top of page

Rhagolwg: Pencampwriaethau’r Byd 2022

Ers bron i gan mlynedd, mae un symbol wedi llwyddo i oroesi bron pob un arall yn y byd seiclo proffesiynol. Crys yr enfys yw hwnnw.


Braint enillwyr un o rasys Pencampwriaethau’r Byd yw gwisgo’r crys am flwyddyn gyfan, ym mha bynnag ras y bônt. Am weddill eu gyrfaoedd wedyn, caent wisgo atgoffiad o’u llwyddiant ar lewys eu crys.


Ras deithiol yw Pencampwriaethau’r Byd, ac er fod y tirwedd a’r route yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar y lleoliad, mae’r buddugwr(aig) yn dueddol o fod yn reidiwr hyblyg ac amryddawn.


Yn Wollongong, De Cymru Newydd, Awstralia y cynhelir y pencampwriaethau eleni; maent eisoes wedi dechrau heddiw, a byddent yn para tan ddydd Sul nesaf (25ain).


Cafwyd rhywfaint o syndod yn y ddwy ras yn erbyn y cloc gynhaliwyd heddiw; Tobias Foss yn rhyfeddu pawb - gan gynnwys fo'i hun - i ennill ras y dynion o flaen Stefan Kung a Remco Evenepoel, tra bo Filippo Ganna yn y 7fed safle. Ellen van Dijk ddaeth yn fuddugol yn ras y menywod gan guro Grace Brown a Marlen Reusser i risiau is y podiwm.


Gan obeithio bod hynny'n arwydd fod rasio cyffrous, anrhagweladwy ar y gorwel weddill yr wythnos.


Gadewch i ni fwrw golwg dros rai pethau i’w gwybod cyn yr wythnos hon o rasio.


Colli cwsg


I ddechrau gyda’r un amlwg; yn anffodus, bydd rhaid i ni yn Hemisffer y Gogledd ddefnyddio clociau larwm os am fedru gwylio’r rhan helaeth o’r rasio. Wedi dweud hynny, mae ‘na bosib i’r rhan fwyaf ohonom (ddim yn barnu neb yn fa’ma ond…) ddal diwedd ambell i ras ben bore.


Dyma galendr uwchlwythwyd gan Sadhbh O’Shea ar Twitter - a diolch i Y Dihangiad am ei rannu.



Routes


Mae’r rasys yn erbyn y cloc - rhai ohonynt wedi bod yn barod fel ‘nes i sôn - yn digwydd ar gylched yn ardal Wollongong.


Bydd y rasys ar y ffordd ychydig yn fwy diddorol na hynny.


Bydd y ddwy ras Elite yn dechrau yn Helensburgh, gan alluogi’r route i fynd heibio clogwyni arfordirol trawiadol i’r de o Sydney, gan greu posiblrwydd hefyd am groeswyntoedd.


Wedi hynny, bydd y reidwyr yn mynd tua’r mewndir i gynnwys dringfa Mount Keira, cyn ymgymryd â chylched yn ardal Wollongong, sy’n cynnwys Mount Pleasant; 8.7km ar raddiant o 5% (ond hyd at 15%). 6 gwaith o’i amgylch i’r menywod, a 12 i’r dynion.


Dyma’r tro cyntaf i rasio rhyngwladol fod yn Awstralia ers cyn y pandemig, wedi i’r Tour Down Under a ras Cadel Evans gael eu canslo ers hynny.


Mwy o gyfartalwch


Mae’r UCI wedi cymryd ambell gam ymlaen eleni i wella cyfartalwch rhwng pencampwriaethau’r dynion a rhai’r menywod.


I ddechrau, heddiw, bu i’r dynion a menywod seiclo’r un cwrs yn y ras yn erbyn y cloc ar yr un diwrnod, rhywbeth nas gwelwyd o’r blaen.


Yn ogystal, maent yn rhyw ddechrau cyflwyno categori dan 23 i fenywod - cam pwysig o ystyried datblygu’r dyfodol - gan roi crys enfys i’r sawl sy’n gorffen yn gyntaf o fewn y ras Elite. Erbyn 2025, bydd rasys ar wahan iddynt.


All unrhyw un stopio’r Isalmaenwyr?


Ers tro byd bellach, mae’r Isalmaenwyr wedi meddiannu peloton y menywod, ac er fod mwy o gystadleuaeth iddynt erbyn hyn nag a fu, maen’hw’n dal i fod a’r tim gorau ar y llinell ddechrau.


Marianne Vos yw’r enw amlwg, wrth gwrs, un o’r seiclwyr gorau yn hanes y gamp. Mae’n gwrs sy’n ei siwtio, ac er ei bod wedi ennill crys yr enfys deirgwaith, roedd y diwethaf o’r rheiny yn 2013. Byddai ychwanegu un arall ym mlwyddyn olaf ond un ei gyrfa ddim yn gwneud dim drwg.


Bydd gorffen ei gyrfa mewn steil yn ysgogiad sicr i Annemiek van Vleuten, sy’n hongian ei holwynion (dywediad gwael, ymddiheuriadau) ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, gan na fyddai o’r herwydd yn medru arddangos y crys yn y flwyddyn i ddod, mae’n bosib y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i reidwraig iâu yn y garfan. Demi Vollering yw’r mwyaf cymwys ymysg y rhai fydd yn ysu am y cyfrifoldeb hwnnw a hithau wedi parhau i ddatblygu a blaguro eleni.


O ran y ffefrynnau eraill yn ras y menywod, rhaid edrych ar dîm yr Eidal sy’n cynnwys deiliad y crys, Elisa Balsamo, yn ogystal ag Elisa Longo Borghini, Marta Bastianelli, Persico, Cecchini a mwy. Gwylier Cecilie Uttrup Ludwig ac Emma Norsgaard o Ddenmarc hefyd, y naill yn fwy o ddringwr a’r llall yn fwy o wibiwr, gan arwain at gyfle da i lwyddo beth bynnag fo’r sefyllfa.


Daw cyfle prin i weld y bencampwraig Olympaidd wrth ei gwaith hefyd, wrth i Anna Kiesenhofer rasio i dîm Awstria. I luchio ambell enw arall i mewn i’r gymysgedd, dylid cadw golwg ar Juliette Labous (Ffrainc), Lotte Kopecky (Gwlad Belg), Mavi Garcia (Sbaen), Ashleigh Moolman (De Affrica) a Kasia Niewiadoma (Gwlad Pwyl) yn benodol.


Pob hwyl i Elynor Backstedt hefyd, wrth i’r Gymraes ugain oed rasio yn y categori Elite am y tro cyntaf.


Yr enwau mawr yn brywdro am grys enfys y dynion


Mae’n gaddo bod yn dipyn o ras rhwng reidwyr gorau’r byd yn y frwydr am grys enfys y dynion.


Dwi’n amau y gallai gwibiwr pur ennill y ras, a dwi’n credu bod gallu dringo a hyblygrwydd yn hollbwysig i’r sawl sydd am ddod i’r brig.


Remco Evenepoel. Julian Alaphillippe. Tadej Pogačar. Mathieu van der Poel. Wout van Aert.


Mae’r frwydr rhwng y pump yna’n ddigon i dynnu dŵr i’r dannedd, ac yn ddigon efallai i ysgogi rhywun i ddeffro mewn pryd i wylio diwedd y ras.


Mae’n deg dweud fod Alaphilippe - yr enillydd ddwy flynedd o’r bron - wedi dioddef o’r rainbow curse eleni, er na effeithiodd hynny arno yn y flwyddyn flaenorol. Mewn blwyddyn yn llawn anafiadau, dydy o heb lwyddo i gyrraedd yr un uchelfannau ag arfer. 


O ran y gweddill, maen’hw’i gyd yn ymddangos yn agos i dop eu gêm. Dydyn ni heb weld gormod o van der Poel ar y llwyfan mwyaf eleni, ond mae wedi bod yn ennill rasys bychain yng Ngwlad Belg yn y dair wythnos ddiwethaf.


Profodd Pogacar a van Aert eu gallu’n y Tour, a daeth Evenepoel i’r brig yn y Vuelta.


Mae wir yn ras rhwng y goreuon, yr haen uchaf un o seiclwyr. Er eu bod nhw i gyd yn medru gwneud pob dim, mae ganddyn nhw rinweddau gwahanol fydd yn gwneud dynamig y ras rhyngddynt yn hynod, hynod ddifyr.


Yn amlwg, mae ‘na reidwyr eraill mwy nag abl o ennill yn y ras, ond dwi’n fwy na bodlon rhoi pen ar y bloc y bydd y buddugwr yn dod o blith y pump yma.


Reidwyr cartref


Mae gan dîm menywod Awstralia restr gynhwysfawr i herio am grys yr enfys a digonedd o brofiad yn Sarah Roy, Brodie Chapman, Grace Brown ac Amanda Spratt.


O ran y dynion, rhwng y gwibiwr hyblyg Michael Matthews a’r dringwyr Ben O’Connor a Jai Hindley, mae ganddyn’hwythau gyfle teg i herio am y fuddugoliaeth yn ogystal.


Beth bynnag fo’r canlyniad, mae’n haul ar fryn i’r Awstraliaid ar ddiwedd cyfnod anodd i seiclo yn y wlad.

 

Tipyn o wythnos o seiclo ar y gorwel felly, a digonedd i edrych ymlaen ato.


Bydd y blog yn ôl wythnos nesaf i drafod mwy am y cysylltiad rhwng Awstralia a’r byd seiclo.


Tan hynny, hwyl.

Recent Posts

See All
bottom of page