Dringfeydd Teirffordd Cymru

Llun clawr: o gopa'r Bwlch, gyda diolch i Anti Eirian!


Mae gan y rhan fwyaf o ddringfeydd, yng Nghymru a'r byd, ddwy ochr bendant iddynt, sy'n galluogi i ni reidwyr ddringo un ochr a disgyn yr ochr arall.


Ond nid pob dringfa sydd fel hyn, fel y bydd darllennwyr Y Ddwy Olwyn yn gwybod eisoes. Dim ond un ochr sydd i rai dringfeydd gan fod y ffordd yn dod i ben ar y copa - sail y gofnod am ddringfeydd diarffordd Cymru.


Felly rydym ni wedi son am ddringfeydd dwyffordd, dringfeydd unffordd Cymru; dim ond un peth sydd i'w wneud.


Dringfeydd teirffordd Cymru.


A dyna gofnod heddiw. Yn syml iawn, y dringfeydd teirffordd yw'r copaon hynny y gallwch chi eu cyrraedd o dri chyfeiriad neu dri route gwahanol.


Enghraifft bennaf i ffans seiclo ledled y byd fyddai'r enwog Mont Ventoux yn Ffrainc. Gellir dringo i'r brig o Bedoin, Malaucene a Sault.


Her mae rhai seiclwyr yn hoffi gwneud yn sgil hynny yw taclo'r tri route mewn un go, ac wrth efelychu hynny mae digwyddiad wedi'i drefnu'n eithaf diweddar i daclo tri route un o'r dringfeydd canlynol mewn un go ond cawn glywed mwy am hynny yn y man.


Heb oedi mwyach, dyma ddringfeydd teirffordd Cymru.


Mwynhewch y dringo!


Pen y Pas


Mae modd dadlau mai dim ond dwy ochr sydd i'r ddringfa hon - sef o Lanberis neu o Nant Gwynant - ond dwi'n meddwl fod dringo i'r copa o gyfeiriad Capel Curig yn gymwys hefyd, er falle nad pawb sy'n ei hystyried fel 'dringfa' fel petai.


Dim ond un ochr ydw i wedi cael y bleser o'i thaclo ar ddwy olwyn (hyd yn hyn), gan ddringo'n raddol o Feddgelert a golygfeydd gwych o Lyn Gwynant a'r mynyddoedd sy'n ei amgylchynnu. Ar ol cyrraedd y copa o'r cyfeiriad yma, mae'r reid i Lanberis yn gret - disgyniad cyflym, esmwyth a chaffi ar ei ddiwedd!


Bwlch yr Oernant


Dyma fath gwahanol o ddringfa deirffordd, sef Bwlch yr Oernant (Horseshoe Pass). Yr ochr sydd ar y map yw'r un o Langollen, yr un mwyaf adnabyddus efallai, sy'n dringo'n raddol a'n cynnwys y bachdro nodedig. Hedfan lawr y disgyniad at roundabout Rosie's Cider wedyn, nid nepell o Landegla, ac oddi yma mae nifer o bosibiliadau (i Graigfechan neu i Lanarmon yn Ial bydda i'n mynd gan amlaf, gyda llaw).


Y drydedd ffordd i fyny yw'r hen ffordd i'r copa, lle saif caffi Ponderosa heddiw. 'The Old Shoe' mae rhai'n ei alw, gan gynnwys Simon Warren yng nghyfrol 'Cycling Climbs of Wales'. Mae'n hollol wahanol i'w frawd iau ar yr A542; mae'n fyrrach a'n dipyn serthach, sy'n gorfodi nifer i fod allan o'r cyfrwy am y filltir gyfan.


Bwlch y Groes


Dwi'n siwr fod darllennwyr y blog wedi hen laru arna i'n canu clodydd Bwlch y Groes bob tro daw cofnod am ddringfeydd Cymru, ond mae'n leoliad arbennig.


Dyma enghraifft arall o gopa sydd a thair ffordd hollol wahanol i'w gyrraedd. O Lanuwchllyn, mae'n esgyn yn raddol ond heb frathu gormod am yr hanner cyntaf, cyn dringo'n serth i'r top dan gysgod y coed ac heibio'r wal greigiog enfawr. O Lyn Efyrnwy, mae rhannau serth gan ddilyn taith yr afon Eunant am yr hanner cyntaf cyn troi'n fwy tonnog wrth baratoi am y wal i orffen pan yn ymuno gyda'r ffordd o gyfeiriad Llanymawddwy. Y ffordd hwnnw, wrth gwrs, yn adnabyddus ledled Cymru a thu hwnt am ei serthedd a'i her. Fe'i ddangosir ar y map uchod, gyda graddiant cyfartalog uwch na 13% yn barhaus heb ennyd i ymlacio a gwerthfawrogi'r olygfa tua dyffryn y Ddyfi.


Bwlch yr Efengyl

(Gospel Pass)

gyda diolch i Robyn Davies ar Twitter


Saif copa Bwlch yr Efengyl, neu Gospel Pass i'r rhan fwyaf mae'n siwr, ambell fedr yn unig yn uwch na'r ddringfa flaenorol Bwlch y Groes ar 549m. Ac yntau'n rhan o'r mynyddoedd duon yng nghornel ddwyreiniol uchaf y Bannau Brycheiniog, mae'n blatfform perffaith i werthfawrogi'r golygfeydd o gwmpas.


Mae'r dair ffordd yn rhan o Route 42 y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, sy'n cychwyn yn Nghas-gwent a'n mynd drwy'r Fenni i gyrraedd y ffordd sy'n mynd a chi i gopa'r bwlch. Mae'n dringo'n raddol yr holl ffordd o'r Fenni, ac wedyn bydd gan rai sy'n dilyn Route 42 ddau opsiwn; disgyn i'r Gelli Gandryll gydag arwyneb ffordd gwell, neu droi i'r chwith i'r Clas-ar-Wy.


Y Tymbl

(neu'r Blorenge)

gyda diolch i Robyn Davies a Richard Davies ar Twitter


I'r de o Feirionnydd, yn anffodus does gen i fawr ddim profiad (eto) o seiclo'r uchafbwyntiau, felly dwi'n gorfod dibynnu ar seiclwyr lleol, mwy gwybodus! Dyma oedd gan Dyfrig Williams i'w ddweud am ddringfa'r Tymbl yn ei gofnod Hoff Bump llynnedd: "Dyma'r mynydd hir cyntaf wnes i ar feic. Weithiau mae'n teimlo fel gwneith e byth gorffen! Mae yna amrywiaeth yn y dringo - ar adegau mae'n serth, ond mae yn hefyd darnau sydd ychydig yn haws, ond byth yn hawdd! Mae'r ffaith ei fod e wedi bod y prif fynydd ar gymal o Tour Prydain Fawr yn dangos pa mor heriol yw e. Mae'n gallu fod yn hynod o wyntog ar y brig, ond bydd 'da chi teimlad o lwyddiant wrth i’r gwynt eich chwipio. Yn ffodus, mae'r ardal ehangach yn hynod o brydferth hefyd."


Mae top y ddringfa wrth ymyl 'Keepers Pond'; ac maen nhw'n dweud ei fod yn fan poblogaidd ymysg nofwyr gwyllt a rhai sydd am gerdded i'r Blorenge. Y ddringfa ar y map uchod yw'r un mwyaf poblogaidd o gyfeiriad y Fenni, ond gellir hefyd cyrraedd y copa o Flaenafon ac o Lanelen.


Mynydd Llangynidr

Mae'r ddringfa hon yn y Bannau Brycheiniog - gyda'r ddau route pennaf ar y B4560 gan ddechrau o Garnlydan ar yr ochr ddeheuol, neu o Langynidr ar yr ochr ogleddol. Gan ddringo o Langynidr ar lannau'r afon Wysg, ceir bachdroeon sy'n atgoffa ambell un o fod yn yr Alpau medden nhw; ond mae'n well gan eraill ddringo o Garnlydan gan eich bod yn wynebu'r golygfeydd o'r Bannau a'n gallu mwynhau'r troeon hyn ar y goriwaered.


Y drydedd ffordd yw'r un o Langadog ger Crughywel, ac mae ambell un hefyd yn mwynhau route amgen o'r pentref. Digon o opsiynau i gyrraedd rhostiroedd yr uchelfannau felly.


Cefn Eglwysilan

gyda diolch i Aled Elwyn ar Twitter

Fel soniais i cynt, dydi 'ngwybodaeth i i'r de o Feirionnydd ddim yn wych, ond dros y blynyddoedd wrth sgwennu'r blog a derbyn cyfraniadau mae gen i rywfaint o glem erbyn hyn.


Nid felly am y ddwy ddringfa nesaf, fodd bynnag, gan eu bod nhw'n hollol, hollol newydd i mi - doeddwn i 'rioed wedi clywed amdanyn nhw tan i Aled Elwyn son ddoe ar Twitter, a diolch iddo am hynny. Mae tair ffordd i Gefn Eglwysilan ar ddwy olwyn; o Bontypridd heibio'r clwb golff, o Abertridwr ac o Nantgarw. Dywed mai'i ffefryn o yw'r ochr o Nantgarw gan ei fod o'n 'slow-burner'.


Mynyddislwyn

gyda diolch i Aled Elwyn ar Twitter


Wel, mae Aled yn sicr wedi ateb y galw o ran y rhai mwy 'cudd' yn dydy. Dwi heb glywed am hon chwaith na'n gallu dibynnu ar ddefnyddwyr Komoot. Yr unig sylw sydd ganddyn nhw yw presenoldeb Eglwys Sant Tudur, sydd a nifer o chwedlau mae'n debyg. Un chwedl yw fod lleng Rufeinig wedi'i claddu yma, ac un arall fod cawr wedi'i gladdu yma.


Mae'n rhaid mod i'n desperate am rwbeth i ddeud os dwi'n son am chwedloniaeth!


O ran y seiclo, mae nifer o ffyrdd i'r copa ond y tri prif gyfeiriad yw o'r Coed Duon, o Abercarn ac o Wattsville. Y diwethaf ohonynt yn cael y gorau ar Aled, fel mae'n ddweud uchod.


Bwlch y Clawdd


Roedd hwn ymysg y mwyaf amlwg pan blannwyd yr hedyn am y gofnod hon. Fel soniais i ar ddechrau'r gofnod, mae rhai'n herio'u hunain i daclo'r dair dringfa mewn un go mewn digwyddiad a elwir yn Bwlchx3. Ac ydy, mae hwn yn un o'r dringfeydd dysgais i amdano'n gynnar yn oes y blog felly mae gen i rywfaint o syniad amdano!


Mae pob un o'r tair dringfa'n ddigon tebyg wrth gymharu'u hystadegau. Boed ichi gychwyn yn y Cymer, yn Nhreorci neu yn Nantymoel, ceir dringfa o 6.8km (4.3 milltir), gyda'r graddiant cyfartalog yn 5% ar bob un. Wedi dweud hynny, tra bo'r ddringfa o'r Cymer yn fwy graddol, mae'r graddiannau ar y ddau arall yn fwy newidiol - yn enwedig o Nantymoel lle mae'r uchafswm graddiant yn dros i 28%.


O'r copa, gwelir yr olygfa sy'n eithaf adnabyddus yn edrych i lawr ar Dreorci.


Mynydd Caerffili

gyda diolch i Geraint Roberts ar Twitter


Olreit, olreit. Oes, mae 'na fwy na thair ffordd i gyrraedd copa Mynydd Caerffili. Defnyddiwyd gan drefnwyr y Tour of Britain ambell waith sy'n dyst i'r anghenraid i'w gwblhau fel seiclwyr Cymru.


Gan anghofio am y ffordd o Riwbina a'r A469 gan eu bod nhw'n brysur o ran traffig, dylem ni werthgawrogi a dysgu o arbenigedd Geraint Roberts ar Twitter. Y top 3 route i'r copa ganddo yw o ganol Caerffili, o Dongwynlais a'r Wenallt. O ganol Caerffili aeth reidwyr y Tour of Britain; o Dongwynlais mae'r dringo graddol heibio'r Castell Coch; ac ar y Wenallt mae'n 'afiach o serth'.

Mae wedi bod yn bleser rhoi'r gofnod yma at ei gilydd, a dwi'n credu'i fod o'n atgfynerthu pa mor amrywiol a chyfoethog ydy seiclo yng Nghymru.


Tan y tro nesaf, hwyl.

158 views0 comments

Recent Posts

See All