top of page

Rhagolwg: Liege-Bastogne-Liege

Rhagolwg o drydedd ras gofeb (monument) y tymor sef Liege-Bastogne-Liege, gyda ras y dynion a ras y menywod yn cael eu cynnal ddydd Sul yma (4 Hydref).

 

Ras y menywod

GCN Race Pass 10:25-11:55

Cwrs Liege-Bastogne-Liege y menywod


Dringfeydd yn rhannau ola'r ras sy'n gyfrifol am benderfynu pwy sydd am ennill Liege-Bastogne-Liege yfory, gyda dringfeydd Cote de la Redoute (30km i fynd) a Cote de la Roche aux Faucons (15km i fynd) yn allweddol er eu bod yn fyr.


Wedi ennill pencampwriaethau'r byd yr wythnos diwethaf a La Fleche Wallonne ganol wythnos, Anna van der Breggen yw'r ffefryn mawr ar gyfer y ras. Mae wedi ennill y ras yma ddwywaith yn y gorffennol a hynny yn 2017 a 2018, sy'n dangos bod y cwrs yn siwtio'i rhinweddau a'n sicr o danio awydd i fynd am yr hat-trig. Yn cynnig opsiynau eraill i dim Boels-Dolmans mae'r Awstraliad Amy Pieters a'r Isalmaenes Chantaal van den Broek-Blaak.

Anna van der Breggen yn Emakumeen-Saria. Llun: Ixone Nunez San Roman drwy law Agnieta Francke


Bydd Annemiek van Vleuten yn ol yn lifrai Mitchelton-Scott wedi iddi gael ei dad-goroni fel pencampwraig y byd gan AVDB wythnos diwethaf. Cafodd ddechrau campus i'r tymor diwygiedig, gan ennill y bedair ras gyntaf - yr olaf o'r rheiny yn Strade Bianche. Ers hynny, mae wedi dod yn ail ym mhencampwriaethau'r Iseldiroedd ac ym mhencampwriaethau'r byd o bopty i berfformiad gymharol gryf yn y Giro Rosa gafodd ei dorri'n fyr gan anaf i'w garddwn.


Mae Marianne Vos wedi gorffen yn y deg uchaf ar 11 achlysur mewn 17 posib ers ailddechrau'r tymor, gan gynnwys tri buddugoliaeth cymal yn y Giro Rosa. Ai dyma'r cyfle iddi ennill ei ras undydd gyntaf yn 2020? Yn ogystal, mae Liege yn un o'r rasys prin sydd ddim ar ei palmares eto, felly cymhelliant pellach fyth i herio'r fuddugoliaeth.

Annemiek van Vleuten ar drywydd buddugoliaeth yn Emakumeen-Saria. Llun: Ixone Nunez San Roman drwy law Agnieta Francke


Un o reidwyr i'w gwylio Y Ddwy Olwyn sydd wedi cael tymor gwych hyd yn hyn yw Demi Vollering. Dyma'i thymor olaf hi gyda Parkhotel Valkenburg, sydd wedi cynnig rhyddid iddi fydd fwy na thebyg ddim ar gael yn lifrai SD Worx (Boels Dolmans ar hyn o bryd) flwyddyn nesaf. Ai dyma'r cyfle iddi wneud enw mawr iddi hi'i hun i ddal sylw'r cyflogwyr newydd? Cawn weld. Gorffennodd yn 3ydd yn La Fleche Wallonne ac yn La Course, felly mae'n amlwg fod y gallu ganddi - a'r cwestiwn yw pryd, yn hytrach nag os, y bydd hi'n gwneud y cam nesaf i ris ucha'r podiwm.


Wedi iddi ddangos ei potensial yn erbyn mawrion mwyaf y gamp ganol wythnos yn La Fleche Wallonne i orffen yn ail, gallwn ddisgwyl i Cecile Uttrup Ludwig fod yn agos i'r blaen. Yn ogystal, mae wedi ennill Giro dell'Emilia a dosbarthiad mynyddoedd Giro Rosa i ychwanegu at ddeg uchaf ym mhencampwriaethau'r byd, Strade Bianche a 4x cymal Giro Rosa.

Y peloton yn Emakumeen-Saria. Llun: Ixone Nunez San Roman drwy law Agnieta Francke


Tim sydd gan nifer fawr o opsiynau yw Trek-Segafredo, sydd a dwy reidwraig ar rediad da yn Lizzie Deignan ac Elisa Longo Borghini yn ogystal ag Ellen van Dijk. Y par ifanc Floortje Mackaij a Liane Lippert sy'n cario gobeithion tim Sunweb, tra bo Kasia Niewiadoma a Hannah Barnes yn herio dros Canyon SRAM. Ymysg eraill sy'n sicr o fod tua'r blaen mae Ashleigh Moolman o dim CCC, Mavi Garcia o Ale BTC Ljubljana ac Erica Magnaldi o Ceratizit WNT - y dair ohonynt wedi cael tymor llewyrchus hyd yma.


RHAGFYNEGIAD: Demi Vollering (Parkhotel Valkenburg)

 

Ras y dynion

GCN Race Pass 12:30-16:30

Does dim ots faint o seiclo ydych chi wedi'i wylio eleni, byddwch yn ymwybodol mai blwyddyn yr ifainc ydyw hi. Wedi'i fuddugoliaeth yn La Fleche Wallonne i atgyfnerthu perfformiad ardderchog yn Le Tour de France, mae'n bosib dadlau mai Marc Hirschi (Sunweb) yw'r ffefryn. Ac yntau ond yn 22 oed, byddai'n ddatganiad mawr pellach o'i allu pe bai'n gallu ennill ei ras gofeb gyntaf yfory.


Son am y Tour de France, mae'r ennillydd Tadej Pogacar ar y rhestr ddechrau - cawn weld sut siap fydd arno fo mewn ras undydd. Reidiwr ifanc arall ddaeth i'r amlwg yn Ffrainc, a hynny yn y dosbarthiad mynyddoedd, oedd Benoit Cosnefroy, sydd eisoes wedi dangos beth mae o'n gallu'i gyflawni mewn clasuron bryniog drwy orffen yn 2il yn Fleche ddydd Mercher.


Ni fydd Mathieu van der Poel, 25, a Mads Pedersen, 24, yn gorfod teithio'n bell o'r BinckBank Tour, orffennodd heddiw. Llwyddodd van der Poel i gipio'r fuddugoliaeth cyffredinol o grafangau Pedersen wedi ymosodiad dramatig ar y diwrnod olaf, felly cawn weld sut siap fydd ar goesau'r ddau yfory.


Un ifanc arall sydd a gobaith ymylol o gael dylanwad yfory yw'r Eidalwr ifanc Andrea Bagioli o dim Deceuninck-Quickstep.

Julian Alaphilippe yn ennill pencampwriaeth y byd wythnos diwethaf.


Symud ymlaen at y rhai mwy profiadol, a braf iawn fydd gweld Julian Alaphilippe yng nghrys yr enfys am y tro cyntaf - gwisgwr haeddiannol iawn. Bydd yn awyddus i ennill ei glasur cyntaf o'r tymor i ychwanegu at gymal o'r Tour de France a buddugoliaeth ym mhencampwriaethau'r byd wythnos diwethaf, wrth gwrs.


Mae Max Schachmann yn un arall i'w wylio. Ymysg ei ganlyniadau gorau o'r tymor hyd yma mae 3ydd yn Strade Bianche, 7fed yn Giro di Lombardia, 9fed ym mhencampwriaeth y byd a chyrraedd y deg uchaf deirgwaith ar gymalau o'r Tour.


Cofier hefyd am bar EF, Mike Woods serennodd yn Fleche ac Alberto Bettiol ennillodd Ronde van Vlaanderen llynnedd. Cwestiwn go fawr yw beth all Primoz Roglic ei wneud wedi siomedigaeth fawr y Tour.


Ymysg y reidwyr profiadol fydd yn awyddus i ychwanegu at eu palmares mae Greg van Avermaet y pencampwr Olympaidd, Michal Kwiatkowski sydd ar rediad dda ar hyn o bryd, a Dan Martin ddangosodd fod y coesau'n dal i fod ganddo yn Fleche.


RHAGFYNEGIAD: Marc Hirschi

 

Mwynhewch y rasio!

Recent Posts

See All

Commentaires


bottom of page