top of page

Dringfeydd Gorau Cymru: Marchlyn


Yn gynharach eleni, mi ges i fy nghomisiynu gan BBC Cymru Fyw i ysgrifennu erthygl am ddeg dringfa orau Cymru. Tipyn o dasg, ond drwy gyfuno rhestrau blaenorol yr oeddwn i wedi eu creu - y rhai mwyaf poblogaidd yn ôl recordiadau Strava, y rhai mwyaf eiconig yn ôl pleidleisiai a'r rhai uchaf - ro'n i'n fodlon fod y dringfeydd a ddewisiais yn deilwng o'u lle ar y rhestr.


Ond pam gadael hwnnw'n sefyllian ar y we, ag ambell baragraff yn unig i bob dringfa? Felly dyma benderfynu dynodi cofnod i bob un o'r deg ddringfa enillodd le.


Rydym ni eisoes wedi bod yng nghornel de ddwyrain Cymru i edrych ar y Tymbl ychydig wythnosau'n ôl, ond rŵan mae'n bryd neidio i'r gogledd orllewin at ddringfa Marchlyn.


Roedd gen i nifer o opsiynau o ran y ddringfa hon gan fod yna wahanol opsiynau o ran ei choncro.


Byddwn i wedi gallu cynnwys y dringfa i Marchlyn yn unig - hynny yw, lle mae'r ffordd yn cau i geir ac mae gofyn hoistio'r beic dros y giât hyd at y llyn. Byddwn i hefyd wedi gallu cynnwys hon a'r ddringfa i'r surge pool.


Ond yr opsiwn dw i wedi ei ddewis yw'r un sy'n cyd-fynd â'r ffordd y gwnes i ei dringo hi - sef y ddringfa 'yn ei chyfanrwydd' sy'n cynnwys dringfa Fachwen hefyd, gan ddechrau reit ar lan Llyn Padarn.


Mi gaiff y ddringfa i'r surge pool ddyledus sylw, peidiwch â phoeni!


Pellter: 7.8km (cwta 5 milltir)

Graddiant cyfartalog: 6.7%

Uchafswm graddiant: 15.9%

KOM: Ed Laverack 22:39 (y cyntaf i wneud erthygl â'r Ddwy Olwyn yn Ebrill 2019! https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/dyfodol-seiclo-proffesiynol-sgwrs-gyda-r-seren-e-rasio-ed-laverack)

QOM Lois Brewer 32:41

Aelodau Strava Y Ddwy Olwyn: Rhwng 29 munud a 50 munud


Mi wnes i ddringo i Marchlyn Mawr ar ddiwrnod o ddringo'n Eryri oeddwn i wedi ei gynllunio ers tro, gan ddechrau ochrau Caernarfon, dringo Drws y Coed a Nant Gwynant/Pen y Pas, cyn stopio yn Llanberis am ginio i baratoi am uchafbwynt y dydd.


Troi i'r dde oddi ar y gylchfan newydd sydd angen gyntaf er mwyn cyrraedd Pont Pen y Llyn, lle mae'n rhaid stopio am lun.



Troi i'r dde y cyfle cyntaf gewch chi wedyn a dechrau ar y dringo go iawn. Mae'n gymharol gysgodol, ac mae'r graddiant yn gyson os yn anghyfforddus, ac mae rhannau digon serth wrth ddynesu at ffigyrau dwbl. O bryd i'w gilydd, mae'r olygfa i'r dde yn agor ac o'ch blaen mae Llyn Padarn ac ysblander mynyddoedd Eryri i'w fwynhau hefyd.


Ar ôl parhau i ddringo drwy bentref Fachwen, mi gyrrhaeddir Lodge Dinorwig, lle mae gofyn troi i'r dde, ac yna troi i'r chwith yn syth, ar ddarn o lôn sy'n mynd â chi bron at droed dringfa Marchlyn. Mae'r graddiant yn gostegu tipyn go lew yma, ac mae'n gyfle i ymadfer rhwng dwy ran y ddringfa.


Daw cyffordd T mwy wedyn, lle mae angen troi i'r dde eto, ac wedyn hoistio'ch beic dros y giât.


Mae beth ddaw wedyn yn llonyddwch pur. O ran y ddringfa i Marchlyn, mae gofyn parhau'n unionsyth ac mae'r graddiant yn gyson o gwmpas 8 i 10% felly digon o her i gloi'r dringo.


Wrth i chi gyrraedd y copa, mi gewch chi olygfeydd penigamp yr holl ffordd i gyfeiriad Sir Fôn a draw at Ben Llŷn a thu hwnt (oni bai fod fy llygaid i'n fy nhwyllo ro'n i'n eithaf siŵr mod i'n gallu gweld Iwerddon a hithau'n ddiwrnod clir - mi geith rywun fy nghywiro i os ydy hynny'n annhebygol!).



Ond do'n i ddim cweit wedi gweld popeth yr oeddwn i'i eisiau gweld, ac felly roedd angen dychwelyd yn ôl i lawr ryw hanner ffordd a throi i'r chwith. Dyma'r ddringfa i'r surge pool, sy'n 3km o hyd ar gyfartaledd twyllodrus o 6%. Hynny oherwydd fod yr hanner cyntaf yn ddigon cyfforddus o gwmpas 4%, cyn i'r ail hanner godi'n serth yn gyson, a'r esgyniad o gwmpas 10%.


Mae'r wobr yn werth chweil fodd bynnag. Mi wna'i roi fy mhen ar y bloc a mynnu mai dyma'r olygfa orau gewch chi yng Nghymru ar feic ffordd.



Dringfa sy'n llawn haeddu ei lle ymhlith y goreuon.

Recent Posts

See All
bottom of page