top of page

Mwy o gaffis seiclo gorau Cymru

Updated: Jan 6, 2020

Er mwyn cyfoethogi map seiclo Cymru, gweler https://cyclingdragonblog.wixsite.com/yddwyolwyn/stepen-drws, dyma fwy o gaffis gorau Cymru - rhai'n gyfraniadau gennych chi ac eraill yr ydw i wedi eu profi fy hun.


Conwy Falls, Betws y Coed

Caffi rhif 6 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Er yn gaffi eithaf bach, mae digonedd o amrywiaeth o fwydydd ar gael mewn lleoliad delfrydol, sy’n hynod groesawgar i seiclwyr gan hybu gweithgareddau awyr agored.


Ty Siocled Glanrafon, Pentrefoelas

Caffi rhif 29 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Caffi sydd eto’n un bach ac yn un croesawgar i seiclwyr drwy gyfrwng y Gymraeg oddi ar yr A5 ym Mhentrefoelas. Lleoliad da i stopio gydag amrywiaeth dda o luniaeth ysgafn, hufen ia, a siocled wrth gwrs. 


Caffi Eric, Tremadog

Caffi rhif 8 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Unwaith eto mae lluniaeth amrywiol i’w gael yma - yn boeth ac yn oer - yn ogystal a bod yn groesawgar ac yn cynnig hufen ia safonol hefyd. 


Caffi Mari (Lakeside Cafe), Tanygrisiau

Caffi rhif 9 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Caffi croesawgar gyda’r Gymraeg yn llifo’n naturiol iawn yma yn y fwydlen a’r gweithwyr. Ac yntau ar droed Stwlan, mae’n le da i stopio i adfywio wedi’r dringfa. Gweini brecwast poeth drwy’r dydd - a hwnnw’n un sydd wedi ennill gwobrau.


T.H. Roberts, Dolgellau

Caffi rhif 13 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Beth bynnag fo’ch barn amdani, mae ymweliad diweddar Theresa May i gaffi T.H. Roberts yn Nolgellau’n brawf sicr o’i safon. Amrywiaeth o fwydydd poeth ac ysgafn, ond y cacennau anhygoel yw’r uchafbwynt, heb os.


Cross Foxes, Dolgellau

Caffi rhif 14 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Er mai bwyty ydy hwn yn y bôn, mae’n gweini brecwast hyd un ar ddeg y bore ac mae cacennau gwerth chweil hefyd - lle da ar yr A470 (heb fod ymhell o Dal-Y-Llyn) i gael bwyd mwy hefyd i ymadfer wedi’ch reid.


Conti’s, Llambed

Caffi rhif 19 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Awyrgylch groesawgar sydd i gaffi Conti’s gan baratoi ‘bwyd yn ffres’ a ‘defnyddio cyflenwyr lleol’ - a chyda’r opsiwn am ‘goffi neu hufen ia sydyn neu bryd mwy hamddenol’, mae’n berffaith ar gyfer seiclwyr.


West End, Llanymddyfri

Caffi rhif 20 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Caffi Cymreig yn Llanymddyfri gydag opsiynau addas iawn ar gyfer seiclwyr gan gynnwys brechdanau, cacennau a phwdinau. 


Bradley’s, Aberdar

Caffi rhif 22 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Unwaith eto’n falch o’u Cymreictod a’u gwasanaeth cyfrwng Cymraeg y Aberdar, gyda’r dewis perffaith o fwydydd sy’n atyniadol i seiclwyr unwaith eto.


Usk Garden Centre, Llanbadog Fawr

Caffi rhif 27 ar fap seiclo Cymru (linc ar dop a gwaelod y ddalen yma)


Lle da i stopio am baned unwaith eto gyda dewis eang o fwydydd sy’n denu seiclwyr yno. 


Cofiwch am fap seiclo Cymru, https://cyclingdragonblog.wixsite.com/yddwyolwyn/stepen-drws.

Recent Posts

See All
bottom of page