top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Stepen Drws c1 p1: Gruffudd Emrys

Updated: Jan 6, 2020

Croeso i gyfres newydd 'Stepen Drws', diolch i gymuned wych seiclwyr Cymraeg ar Trydar. Y gobaith yw y bydd y gyfres yn cynnig y cyfle i ni rannu reids, dringfeydd a chaffis gorau Cymru.

Rwyf am gychwyn gyda myfi fy hun, a fy ardal sef Y Bala. Mwynhewch!


Reids


"Route 12"

Mae hwn yn reid gylch sydd un ai'n 25 neu 34 milltir (40 neu 55 cilomedr), gyda neu heb Lyn Efyrnwy a chaffi Artsian's wedi ei gynnwys.


Mae'n cynnwys Bwlch y Groes - o Lanuwchllyn yn y reid gwrthglocwedd ac o'r llyn yn y reid clocwedd - a'r Hirnant, o Rhosygwaliau yn y reid glocwedd (gweler llyfr Simon Warren, "100 Climbs") ac o'r llyn yn y reid gwrthglocwedd.


Un o fy reids estynedig cyntaf, ac mae'n parhau'n un o fy ffefrynnau.


"100km Oernant a Rhuthun"


Mae hwn yn gyfle arbennig i brofi ffyrdd gwledig gorau'r ardal ac hefyd goresgyn un o'r dringfeydd mwyaf poblogaidd, Bwlch yr Oernant (Horseshoe Pass).


Ar y ffyrdd cul rhwng Corwen a Llangollen y bydda i'n eu reidio yn yr achos yma, ond wrth gwrs mae modd defnyddio'r A5.


Hwn oedd fy 100km cyntaf, a'r unig un hyd yma, ond rwy'n gobeithio ychwanegu ato wrth baratoi am y Tour de Mon Canol flwyddyn nesaf.


Dringfeydd


Roedd yn amhosib i mi ddewis yr holl ddringfeydd yr oeddwn yn meddwl oedd yn haeddu lle, ond rwyf wedi penderfynnu ar y canlynol gan nad ydynt yn rhai amlwg. Mae ochrau eraill Hirnant a Bwlch y Groes, ynghyd a dringfa Melin y Wig, yn haeddu lle ond caent eu cynnwys mewn cyfrolau a blogiau eraill, felly rwyf wedi dewis y rhai sy'n llai amlwg efallai.


Dringfa Betws GG

Man cychwyn: Betws Gwerful Goch

Pellter: 700m

Graddiant cyfartalog: 11%

Uchafswm graddiant: 23%

Dringo (m): 86m


Mae hwn yn ddringfa fer ond dieflig tu hwnt, yr un sy'n fy mhrofi hyd eithaf fy ngallu. Wedi cyrraedd y groesffordd yn y pentref, dilynwch yr arwyddion am Gorwen, gan gychwyn ar y ddringfa a gadael tai'r pentref yn eich sgil.


Mae'r graddiant yn gostwng fymryn lleiaf a chyfle prin i ddal eich gwynt wedi cornel gas i'r chwith, a throi i'r dde lle mae'r graddiant ar ei uchaf hyd at 20~ i 25%. Parhau wnai'r artaith am ychydig, cyn cyrraedd y brig ac un o sialensau mwyaf yr ardal yn y bag.


Bwlch y Groes

Man cychwyn: Llanuwchllyn

Pellter: 8km

Graddiant cyfartalog: 4%

Uchafswm graddiant: 16%

Dringo (m): 346m


Mae hwn yn un o ddringfeydd hiraf yr ardal ond yn sicr ddim yr ochr fwyaf heriol - y ddringfa o Ddinas Mawddwy fyddai honno! Mae Bwlch y Groes mor arbennig i mi, ac rwyf mor lwcus o allu mynd i'r copa ac yn ol o fy stepen drws mewn ugain milltir. 'Dwi wedi'w gwblhau dros i hanner cant o weithiau!


Wedi dilyn yr arwyddion am Dinas Mawddwy, mae'r cic cyntaf yn ddigon i gynhesu'r coesau - ond tonnog yn unig yw'r hanner cyntaf. Fodd bynnag, mae'r ail hanner yn sialens gystal a gewch unrhyw le yn yr ardal, gyda'r graddiant yn cyrraedd 16% yng nghysgod y coed. Heibio'r wal fawr greigiog a thaclo'r clip olaf ac mae'r olygfa sy'n eich croesawu'n odidog.


Hirnant

Man cychwyn: Llyn Efyrnwy

Pellter: 3.9km

Graddiant cyfartalog: 6%

Uchafswm graddiant: 32% (?)

Dringo (m): 234m


Er mai'r ochr arall sy'n hoelio sylw nifer wedi'w ymddangosiad yn llyfrau Simon Warrern, y ddringfa ddieflig o Lyn Efyrnwy yw'r un hiraf a'r mwyaf o ddringo.


Y ffordd orau o daclo hon yw i'w rhannu bob yn cilomedr. Mae'r gilomedr gyntaf yn uffern, ac yma y profir y graddiant arallfydol cyn cyrraedd y logs. Mae'r ail gilomedr yn ddigon o orffwys cyn cilomedr 3, ag ac yntau yng nghysgod coed, does dim amheuaeth ei fod hefyd yn anodd iawn. Mae'r cilomedr olaf yn parhau i fod yn ddringfa, heb fod yn ormod o sialens.


Caffis

Moethus iawn yw cael caffi ar reid a seibiant i gael paned a chacen, a dyma fy hoff ddau.


Canolfan Beicio Mynydd Llandegla

Yr ansawdd gorau mewn caffi seiclo i mi ddod ar ei draws erioed, mae wir werth mynd yno ar ol taith ar draciau beicio mynydd Llandegla.


Artisan's, Llyn Efyrnwy

Dewisiadau ysgafnach sy'n berffaith ar gyfer seiclwyr - gyda chacennau, brechdannau a diodydd o safon uchel.

 

Ac felly dyna ni, y bennod gyntaf o 'Stepen Drws' wedi'w chwblhau! Gobeithio y gallwn gyfathrebu a chael o gwmpas 10 o bennodau dros y Gaeaf.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page