Wel, dyna naw diwrnod o rasio oedd yn cynnwys popeth. Mynyddoedd, gwibiau, drama, torcalon a diflastod - cynhwysion perffaith ar gyfer y Grand Tour cyntaf wedi'r clo mawr.
Byddwn ni'n trafod yn gryno yr wythnos ddiwethaf a'r wythnos i ddod gan edrych ar y prif gwestiynau ac atebion a golwg grib fan ar y frwydr am y crys melyn.
Yr wythnos ddiwethaf - 9 cymal mewn 9 brawddeg
Cymal 1: Diwrnod llawn drama achoswyd gan law mawr lle gwelwyd nifer yn casglu man anafiadau, wrth i Alexander Kristoff ennill y cymal a phrofi unwaith eto mai'r hen a wyr a'r ifanc a dybia.
Cymal 2: Cymal mynyddig cyntaf y ras a Julian Alaphilippe yn manteisio ar gwrs perffaith iddo fo i gymryd y cymal a'r crys melyn o grwp o dri o flaen Marc Hirschi ac Adam Yates.
Cymal 3: Caleb Ewan yn dangos sgil anhygoel i wau ei ffordd drwy ffabrig y peloton ar gyflymdra ddi-guro i ennill y cymal a phrofi mai fo yw'r gwibiwr cyflymaf ar y blaned.
Cymal 4: Diweddglo dringo cyntaf y ras i orsaf sgio Orcieres-Merlette; Jumbo Visma yn dangos cryfder ac Ineos yn dangos gwendid wrth i Roglic ennill y cymal.
Cymal 5: Sunweb a thren gref ond Wout van Aert yn fwy pwerus a chyflym na nhw i gyd - Alaphilippe yn colli'r melyn wedi cael ei gosbi am gymryd potel ddwr mewn man lle bo'n anghyfreithlon i wneud hynny.
Cymal 6: Cymal mynyddig ac Alexey Lutsenko yn ennill o'r dihangiad ond dim newidiadau yn sefyllfa'r crys melyn.
Cymal 7: Echelonau (yn sgil croes-sgilwyntoedd) a gwaith Bora-Hansgrohe yn chwalu'r ras - Pogacar a Landa yn colli amser - gyda Wout van Aert yn ennill ei ail cymal o'r echelon blaen.
Cymal 8: Nans Peters yn ennill o'r dihangiad; Pogacar yn adennill amser ond Pinot ac Alaphilippe yn cael eu diystyrru o'r frwydr am y crys melyn.
Cymal 9: Diwrnod hynod gyffrous yn y ras; Marc Hirschi'n treulio 90km ar flaen y ras cyn ymuno a'r grwp blaen (Roglic, Pogacar, Bernal, Landa) a gwibio i'r trydydd safle tu ol i Pog a Rog - Mollema, Martin, Bardet, Porte, Uran, Quintana yn colli 11 eiliad.
Rhagolwg yr wythnos i ddod - 6 cymal mewn 6 brawddeg
Cymal 10: Cymal gwastad fydd yn cael ei rwygo gan y croeswyntoedd wrth i'r reidwyr deithio o Il d'Oleron i Il de Re.
Cymal 11: Cymal tebyg iawn i cymal 10 o Chatelaillon-Plage i Poitiers.
Cymal 12: Fwy na thebyg yn ffafrio dihangiad llwyddiannus; cymal hira'r ras.
Cymal 13: Cymal pwysig a mynyddig iawn yn y Massif Central gyda diweddglo copa i Puy Mary.
Cymal 14: Cymal bryniog o Clermont-Ferrand i Lyon.
Cymal 15: Teithio o Lyon ar gymal mynyddig a phwysig gyda diweddglo copa i Grand Colombier.
Prif drafodaethau
Wout van Aert yw reidiwr gorau'r byd. Wedi ennill dau cymal mewn gwibiau - gan dorri'i gwys ei hun gan fwyaf - ac arwain peloton y ffefrynnau i fyny mynyddoedd mawrion. Ychwanegwch hynny at ei fuddugoliaethau yn Milano-Sanremo a Strade Bianche, a cewch ddarlun o reidiwr amryddawn a chyflawn iawn.
Dydi Julian Alaphilippe na Thibaut Pinot ddim yn reidwyr Grand Tour. Dau brif obaith y Ffrancwyr am fuddugoliaeth eleni - Alaphilippe yn ddisgwyliedig ddim yn gallu cystadlu ar ddiwrnodau olynol - a thrychineb anochel Pinot yn torri calonnau unwaith yn rhagor. Ond mi ddaeth hynny'n llawer cynt na'r disgwyl.
Caleb Ewan yw'r boi cyflyma' yn y byd. Dim lot i ychwanegu - perfformiad ardderchog ar cymal 3 ond heb gael llawer o gyfle i atgyfnerthu hynny eto.
Ychwanegwch Marc Hirschi i'ch rhestr o reidwyr ifanc anhygoel. I dreulio 90km ar eich pen eich hun ar flaen y ras mewn cymal mynyddig yn y Pyrenees, gyda brwydr danllyd am y melyn tu ol, rhaid dweud chapeau i Hirschi am berfformiad ar cymal 9, ond hefyd ar cymal 2 gydag Alaphilippe a Yates.
Y reidwyr sy'n gwneud y ras nid y cwrs/trefnwyr. Profodd cymal 6 i Mont Aigoual i fod yn un ddiflas rhwng y ffefrynnau er gwaetha'r eiliadau bonws oedd ar gael ar y Col de Lusette.
Mae eiliadau bonws yn cael dylanwad ar y cyffro. Ychydig o wrthddweud mewn cymhariaeth a'r pwynt diwethaf, ond ar cymal 9 roedd y frwydr am yr eiliadau bonws ar y Marie-Blanque yn ychwanegu sylwedd ar gyffro'r ras.
Sefyllfa'r crys melyn
Ar hyn o bryd...
Erbyn y diwrnod gorffwys cyntaf, dwi'n teimlo fel 'mod i wedi gallu hidlo i ddeg prif reidiwr yn y frwydr am y crys melyn. Dwi wedi'i rhannu nhw i tri uchaf, pump uchaf a deg uchaf. Yn fras, dwi'n credu bydd un o'r tri uchaf yn ennill - y pump uchaf mewn unrhyw drefn 2-5, a'r deg uchaf mewn unrhyw drefn 4-10. Dallt? Na? Dim bwys.
*gyda llaw, Pog ydi Tadej Pogacar a Rog ydi Primoz Roglic. Meistroli ysgrifennu cryno :-)
Tri uchaf
Primoz Roglic (melyn): Mae'n deg dweud fod Roglic wedi cadw'i gardiau'n agos i'w frest hyd yn hyn, ac er ennill cymal Orcieres-Merlette mae'n ymddangos nad ydi o wedi chwarae ei 'trump card' eto. Fodd bynnag, mi all y ffaith fod Tom Dumoulin wedi ei ddiystyrru o'r ras am y crys melyn fod yn fantais (rhoi cefnogaeth lawn iddo) neu fod yn anfantais (rhoi gormod o bwysau ar ei ysgwyddau). Mae'n debyg nad rhoi'r holl arweinyddiaeth i Roglic oedd y cynllun gwreiddiol, ond wedi diwrnod ddim cystal i Jumbo ddydd Sadwrn maen nhw wedi gorfod addasu'i cynlluniau. OND, rhaid cofio mai Rog yw'r unig un sydd heb gael diwrnod ddim cystal eto, ac mai fo sydd yn gorfod amddiffyn y crys melyn ar hyn o bryd.
Tadej Pogacar (+44"): Wedi rhywfaint o drafferth ar cymal 7 yn y croeswyntoedd, lle collodd gryn dipyn o amser, mae wedi naddu amser yn ol ar cymal 8 a 9 (eiliadau bonws dros Roglic) ac mae wedi edrych bron yn gryfach na neb arall. Yn ogystal, byddwn i'n rhoi 'mhen ar y bloc a dweud mai Pog ydy'r unig un sy'n gallu curo Rog yn y REC ar cymal 20, felly fo 'di 'newis i ar gyfer y fuddugoliaeth. *ochneidio'n uchel*
Egan Bernal (+21"): Er nad ydy Ineos wedi ymddangos ar eu cryfaf hyd yn hyn, mae Egan Bernal wedi reidio'n geidwadol ac yn glyfar i ddringo i'r ail safle ar y dosbarthiad cyffredinol. Cawn weld pa driciau sydd ganddo'n cuddio yn yr wythnos i ddod.
Pump uchaf
Nairo Quintana (+32"): Cafodd Nairo Quintana ddiwrnod gwych ddydd Sadwrn gan lwyddo i ddilyn ymosodiadau a reidio'n gryf iawn. Fodd bynnag, collodd 11 eiliad ac olwyn Rog ar cymal 9 sy'n ei roi mewn man lle mae angen adennill amser. Fodd bynnag, mae'n arbenigwr yn y croeswyntoedd ac yn dueddol o serennu a datblygu wrth i'r ras gyrraedd y rhannau hwyrach.
Guillaume Martin (+28"): Gobaith gorau'r Ffrancwyr erbyn hyn er gwaetha'r ffaith nad oes ganddo brofiad o orffen yn y deg uchaf mewn Grand Tour (12fed llynnedd). Mae wedi rasio mewn modd cyffrous ac ymosodol yn y Pyrenees a gobeithiwn weld mwy ganddo.
Deg uchaf
Romain Bardet (+30"): Wedi rasio'n dda i ffwrdd o'r pennawdau. Wedi fy synnu i'n fawr iawn; dwi wedi diystyrru Bardet ers ambell i flwyddyn bellach. Balch gweld rhywbeth arall i Ffrainc ei fwynhau.
Rigoberto Uran (+32"): Un arall sydd wedi bod yn reit dawel yn ystod yr wythnos gyntaf ond yn eistedd ychydig dros hanner munud tu ol i Rog. Mwynhau gwylio reidwyr EF yn rasio.
Miguel Angel Lopez (+1'15): Un sy'n reit siomedig o ystyried ei brofiad a'i oedran, cawn weld os gall o wella yn ystod yr wythnos i ddod.
Mikel Landa (+1'42): Roeddwn i'n synnu ei weld yn y grwp blaen dydd Sul, ond mae'n amlwg ei fod yn teimlo'n gryf dan arweiniad tim Bahrain-McLaren.
Richie Porte (+1'53): Wedi colli amser yn y croeswyntoedd ond yn llwyddo i gadw gyda'r prif ffefrynnau am y rhan helaeth o'r amser yn y mynyddoedd.
Felly yn yr wythnos i ddod, mae'n bur debygol y gwelwn ni fylchau ar cymal 10 ac 11 yn y croeswyntoedd, ac yna ar cymal 13 a 15 yn y mynyddoedd. Edrych ymlaen i fwynhau'r wythnos o rasio gyda chwi.
コメント