top of page

Stepen Drws c2 p4: Dringfeydd gorau'r De Orllewin

Updated: Jan 6, 2020

Dim llawer o gynnigion gennych ar gyfer y rhanbarth yma fel atebion i'm trydariad diweddar, felly cryno fydd y gofnod yma.


Wrth gwrs, bydd modd diweddaru'r gofnod - anfonwch unrhyw ddringfeydd eraill dros Twitter @cycling_dragon neu dros e-bost, yddwyolwyn@gmail.com.


Diolch i Gareth Rhys Owen (@g_r_owen) am y llun clawr.

1 Mynydd Du

Llun: Gareth Rhys Owen (g_r_owen)

Graddiant cyson o 5% ond graddiannau mwyafsymol yn 9% ar y bachdro. Fodd bynnag, mae golygfeydd godidog i'w profi fel gwobr am goncro'r ddringfa.

2 Mynydd Betws

Graddiant llai cyson y tro hwn, gyda'r cyfartaledd yn 6% - ond rhannau cymharol hirion ar oddeutu 10% a'r graddiant uchaf yn 17%.

Ymunwch a mi Sul nesaf ar gyfer pennod olaf y gyfres pan fyddaf yn trafod dringfeydd y de ddwyrain.


Recent Posts

See All
bottom of page