top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Stepen Drws c2 p2: 5 o ddringfeydd gorau Gogledd Ddwyrain Cymru

Updated: Jan 6, 2020

Mae Cymru'n baradwys i seiclwyr, ac mae'r gyfres 'Stepen Drws' yn prysur ddod o hyd i reids, dringfeydd a chaffis gorau'r genedl.


Dyma bump o ddringfeydd gorau'r Gogledd Ddwyrain - diolch i'm dilynwyr Trydar am eich sylwadau a syniadau. Os fethoch chi gofnod y Gogledd Orllewin, cliciwch yma.

1 Allt Gwaenysgor

Tair bachdro poenus - gan gynnwys un 33% (sydd, gyda llaw, yn 'amcangyfrif geidwadol') a llethrau anioddefol di-drugaredd. Dringfa epic arall i'w choncro.
 

2 Pen Barras


Yn uchel uwch Rhuthun mae dringfa Pen Barras. Unwaith eto, mae'r llethrau ar raddiant aruthrol ac mae'r bachdro 25% yn galed ond mae'n her werthfawr erbyn y copa. Dydw i heb fod yn ol ers i mi'w goncro bedair mlynedd yn ol.
 

3 Melin y Wig


Ym mhentref anghysbell Melin y Wig (lle na welodd y bachgen bach damaid o gig yn y hwiangerdd), mae tardd dringfa serth sydd a graddiant hyd at 25% - gan gynnwys bachdro arallfydol arall; thema amlwg yn y rhanbarth yma. Mae golygfeydd gwych ar y copa o sir Ddinbych.
 

4 Betws Gwerful Goch

Wedi'w guddio heb fod ymhell o Faerdy a Chorwen, mae dringfa anadnabyddus a graddiannau anhygoel unwaith yn rhagor. Mae'n ddi-drugaredd - ond rhaid cadw ychydig at y bachdro thematig. Wedi'r copa, bydd disgyniad pleserus i fistro Rhug.

5 Bwlch yr Oernant


Mae'r ddringfa nodedig yma - 'Horseshoe Pass' - yn un a graddiant cyson heb fod ag unrhyw glips serth. 3 milltir caled ond eto mae'r golygfeydd tuag at yr arfordir gogleddol yn rhai godidog ar ddiwrnod brawf. Dringfa arall i'w fwynhau.
 

Diolch am eich cyfraniadau - edrych ymlaen at gofnod y Canolbarth wythnos nesaf!

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page