top of page

Stepen Drws c2 p5: 5 o ddringfeydd gorau De Ddwyrain Cymru

Updated: Jan 6, 2020

Ar gyfer y bennod olaf yn y gyfres o ddringfeydd rhanbarthol, dyma ddringfeydd gorau ardal sy'n berthnasol i lawer iawn ohonoch - sef y De Ddwyrain. Joiwch!


Diolch i @RhysCaerdydd, @ifangwilym, @lefigruffudd a @courtmedlicott am y lluniau sy'n rhan o'r clawr.

1 Bedlinog

Diolch i @aledelwyn ac @ifangwilym am y lluniau.

"Artaith" yn ol y seiclwyr lleol ac mae'r ystadegau'n sicr yn cefnogi hynny - cyfartaledd o 7% ond yn gwyro tuag at 20% ar adegau.

2 Rhigos

Diolch i @lefigruffudd, @RhysCaerdydd a @courtmedlicott am y lluniau.

Un o ddringfeydd mwyaf poblogaidd yr ardal, mae'r Rhigos yn sicr yn her gyda chyfartaledd o 5% dros gyfnod o 5km. Mae golygfeydd gwerthfawr i'w profi ar y copa yn ogystal.

3 Bwlch y Clawdd ("Y Bwlch")

Diolch i @RhysCaerdydd, @Aled_Huw, @telorhedd a @courtmedlicott am y lluniau.

Un arall o hoff ddringfeydd y seiclwyr lleol - rhai proffesiynol yn eu mysg. Mae'r ddwy ochr yn 7km ar 5%, ond yr uchafswm o Dreorci (llun isaf) yn 17% a'r uchafswm o Gymer yn 10% (llun uchaf).

4 Mynydd Maerdy

Diolch i @lefigruffudd a @ifangwilym am y lluniau.

O Faerdy, mae'r ddringfa hon yn 1.7km ar bron i 8% ar gyfartaledd gyda rhannau 11% hefyd. Sialens i ddringwyr yn bendant.

5 Mynydd Caerffili

Diolch i @ifangwilym am y lluniau

Dringfa sy'n nodedig wedi iddo serennu yn Velothon Cymru a Thaith Prydain (gweler Nairo Quintana a Dan Martin yn y lluniau uchod). Mae'n 1.4km ar raddiant cyfartalog o 10% a'r uchafswm yn 18%. Digon i herio reidwyr gorau'r gamp.

 

Ac mae hynny'n dod a ni at ddiwedd y gyfres hon o ddringfeydd rhanbarthol Cymru - cyfres yr ydw i wir wedi mwynhau ei hysgrifennu a'i chreu dros y prynhawniau Sul diwethaf. Diolch i chi ddarllennwyr am eich cyfraniadau a'ch lluniau yn ystod y gyfres.


Trydarwch @cycling_dragon neu e-bostiwch yddwyolwyn@gmail.com os oes gennych unrhyw syniadau am gynnwys i'r blog yn y dyfodol.

Recent Posts

See All
bottom of page