top of page

Dringfeydd Gorau Cymru: Y Tymbl


Yn gynharach eleni, fe’m comisiynwyd gan wefan BBC Cymru Fyw i ysgrifennu erthygl ar ddeg dringfa orau Cymru, a thrwy gyfuno’r rhai bleidleisiwyd y mwyaf eiconig, y rhai mwyaf poblogaidd ymysg defnyddywr Strava a’r rhai uchaf, mi lwyddais i ddod â’r rhestr at ei gilydd. Gallwch ddarllen hwnnw drwy glicio ar y ddolen yma.

Felly, be o’n i’n meddwl y byswn i’n wneud oedd blaenoriaethu’r deg ddringfa hon, ac yna ysgrifennu cofnod am bob un yn unigol, a rhyddhau rhyw un neu ddau neu dri bob ‘tymor’ o’r blog. (Dyna sut mae fy amserlen yn gweithio, os y gwnewch chi bori ar y wefan, mi ddaw’r system yn amlwg).


Felly dyma ddechrau heddiw yng nghornel de-ddwyreiniol Cymru, a’r dringfa sydd wedi’i dringo fwyaf ymysg y pobl sy’n recordio hynny ar Strava.


Ar ôl bod ar ddiwrnod agored yn y brifysgol yng Nghaerdydd ddechrau mis Gorffennaf, roedd Dad a minnau’n aros mewn Premier Inn nid nepell o Lynebwy, ac mi ildiodd o’r cyfle i ymuno â mi ar y beic chwarae teg iddo fo er mwyn fy nilyn yn y car. Y cynllun gwreiddiol oedd seiclo o’r gwesty i’r Gelli Gandryll ar ôl dringo Mynydd Llangynidr, y Tymbl a Bwlch yr Efengyl. Ond wrth gwrs, the best laid plans o’ mice and men gang aft agley. Daeth hi i arllwys y glaw, ac ar ôl newid ym maes parcio Morrison’s, mi ddreifion ni adre’ a chyrraedd nôl jest mewn pryd i ddal dechrau gêm Cymru a De Affrica (yr un gynta’, lle gaethon ni gyd yn rhyfeddu ar ba mor agos oedden ni at ennill).


Gadewch i ni ddechrau gyda’r ystadegau.


Pellter: 4.64km (cwta 3 milltir)

Graddiant cyfartalog: 8.3%

Uchafswm graddiant: 12.2%

KOM: Edo Zardini 12:44 (ar gymal 3 o’r Tour of Britain yn 2014 oedd yn gorffen ar ben y Tymbl ar ôl dechrau yn y Drenewydd)

QOM Illi Gardner 15:42 (arch-ddringwraig a ffrind y blog, ewch i ddarllen y cyfweliad wnes i â hi wedi iddi dorri record Everesting y byd)

Aelodau Strava Y Ddwy Olwyn: Rhwng 19 munud a 40 munud.


Pe deuech o gyfeiriad Y Fenni neu Gofilon a Chrughywel, byddwch chi ar y B426 ac mae’n ddigon posib methu’r tro. Mae ‘na arwydd am Flaenafon yn cuddio’n rhywle, dilynwch hwn.


Dydy’r dringo ddim yn anodd yn syth o’r dechrau, mae ‘na rywfaint o gyfle i ymgyfarwyddo â’r ddringfa a’r tempo.


Mae’r ffordd ar y dechrau’n gul ac yn gysgodol, ond ddim y math o gysgod sy’n fy atal i rhag gwlychu. O’r nifer aruthrol o geir â phlatiau dysgwyr, dwi’n cymryd fod hwn yn rhan o un o routes y profion, ond be wn i.

Ar ôl dod allan o’r rhan sydd â choed bob ochr, mae ‘na ran go hir â thai bob ochr, cyn y tro pedol cyntaf, sydd eto’n gulach ac â gwrychoedd uchel. Pasio’r arwydd am derfyn cyflymder 60 i ddynodi diwedd y parth poblog, gwareiddedig, a’r graddiant yn dechrau cynyddu gyda hynny.


Wrth barhau drwy ran sy’n dal i fod yn gysgodol, dydy’r graddiant ddim yn gostegu dim. 10% yw’r graddiant yn gyson am ran helaeth o ganol y ddringfa, ac mae rhannau sy’n mynd uwchben hynny.


Wedi croesi’r grid gwartheg, mae’n dal i frathu gyda 3km o ddringo caled eisoes yn y coesau. Dydy’r dringo anodd ddim yn para lot hirach, ac wrth i’r ffordd fynd yn fwyfwy agored, ceir golygfeydd gwerth chweil dros rannau gwledig sir Fynwy tuag at Grughywel a thu hwnt.


Oddi yma hyd y diwedd, mae’r graddiant yn fwy goddefgar ac yn agosach at ryw 6% na’r 10% blaenorol. Does ryfedd bod hon yn cael ei thrin fel dringfa wych i rasio arni; yn gartref i bencampwriaethau hill climb Prydain. Dringo serth am y ddau draean cyntaf, cyn cyfle i wagu’r tanc ar eich ewyllys eich hun ar y rhannau uchaf.


Wrth ddynesu at ael y bryn mae pwll Pen Ffordd Goch ar y chwith ac aml i faes parcio ar gyfer ymwelwyr o bob anian, yn dod i gerdded neu hamddena ar gorsydd y Blorenge.

Un wib fach olaf, a dynodir y copa gan arwydd pwrpasol i seiclwyr, a’r ffin gyda bwrdeistref sirol Torfaen.


Rhwng bod y golygfeydd ac aer teneuach yn rhoi ymdeimlad o ddihangdod, yn ogystal â’r modd y gellir ei thaclo drwy roi o’ch gorau neu drwy gymryd pethau’n fwy hamddenol, yn sicrhau fod y Tymbl yn cynnig popeth y dylai dringfa dda ei gynnig.

Recent Posts

See All
bottom of page