top of page

Dringfeydd Gorau Cymru: Y Mynydd Du

Tanysgrifwch i dderbyn y cofnodion diweddaraf yn eich ebost, rhag ichi fethu dim byd! Cliciwch yma: http://eepurl.com/hnfWTb
 

Dyma ni wedi cyrraedd dringfa rhif tri; y drydedd ddringfa fel rhan o’r gyfres sy’n mynd ar ôl y dringfeydd hynny ddaeth i’r “brig” yn rhestr 10 Dringfa Orau Cymru, a ysgrifennwyd gennyf i y llynedd ar gyfer BBC Cymru Fyw.


Ar ddiwedd y cofnod mae 'na ddolen i'r ddwy ddringfa gyntaf yr ydw i wedi ysgrifennu amdanyn nhw a dolen i'r rhestr ei hun.


Dyma i chi ddringfa yr oeddwn i wedi bod yn ysu ac yn ysu i’w thaclo ers tro byd, a dwi’n ddiolchgar iawn am yr esgus mae’r gyfres hon yn ei roi i mi i fynd â’u ticio nhw oddi ar y rhestr.


Bu’r Mynydd Du yn gyson uchel ar y rhestri eraill oedd yn feini prawf ar gyfer Y Rhestr - yn gydradd nawfed â’r Rhigos o ran uchder, yn seithfed o ran y mwyaf poblogaidd yn ôl recordiadau Strava, ac yn bumed yn y bleidlais ar gyfer Dringfeydd Mwyaf Eiconig Cymru (priflythrennau bwriadol; urddasol iawn yw’r rhain).


A gallem anghofio’r rigmarôl yna i gyd gan gofio’i bod o’n ddigon adnabyddus beth bynnag - a Thro’r Gwcw yn gadarnle ar fap sawl un.


Daeth y cyfle i mi gael ei dringo ym mis Awst, pan y dewisais i wythnos wlyb i fynd ar daith beicbacio solo i ehangu fy ngorwelion.


Ar ôl aros dros nos yn Aberystwyth, a gorfod newid teiar ar y beic, mi ddechreuais i’n ddigon hwyrol ar fy nhaith ar hyd y lonydd cefn i Bontrhydfendigaid a Thregaron. Yn fanno, ces i gyfle am anadl fach a gwasanaeth cofiadwy iawn gan Coffi a Bara, cyn dechrau ar y ddringfa ar i fyny i anghysbellter Soar y Mynydd a Llyn Brianne. I lawr wedyn am Rhandirmwyn a chyrraedd Llanymddyfri lle ro’n i’n aros, ac wedyn penderfynu cario ‘mlaen am awr neu ddwy arall i gael concro’r Mynydd Du.


Cyn mynd ‘mlaen dim pellach, dyma’r ystadegau:


Pellter: 7.22km (4.5 milltir)

Graddiant cyfartalog: 5.3%

Uchafswm graddiant: 9.3%

KOM: Ed Laverack 15:58 (arch-ddringwr a’r sawl cyntaf gytunodd i wneud cyfweliad ar gyfer Y Ddwy Olwyn! https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/dyfodol-seiclo-proffesiynol-sgwrs-gyda-r-seren-e-rasio-ed-laverack)

QOM: Illi Gardner 19:07 (arch-ddringwraig arall a ffrind y blog, ewch i ddarllen y cyfweliad wnes i â hi wedi iddi dorri record Everesting y byd)

Aelodau Clwb Strava Y Ddwy Olwyn: Rhwng 23 munud a 50 munud.


Mae’n ddigon hawdd methu’r tro oddi ar stryd fawr Llangadog - wel, roedd o’n ddigon hawdd i mi fethu’r tro beth bynnag - ac er nad ydy’r dringo ‘go iawn’ yn dechrau am sbel, mae ‘na oleddf ysgafn ond nodedig wrth ddilyn trywydd yr Afon Sawdde ar yr A4069. Fy nghof i yw fod y ffordd yn eithaf coediog ac felly’n eithaf tywyll, er nad yw’n brysur mewn gwirionedd o ran traffig.


Mae’r goleddf cyson yma’n parhau am sbel cyn i chi gyrraedd croesffordd o fath ym Mhontarllechau lle mae arwyddion am Llanddeusant a Gwynfe, ac oddi yma ‘dech chi’n gwybod nad ydych yn bell o wir droed y ddringfa.


Dwi’m yn siŵr os ‘nes i ddychmygu’r peth, ond yn fy nghof i mae ‘na arwydd brown fel pe bai’n nodi dechrau’r ddringfa - wrth chwilio drwy Google Streetview ‘nes i ddim llwyddo i ddod o hyd iddo yn fanno chwaith. Ond ta waeth am hynny, mae’n bur debyg nad ydy hwnnw’n cyd-fynd â dechrau’r segment Strava beth bynnag.


Naill ffordd neu’r llall, o ba le bynnag mae’r dringo ‘go iawn’ honedig yn dechrau, mi fyddwch chi’n sicr wedi cael digon o gyfle i gynhesu o Langadog. Mae rhywun yn teimlo’r gwahaniaeth unwaith mae’r dringo ‘go iawn’ honedig yn dechrau, gan fod y graddiant i’w sylwi wedi cynyddu rhywfaint er yn aros yn gyson ar hynny.


Mae ‘na rywbeth eithaf cyfforddus am y graddiant, sy’n galluogi dyn i gymryd y ddringfa ar ei liwt ei hun, ar ei dempo’i hun - er wrth gwrs yn her i’w pharchu a hithau’n ddringfa gategori 2. Mae ‘na rywbeth eithaf cartrefol a chyfforddus hefyd am y modd mae’r ffordd yn culhau rhywfaint rhwng y gwrychoedd.


Ymhen ychydig, uwchben y gwrychoedd mae amlinell y mynydd ei hun yn dechrau ymrithio, ac o’r diwedd mae rhyw arwydd o linell derfyn, o fynd y ffordd iawn, a rhywbeth i anelu ato weddill y ddringfa.


Fel sy’n aml iawn yn digwydd ar ddringfeydd yng Nghymru (ac yn wir y tu hwnt hefyd), mae grid gwartheg yn dod â newid awyrgylch llwyr. Yn yr achos yma, rydym ni’n gadael y teimlad cul rhwng y gwrychoedd gyda dim ond cip ar y mynydd, ac yn cyrraedd man lle mae’r cyfan yn agor allan ac ystum yr heol yn glir o’n blaen.

Yn syth, mae’n teimlo bron fel byd gwahanol, a’r natur agored yn atgoffa dyn o sawl dringfa arall - rhai yng Nghymru ac yn fwy fyth rhai ar y cyfandir.


Onid ydy’r profiad yma’n crisialu gwefr dringo? Mynd mor uchel nes bod y tirwedd yn newid, yr aer yn newid? Hynny oll ar ein gwynt ein hun?


Mae Pont Clydach yn eich arwain yn ôl gan weithredu fel bachdro, gan ddangos golygfeydd tua’r gogledd ac i lawr y dyffryn, cyn i’r ffordd barhau a pharhau i’n harwain yn araf bach tua’r copa.

Mae’r ail fachdro - Tro’r Gwcw - yn newid cyfeiriad eto ac yn amlygu cefnlen fymryn yn wahanol, ac yn ein rhoi ni ar y leg ola’. Mae ‘na dipyn o waith dringo’n dal i fod, ond mae ‘na deimlad mwy melys bellach, a’r pedalu fymryn yn fwy pleserus o wybod fod y copa o fewn gafael.


Ceir ambell i faes parcio ar y chwith sy’n twyllo dyn i feddwl mai dyma’r copa, ond mae pen y bryn yn ddigon amlwg yn y diwedd, ac arwydd mawr brown (dwi’n sicr bod hwn yna am bod gen i lun ohono) i gael llun ar gyfer yr albwm. Heb anghofio golygfeydd gwych tua’r de.


Dyma fo’r llun, a hoel heb-fod-adre-ers-diwrnod-neu-ddau ar groen ‘y ngwyneb i…


A dyma’r vista.


Dwi'm yn siŵr os oedd 'na rywbeth am y ffaith am spontaneity y peth - mod i wedi gwneud penderfyniad digon digymell i gario mlaen at y Mynydd Du yn hytrach na bodloni ar waith y dydd yn Llanymddyfri - ond yn sicr iawn, mae'r Mynydd Du yn uchel iawn ar fy rhestr o hoff ddringfeydd bellach, a'r diwrnod hwnnw o reidio ymysg y rhai mwyaf cofiadwy.


3 dringfa wedi eu ticio, 7 ar ôl! Tybed pa un fydd nesaf?

 
Tanysgrifwch i dderbyn y cofnodion diweddaraf yn eich ebost, rhag ichi fethu dim byd! Cliciwch yma: http://eepurl.com/hnfWTb


Recent Posts

See All

Comments


bottom of page