top of page

Dydd Miwsig Cymru: Tiwns Tyrbo Newydd 2022


Mae'n union flwyddyn yn ôl, felly, ers i mi ryddhau cofnod o ganeuon Cymraeg i'w rhoi ar eich rhestr chwarae tyrbo i nodi Dydd Miwsig Cymru'r llynedd. Mae'r diwrnod wedi cyrraedd eto, ac felly dyma gyfle perffaith i ychwanegu caneuon newydd at y rhestr.


Does dim dwywaith ei bod hi wedi bod yn flwyddyn wych o ran cerddoriaeth yn y Gymraeg, fel mae'r rhestr islaw yn ei ddangos. Ond eto, detholiad yn unig o ganeuon i ffitio arddull a rhythm benodol sydd ar y rhestr. Ar ben y rhain, rydym wedi cael dau albwm gan Carwyn Ellis, albwm newydd gan Pys Melyn, Mr, Gruff Rhys a Kizzy Crawford ac EP gan Los Blancos i enwi ond llond llaw.


Dwi'n un sy'n ymddiddori yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, ac felly mae'n bleser gen i allu dynodi cofnod flynyddol iddo, gan obeithio y bydd 'na ddigon o gerddoriaeth addas i lenwi cofnodion am flynyddoedd i ddod.


Dolenni i Spotify sydd yma, ond wrth gwrs maen nhw ar gael ar wefanau eraill. A plis, gwnewch ymdrech i gefnogi'ch hoff artistiaid drwy brynu eu nwyddau - boed hynny ar wefan Bandcamp neu ble bynnag - neu fynd i ddigwyddiadau byw. Maen nhw'n haeddu pob cefnogaeth mewn marchnad anodd tu hwnt.


Felly dyma ni - detholiad o ganeuon wedi eu rhyddhau yn y flwyddyn ddiwethaf sy'n ffitio arddull a rhythm fydd yn addas ar gyfer sesiynau caled ar y tyrbo. Mae 'na gyfuniad o fandiau sy'n hen gyfarwydd yn ogystal â rhai mwy newydd ac anghyfarwydd.


Mwynhewch!


The Joy Formidable

Grŵp roc amgen o'r Wyddgrug ydy The Joy Formidable, sy'n canu'n bennaf yn Saesneg ond mae ambell drac iaith-Gymraeg ganddynt hefyd; y mwyaf nodedig ohonynt fyddai "Y Bluen Eira". Daeth eu halbwm diweddaraf, 'Into the Blue', allan ym mis Awst. O'r casgliad cynhwysfawr hwn o ganeuon, mae nifer o ganeuon oddeutu 75rpm, neu os am rhywbeth ar gyfer cadens uwch, mae "Gotta Feed My Dog" a "Back to Nothing" fymryn cyflymach na 90rpm.


Ciwb

Union flwyddyn yn ôl y trodd Ciwb o fod yn fideos o bedwarawd yn gwneud cyfyrs yn ystod y cyfnod clo i grŵp oedd yn rhyddhau cerddoriaeth pan y daeth 'Smo Fi Isie Mynd' - cyfyr o gan Edward H - allan i nodi Dydd Miwsig Cymru. Erbyn mis Gorffennaf, roeddent wedi cynhyrchu albwm cyflawn o gyfyrs o ddeg cân o gatalog Cwmni Sain, gan gydweithio ag artistiaid blaenllaw'r sîn bresennol. Ymysg y rhai sydd fwyaf addas ar gyfer y tyrbo mae 'Gwawr Tequila' (76rpm), 'Methu Dal y Pwysau' (70rpm) a 'Da Ni'm yn Rhan' (83rpm).


Y Cledrau

Ail albwm y band o Benllyn, 'Y Cledrau', yw Cashews Blasus, bedair mlynedd wedi i'r un cyntaf gael ei ryddhau. Maen nhw'n fand sydd wedi bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd, ac mae nifer o'u caneuon yn gyfarwydd ac yn boblogaidd. Naws hafaidd geir ar y cyfan ar yr albwm newydd, ond dybiwn i y bydd nifer ohonoch yn mwynhau rhythm 'Dal yr un un' (82rpm) neu 'Cerdda Fi i'r Traeth' (78rpm) ar y tyrbo.


Breichiau Hir

Reit, dyma ni. Y BAND ddylai fod ar restr chwarae tyrbo pawb. Wedi iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â’u caneuon megis 'Yn Dawel Bach', mi'r oedd tipyn o gynnwrf am eu halbwm cyntaf 'Hir Oes i'r Cof', a dydy o ddim yn siomi. Roc eithaf caled sydd yma, felly arddull berffaith ar gyfer y sesiynau caled sy'n gofyn am wydnwch a nerth. O ran y rhythm yn fwy penodol, mae'r teitl-drac (76rpm) a 'Mwynhau' (75rpm) ar gyfer tempo ychydig yn arafach, tra bo 'Y Pwysau Mawr', 'Glasoed Tragwyddol' (y ddau 80rpm), 'Beth Bynnag Sydd ar Ol' (83rpm) a 'Ni'n Hapusach' (86rpm) fymryn yn gyflymach ar gyfer cadens uwch.


Eädyth

Mae Eädyth yn artist sy'n sicr wedi gwneud ei marc ers y cyfnod clo yn enwedig, a hithau'n ennill Gwobr 2020 gyda'r Selar. Cyfres o senglau mae hi wedi eu rhyddhau i ni yn y flwyddyn ddiwethaf, y mwyaf diweddar yw 'Cymru Ni' gydag Izzy Rabey - trac sy'n hynod addas ar gyfer rhythm y tyrbo.


Sywel Nyw

Prosiect unigol Lewys Wyn, ffryntman y grŵp poblogaidd 'Yr Eira', yw Sywel Nyw, ac ar hyd y flwyddyn bu'n rhyddhau sengl newydd bob mis gan gydweithio ag artistiaid blaenllaw fel Mark Roberts y Cyrff, Glyn Rhys James o Mellt a nifer o artistiaid newydd fel Lauren Connelly neu'r pianydd Gwenno Morgan. Mae'r casgliad bellach i'w cael o dan yr albwm 'Deuddeg', ac o'u plith, y mwyaf addas i'r tyrbo fyddai 'Machlud' a 'Crio Tu Mewn'.


Papur Wal


Rhyddhaodd Papur Wal eu halbwm cyntaf yn 2021 yn dilyn rhyddhau senglau am rai blynyddoedd bellach. Yn 'Amser Mynd Adra', maen nhw'n cyfuno'r arddull y daethon ni'n gyfarwydd ag o gennyn nhw - yn gwyro'n fwyfwy tuag at arddull roc - gyda chyfeiriad newydd mwy 'slacker pop'. Er mai albwm ymlaciedig fydd yn berffaith ar gyfer après-vélo ym misoedd yr haf yw hwn, mae 'na draciau sy'n sicr yn addas ar gyfer y tyrbo - 'Meddwl am Hi', 'Haul Chwefror' a 'Rhwng Dau Feddwl' yw'r tri sy'n sefyll allan.


Thallo

Thallo yw'r artist nesaf ar y rhestr. Artist electronig, gan fwyaf, sydd fwyaf adnabyddus am ei fersiwn hi - ynghyd ag Ifan Dafydd - o 'Aderyn Llwyd'. Yn artist sy'n prysur gwneud enw iddi hi'i hun, mi ryddhaodd hi ambell i sengl - rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg - yn 2021. Yn eu plith, mae Mêl (87rpm) ac hefyd remix Nate Williams o'i chân 'Olwen' (91rpm).


BOI


Super-group newydd y sîn wnaeth ryddhau eu halbym 'Coron o Chwinc' yn 2021. Rhodri Siôn ac Osian Gwynedd o'r grŵp poblogaidd Beganifs/Big Leaves sy'n arwain y cyfan gyda Heledd Watkins o HMS Morris, Ifan Emlyn o Candelas a Dafydd Owen o Sibrydion yn cyfuno'u profiad i gynhyrchu'r albwm roc hwn. Mae nifer o ganeuon addas i'r tyrbo arno, ond y mwyaf addas fyddai 'Lladd Amser' (90rpm).


skylrk.


Dewis mwy anghyfarwydd sydd nesaf gyda phroseict diweddaraf y cyfarwyddwr o'r Gogledd, Hedydd Ioan. Mae'n dweud mai 'o ddyfnderoedd ryw freuddwyd fe ddaw skylrk', prosiect lle mae'n gobeithio cyfuno diddordeb mewn ystod eang o genres cerddorol gyda'i ddiddordeb mewn geiriau. 'dall.' yw'm hargymelliad tyrbo ar gyfer cadens o 81rpm.


Sŵnami

Band profiadol wnaeth ryddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf mewn amryw o flynyddoedd yn 2021. Rhyddhaon nhw ddau drac gyda'i gilydd, ac mi gafon nhw dipyn o gyhoeddusrwydd wedi iddyn nhw siarad am lwyddiant a chanu yn Gymraeg gyda'r BBC. Mae'r ddau yn gyfarwydd i wrandawyr selog Radio Cymru; ond o ran y tyrbo, 'Theatr' yw'r mwyaf addas o'r ddwy ar gyfer cadens o 74rpm.


Dafydd Hedd

Artist 18 oed o ardal Bethesda yw Dafydd Hedd, un sy'n fodlon gwthio ffiniau o ran cerddoriaeth iaith Gymraeg. Ac yntau eisoes wedi ennill yng Ngwobrau'r Selar rai blynyddoedd yn ôl, does dim amau ei dalent na'i barodrwydd i gynnig rhywbeth mymryn yn wahanol. 'Yr Ifanc Sy'n Gwneud Dim Byd' ydy'r EP ddaeth allan yn 2021, ac o blith y traciau, 'Pan Mae Fory'n Dod' yw'r gorau i'r tyrbo.


I KA CHING

Yn absenoldeb Gig Pafiliwn 'go iawn' - neu un fel yr ydym ni'n gyfarwydd ag o beth bynnag - mi gawson ni berfformiadau byw wedi eu ffrydio gan artistiaid blaenllaw sydd dan label I KA Ching. Yn eu plith mae cyfuniad o'r enwau profiadol a'r rhai sy'n fwy newydd ar y sîn; o ran y tyrbo, mae'n debyg mai 'Cliria dy Bethe' gan y Cledrau, 'Llwytha'r Gwn' gan Candelas a 'Straeon Byrion' gan yr Eira sydd fwyaf addas.


Candelas

Yn un o fandiau mwyaf blaenllaw y sîn ers bron i ddegawd, mae catalog eithaf helaeth Candelas yn berffaith ar gyfer yr arddull penodol yma. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mi wnaethon nhw ryddhau 'Mae'n Amser / We Think it's Time' sy'n drac bachog dros ben yn berffaith ar gyfer sesiynau'r tyrbo. A dim ond echdoe, mi wnaethon nhw ryddhau 'Gwylwyr', rhan o gasgliad newydd i nodi dengmlwyddiant label I KA Ching; casgliad i edrych ymlaen ato'n sicr.


KIM HON

Prosiect diweddaraf y cerddor a'r actor Iwan Fon ydy KIM HON, ac mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ar yr EP ddaeth allan yn 2021 yn gyfarwydd i ffans y band, ond maen nhw i gyd rwan mewn un lle cyfleus ar 'Stoppen Met Roken'. O ran y tiwns tyrbo, byddwn i'n argymell mai 'Twti Ffrwti' a 'Parti Grwndi' ydi'r ddau ddewis gorau, ac o'm mhrofiad i, maen nhw'n grêt ar gyfer cadw rhythm tra'n ffitio i'r naws mwy yn yr arddull roc.

 

Dyna ni, casgliad 2021-22 o diwns tyrbo i nodi Dydd Miwsig Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at guradu'r casgliad ar gyfer 2022-23 yr un adeg flwyddyn nesaf; mae 'na albwm newydd ar y ffordd gan 'Mellt' a gan I KA Ching, felly mae'n argoeli'n dda yn barod.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page