Yn sgil fy nghwestiwn ar Trydar, bydd y gyfres yma'n mynd trwy restr go hirfaith o'ch hoff ddringfeydd i'w concro yng Nghymru.
Yn y bennod gyntaf, dyma ddringfeydd gorau Gogledd Orllewin Cymru, yn seiliedig ar Wynedd a Mon.
Bydd modd diweddaru'r gofnod hon yn y dyfodol - anfonwch luniau i gyd-fynd a'r dringfeydd isod neu unrhyw gyfraniadau pellach at yddwyolwyn@gmail.com.
Gogledd Orllewin
1 Nant Gwrtheyrn
O lyfr ‘100 Climbs of Wales’ (Simon Warren)
Her galed mewn lleoliad delfrydol. Dau fachdro poenus ar raddiant o 20% ond cyfle i fwynhau golygfeydd godidog arfordir Cymru.
2 Marchlyn
Her orau'r gogledd a theimlad braf o fod ar ben mynydd. Golygfeydd gwych ar draws Eryri. (@lefigruffudd)
3 Nant Gwynant
O lyfr ‘100 Climbs of Wales’ (Simon Warren)
Newid mewn graddiant parhaol yn eich cadw'n dyfalu pa ger i fod ynddo - taith ddiddorol i gopa Pen y Pass.
4 Stwlan
Wedi'w guddio'n uchel uwch Tanygrisiau, mae'r ddringfa epic, Stwlan Dam. Wedi'w gau i geir ac mae'n ffordd dawel o brofi bachdroeon dramatig.
5 Drws y Coed
O lyfr ‘100 Climbs of Wales’ (Simon Warren)
Cychwyn heb fod yn rhy serth, ond mae'r graddiant yn cynyddu'n sylweddol erbyn rhannau olaf y ddringfa.
6 Bwlch y Groes
Dringfa sy'n cael ei ofni ym mhob cwr o Gymru a Phrydain - yr ochr o Ddinas Mawddwy yw'r anoddaf o bellffordd - ond mae'r ochrau o Lyn Efyrnwy a Llanuwchllyn yn wych hefyd.
6 Hirnant
Mwy o ddringo ac atmosffer mwy dramatig o Lyn Efyrnwy, ond dringfa epic a heriol sydd o gyfeiriad y Bala.
7 Cregennen
Un o'r dringfeydd lle, mewn rhannau, mae'n anodd cadw'r olwyn ffrynt i lawr. Yn rhan o'r 'Cambrian Coast Sportive', mae'n gorfod bod yn un o ddringfeydd arfordirol mwyaf heriol Cymru.
Diolch am gysylltu!
Gobeithiaf gyhoeddi'r gofnod nesaf yng nghyfres 2 - sef y Gogledd Ddwyrain - wythnos i heddiw, sef dydd Sul.
Gallwch gyfrannu at gyfres 1 - sef cyfraniadau unigol i hoff reids, dringfeydd a chaffis - drwy glicio yma.
I gyfrannu mwy o ddringfeydd - neu gyfrannu lluniau at y gofnod yma - anfonwch e-bost i yddwyolwyn@gmail.com.
Comments