Strava Y Ddwy Olwyn: Rhwng 22 munud a 50 munud.


Mae’r cyfan yn dechrau ym mhentref Talybont; pentref Y Lolfa, pentref Caffi Gruff - mae cymaint o bentrefi o’r enw Talybont mae’n help cael modd o gofio pa un ydy hwn.


Mae cymaint o dafarndai o’r enw’r Llew Du yn y patsh yma o Geredigion hefyd, mae’n ymddangos. Dwi’n cofio ryw sôn ar ryw raglen am hanes diddorol o ran pam fod cymaint, ond mae ‘nghof i’n pallu.


Wrth ymlwybro heibio tai’r pentref - lle mae Dad yn f’atgoffa o ryw de parti y bûm i ynddo yn un ohonyn nhw pan o’n i’n ddwy neu dair (fel taswn i fod i gofio) - mae’r graddiant yn dechrau cynhesu’r coesau gan hofran o gwmpas y 6%.


Dylid cymryd peth gofal i droi i’r chwith wrth y bin halen melyn (arwydd o ffordd serth neu anghysbell bob tro) - sydd ag arwydd yn eich cyfeirio’r ffordd gywir.


Oddi yma mae pethau’n dechrau mynd fymryn yn serthach ar ôl pasio fferm a chyrraedd rhan mwy cysgodol. Mae hynny’n beth digon cyffredin hefyd, on’d ydy; pethau’n mynd yn serthach a mwy dramatig wrth i goed ymddangos o boptu i’r ffordd.


Ar ôl dod allan ben arall y twnel, fel petai, mae ‘na gyfle am sbel i ddal anadl wrth i’r ffordd wastatu rhywfaint a rhoi cyfle i godi sbîd.


 pethau dipyn mwy agored bellach, daw cic bach arall yn y ddringfa a’r graddiant yn cyrraedd y ffigyrau dwbl am sbel. Dydy o ddim yn para’n hir, ac ar ôl coresi’r grid gwartheg mae pethau’n gwastatu am orig fechan eto.

Oddi yno, mae’r graddiant yn aros yn fwy cyson ac yn hynny o beth, mae’n haws dod o hyd i rhythm. Gam wrth gam wrth barhau i ddringo’n araf, mae pethau’n mynd yn fwy agored eto, yn enwedig ar ôl croesi’r ail grid gwartheg.


Mae’r cwm islaw yn cynnal diddordeb, ac ar ôl cyrraedd uchder penodol mae’n werth taro cip yn ôl wrth i’r môr ymrithio’n y pellter. Fel rhywun sydd heb fyw ar lan y môr am y rhan helaeth o ‘mywyd, dwi’n aml yn gorfod gofyn i fi’n hun; ‘ai’r môr ‘di hwne?’. Dwi’n eithaf sicr mai’r môr ydy o y tro ‘ma.

Heb fod ymhell ar ôl grid gwartheg rhif tri (dwi’n cofio colli cownt o sawl un oedd ar y route yma) mae’r ffordd yn cymryd tro go hegar i’r chwith ac er fod y ‘llinell derfyn’, fel petai, o fewn cyrraedd, mae’n mynd fymryn yn serthach.


Mae rhywun yn teimlo’n rhan o’r tirwedd ar y pwynt yma, ar ôl dringo ar ei ymylon, mae’r llwybr yn rhan o’r amgylchfyd bellach, gan lynu i’r llethr.


Ar ôl grid gwartheg rhif pedwar (dwi’n meddwl), mae’r ffordd yn cymryd tro hegar tua’r dde, a dyma ran serthaf y ddringfa’n ei chyfanrwydd gan godi dros 10% am sbel fach.


Wrth droi’r gornel, mae’r môr yn angof, signal ffôn yn diflannu, ac mae gwir deimlad o gyrraedd gwylltineb llwyr yng nghanol y tirwedd anial, anghysbell.


Does dim gwerth o ddringo wedi hynny wrth ddynesu at ddiwedd y ‘segment swyddogol’ ar lannau Llyn Nantycagl; ar ôl croesi grid gwartheg arall wrth gwrs.

Bûm i’n ail-adrodd y gair ‘cymaint’ (o Lewod Duon, o gridiau gwartheg ac yn y blaen). Efallai fod hynny’n ychwanegu at y teimlad cartrefol a chyfarwydd ges i wrth ddringo i Nant y Moch, yn ogystal â theimlo fod y ffordd yn fy arwain ar daith o brysurdeb yr arfordir i’r gwylltineb yng nghanol yr Elenydd.


Mae’n werth parhau’r daith wedi hyn i gyrraedd glannau cronfa ddŵr Nant y Moch - a dyma fachu ar gyfle unwaith eto i ddwyn i gof y gymuned a foddwyd er budd y system hydro-drydanol. Mae’n dweud y cyfan fod yr unig bamffled gwybodaeth y gallwn i ddod o hyd iddo yn uniaith Saesneg, ac er yn cynnwys tudalen am yr hanes, yn llwyr hepgor colli’r pentrefan, yn ogystal â’r angen i symud beddi, a charneddau’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn.




Recent Posts

See All

Comments


bottom of page