top of page

Fi, pandemig a dwy olwyn

Dyma erthygl y gwnes i ysgrifennu rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd ar gyfer fy mhapur bro lleol Pethe Penllyn, sydd wedi'i gynnwys yn y rhifyn ddiweddaraf.


Mwynhewch!

 

Helô ddarllennwyr Pethe Penllyn! Gobeithio ichi gyd gael Nadolig oedd yn heddychlon ac iach, a’n bod ni ‘gyd ar drothwy blwyddyn newydd well yn 2021. Gruffudd Emrys ab Owain ydw i, yn un ar bymtheg oed ac yn astudio ar gyfer graddau TGAU yn yr haf, lle byddaf yn cael fy asesu mewn modd na welwyd ei math o’r blaen. Bydd rhai ohonoch yn fy adnabod fel un bu’n cyfeilio i gorau’r ysgol ac yn cystadlu ar y piano mewn Eisteddfodau yn yr oes a fu lle nad oedd gweithgareddau felly’n peri gofid i iechyd cyhoeddus. Eraill efallai am fy nghyfraniadau blaenorol i Pethe Penllyn gyda ‘sgwennu creadigol o’r Eisteddfod Ysgol.


Mae’n debygol, fodd bynnag, nad ydych chi’n fy adnabod pan ‘dwi’n pedlo fy ffordd i lawr ffyrdd yr ardal, fel arfer mewn lliw oren llachar. Y rhan fwyaf o’r amser, seiclo sy’n mynd a fy mryd i. Buaswn i ddim yn dweud ‘mod i wedi cael fy ngeni i fewn i’r gamp, ond mor bell yn ôl ag ydw i’n gallu cofio, mae dwy olwyn wedi bod yn rhan o ‘mywyd i.


Dechreuodd y cyfan ar feic bach glas o siop Halfords a mynd ar hyd llwybr y llyn, i Langywer, ar hyd lwybr y Mawddach neu o amgylch llwybrau’r ganolfan feicio mynydd yn Llandegla. Mi es i i fanno am y tro cynta yn 2011 ar y beic bach glas, ac eleni, naw mlynedd yn ddiweddarach, mi gwblheais i fy reid ganrif (can milltir) cyntaf ym mis Medi. Mae’r diwrnod hwnnw, fel nifer fawr o ddiwrnodau eraill ar ddwy olwyn, ymysg yr atgofion mwyaf melys sydd gen i. Tros y Migneint i Lan Ffestiniog ac oddi yno i Faentwrog, ymlaen i Feddgelert a thros y bwlch i Lanberis, dros Fynydd Llandygai i’r arfordir gogleddol ac i Gonwy am ginio dros fwlch Sychnant, ac adref ar hyd lawr dyffryn Conwy drwy’r pentrefi i Lanrwst, Nebo, Pentrefoelas a Cherrigydrudion. Mi roedd y diwrnod hwn yn crynhoi popeth sy’n gwneud seiclo mor arbennig i mi, dod â theulu at ei gilydd, mwynhau yn yr awyr iach, digon o her a’r ymdeimlad ddiguro hwnnw o gyflawniad ar ddiwedd y dydd.


Peth arall sy’n rhan annatod o fywyd unrhywun sy’n rhodio deurodyr yw bwyd. Ar hyd y blynyddoedd, mae bwyd wedi cynnig y cymhelliant perffaith. Ar y dechrau gyda’r caffi gwych yn Llandegla neu hufen iâ yn George III, Penmaenpŵl. Ar hyd y daith, rwyf wedi mwynhau ystod eang o gacennau o bob lliw a llun yma yng Nghymru neu ar wyliau seiclo yn Sbaen ac yn Ffrainc. Mae’r gwyliau hynny’n uchafbwyntiau bob blwyddyn. Mae’r cyfle i gwrdd â phobl newydd o bob math a phob lleoliad ac i fwynhau tirweddau a thirluniau amrywiol yn Sierra de Grazalema yn Andalucía neu’r Alpau yng nghyffiniau llyn Annecy yn werthfawr iawn. Dan heulwen y cyfandir ydw i wedi cyrraedd uchelfannau megis y Col de la Madeleine ac yn parhau i gadw peth cysylltiad gyda seiclwyr brwd eraill o’r Swistir, yr Iseldiroedd, Cernyw a mwy.


Ond mae’m gwreiddiau’n ddwfn yma yng Nghymru. Cymaint yw fy angerdd tuag at seiclo y cychwynnais i fy mlog, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth, sef yddwyolwyn.cymru sy’n rhoi rhwydwaith arall i mi o rai sy’n rhannu fy mrwdfrydedd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ‘na bobl gyfeillgar iawn yn y swigen seiclo Gymraeg, a hawdd iawn yw cadw cysylltiad â hwy ar y cyfryngau cymdeithasol. Bob nos Fercher, dwi’n trefnu digwyddiad rhithiol lle mae seiclwyr o Sir Fôn, Penrhyn Llŷn, yn lleol i ni a’r holl ffordd i lawr i Geredigion, Sir Benfro a’r brifddinas yn ymuno â ni.


Mae ‘na amrywiaeth eang o gynnwys ar fy mlog. Dwi wedi derbyn cyfraniadau gan rai o’r rhwydwaith yma tuag at gyfres ‘Hoff Bump’ eleni, lle roedd rhai o’n seiclwyr mwyaf brwdfrydig ni yn dewis a dethol eu hoff leoliadau o fewn y wlad a thu hwnt. Gogoniant cyfres fel hyn oedd gallu ymestyn i gynulleidfa na sydd o reidrwydd yn seiclwyr, ond sydd â diddordeb mewn lleoliadau yng Nghymru. Ceir trafodaeth iach yn flynyddol am y rasys proffesiynol megis y Tour de France ac mae dadansoddi’r digwyddiadau dyddiol yn rhoi mwynhad i mi. Mae’r blog wedi agor drysau eraill i mi, a braint bob amser yw cael cyfrannu i raglenni Radio Cymru neu Newyddion S4C i drafod pynciau llosg y byd seiclo. Pan mae’r ysbrydoliaeth a’r cymhelliant yn brin, dwi’n atgoffa fy hun o’r pleser a gaf o gyhoeddi cofnod blog i’r gymuned seiclo Gymraeg a phwysigrwydd ymarfer y grefft o ysgrifennu. Os oes un person wedi dysgu neu fwynhau un peth oddi ar y blog ers i mi’i gychwyn ryw ddwy flynedd a hanner yn ôl, yna mae wedi bod yn llwyddiant.


Yma yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn o ddarllediadau blynyddol S4C ac arbenigedd Dewi Owen a Rheinallt ap Gwynedd ar bodlediad Y Dihangiad. Byddaf yn fythol ddiolchgar i’r pâr ac i’w cyd-weithwyr ar raglen Seiclo S4C am eu cefnogaeth gyson a hael o’m gwaith. Mae’r ffaith bod trafodaeth am seiclo yn y Gymraeg yn fy llenwi â gobaith am ddyfodol yr iaith.


Yn ystod y clo mawr, bûm yn helpu Mamgu, Enid, i glirio’r atic oedd yn llawn o drugareddau ac eiddo etifeddol fu yno ers degawdau. Ymysg y pethau oedd drymaf i’w cario i lawr oddi yno oedd pentyrrau o hen gopїau o Pethe Penllyn y bu fy Nhaid, y diweddar Dr Iwan Bryn Williams, yn cyfrannu atyn nhw. Mae’r papur hwn yn rywbeth y dylem fel ardal ei drysori, ac yntau’n gofnod gwerthfawr iawn o’n diwylliant a’n hanes. Hir oes i Pethe Penllyn.

 

I gloi, byddwn i'n hynod ddiolchgar pe baech chi'n fodlon ateb yr holiadur canlynol. Ddylai o ddim cymryd 2 funud a does dim angen gwybodaeth bersonol o gwbl. Diolch!


Recent Posts

See All
bottom of page