top of page

4 peth i'w gwylio yn De Ronde 2021

Dwi'n ymwybodol fod nifer fawr o ddarllennwyr Y Ddwy Olwyn yn ystyried De Ronde van Vlaanderen (Taith Fflandrys, neu the Tour of Flanders) fel eu hoff ddiwrnod, hoff ras ar y calendr seiclo proffesiynol.


Mae'n ddigon hawdd gweld pam. Dyma ras gyfoethog sydd wedi rhedeg ers 105 o flynyddoedd ac wedi dal sylw'r cefnogwyr seiclo ers degawdau diolch i'r coblau, hellingen*, diwylliant a'r berw gwyllt o gefnogwyr sydd yn llenwi ochrau'r ffordd.


Rydym ni felly wedi rhoi seren o amgylch, wedi uwcholeuo, wedi cylchu y 4ydd o Ebrill ers tro.


Ddydd Sul yma, bydd peloton y dynion a peloton y menywod yn cyrraedd Fflandrys, a dyma i chi bum peth i'w gwylio yn y gofnod hon.


Ond, heb wybod sut i'w gwylio, sut allwch chi wylio'r pethau allweddol hyn?


Yn ddigidol - heb hysbysebion

08:40 - 18:00 ar Eurosport Player

08:20 - 18:00 ar GCN+, gan gynnwys rhaglen ddadansoddol


Ar y teledu

08:55 - 18:00 ar Eurosport 1


*hellingen yw'r dringfeydd byrion, serth a choblog sy'n poblogi heolydd Gwlad Belg

 

Tarddbwyntiau ymosodol


Byddai'n bosibl dweud fod goroesiad y cymhwysaf (survival of the fittest) yn ddisgrifiad dilys o De Ronde. Er nad ydy'r proffiliau union wedi'i rhyddhau eto, disgwylir y patrwm arferol.


Gall ymosodiadau ddigwydd ar unrhyw bryd ac mae'n bosibl iawn y daw detholiad allweddol ar y Muur van Geraardsbergen (y Kapelmuur) gymaint a 100km o'r llinell derfyn yn ras y dynion.


Hidliad parhaus ddisgwylir yn y ddwy ras ar yr hellingen terfynol. Y rhain yw hoelion wyth De Ronde; Koppenberg, Steenbeekdries, Taaienberg, Kruisberg a'r par allweddol - Oude Kwaremont a'r Pateberg.


Bydden i'n sicr yn argymell i chi wylio cymaint o'r ras a phosib.


Ar dân


O safbwynt y dynion, y tri prif ffefryn fydd pawb arall yn gorfod eu curo fydd Wout van Aert, Mathieu van der Poel a Julian Alaphilippe/Deceuninck Quick-Step. Ie, y tim cyfan, ond mwy am hynny yn y man.


Mae'n bosib iawn y gallwn ni weld 'rematch' o'r hyn ddigwyddodd llynnedd pan frwydrodd y drindod uchod yn erbyn ei gilydd, ond damwain Alaphilippe yn hidlo'r grwp i ddau a van der Poel yn curo van Aert o fodfeddi.


Wout van Aert sy'n ymddangos i fod gyda'r coesau gorau ar hyn o bryd wrth edrych ar ei fuddugoliaeth yn Gent-Wevelgem yr wythnos diwethaf a'i bodiwm yn Milano-Sanremo.


Ond cofier hefyd fod Mathieu van der Poel wedi gorffen yn 3ydd yn E3, yn 5ed yn Milano-Sanremo ers ei berfformiadau arwrol yn Tirreno Adriatico.


Rhwng y tri ohonyn nhw, mae'r cwestiwn marc mwyaf nesaf at Julian Alapihlippe, sydd heb gyrraedd y deg uchaf ers ennill cymal 2 Tirreno Adriatico. Cawn glywed mwy am y tim yn y rhan nesaf.


O ran y menywod wedyn, mi drafodwn ni bwer goruchafol SD Worx yn y man ond gallwn edrych ar rasys yr wythnos hon i gael blas ar rai o'r ffefrynnau mawrion eraill fydd yn ceisio atal y tim o'r Iseldiroedd.


Penderfynodd SD Worx beidio a mynd i Dwars Door Vlaanderen gan nad ydy hi'n ras WorldTour, ac yn sgil hynny gwelson ni Annemiek van Vleuten a Kasia Niewiadoma yn torri'n rhydd.


Van Vleuten yn drech na Niewiadoma ar y llinell derfyn - ei buddugoliaeth gyntaf o'r tymor a'r cyntaf iddi yn lifrai Movistar, wrth i gyfnod sylweddol Canyon-SRAM heb fuddugoliaeth barhau.


Un arall o reidwyr mwyaf profiadol y peloton gafodd ei buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn Gent-Wevelgem, wrth i Marianne Vos gipio buddugoliaeth gyntaf erioed tim Jumbo-Visma.


Rhaid nodi hefyd perfformiadau Soraya Paladin ac Elisa Longo Borghini oedd yn edrych yn gryf tu hwnt, ond doedd dim digon ganddynt i gadw'r peloton draw.


Timau cryfion


Y tim i'w guro, heb os, yn y clasuron eleni yw SD Worx. Maen nhw eisoes wedi cipio buddugoliaethau nodedig drwy Chantal van den Broek-Blaak (Strade Bianche) ac Anna van der Breggen (Omloop Het Nieuwsblad) gyda thactegau goruchafol.


Yn rhan o'u carfan i De Ronde hefyd mae Jolien d'Hoore, Amy Pieters a Christine Majerus - reidwyr sydd eisoes wedi cipio un fuddugoliaeth yr un yn 2021.


I ychwanegu at hynny, mae Pieters wedi gorffen ar y podiwm deirgwaith a d'Hoore ddwywaith, tra bydd yr Eidalwraig Elena Cecchini yn opsiwn dilys iddynt hefyd.


Troi'n sylw at y dynion a thim sydd wedi meddiannu'r clasuron ers blynyddoedd maith sef Deceuninck Quickstep. Er iddynt beidio a chael diwrnod llewyrchus iawn yn Gent-Wevelgem, roedd eu perfformiad yn E3 yn argyhoeddiadol tu hwnt o safbwynt dactegol.


Roedd cryfder Kasper Asgreen yn amlwg wrth iddo gipio buddugoliaeth unigol, gyda'i gyd-reidiwr Florian Senechal y cyflymaf o'r grwp hanner munud tu ol. Llwyddodd Zdenek Stybar i orffen yn bumed yn ogystal.


I gyfoethogi'i hopsiynau hyd yn oed ymhellach, bydd Yves Lampaert, Tim Declercq a Dries Devenyns ar y rhestr ddechrau, heb anghofio wrth gwrs Julian Alaphilippe sydd eisoes wedi'i grybwyll.


Y gweddill


Fel sydd wedi'i grybwyll ar y blog yn ddiweddar, mae safon y peloton eleni yn uchel tu hwnt, a thrwy hynny mae rhestr hirfaith o reidwyr fydd yn siwr o gael dylanwad mawr ar y canlyniad.


Mi ddechreuwn ni gyda Trek-Segafredo, sydd wedi profi'i cryfder nhw fel uned eleni yn barod - ac mae buddugoliaeth wych Jasper Stuyven yn Milano-Sanremo yn ffres yn y cof. Yn ogystal, reidiwr ddangosodd ei allu gwirioneddol am y tro cyntaf yma yn De Ronde ychydig flynyddoedd yn ol oedd Mads Pedersen, fydd yn gobeithio mynd gam ymhellach o'r ail gafodd bryd hynny eleni.


Dangosodd Oliver Naesen ei allu yn E3 wythnos diwethaf, un hanner yn neuawd o arweinwyr AG2R Citroen gyda Greg van Avermaet.


Un synnodd nifer yr wythnos hon oedd Dylan van Baarle gyda'i fuddugoliaeth yn Dwars door Vlaanderen, fydd yn ei saethu i frig olyniaeth Ineos ar gyfer De Ronde. Rydym ni wedi'i gweld nhw'n profi gwerth cryfder mewn niferoedd yn y clasuron, felly gallwn ddisgwyl y bydd Owain Doull, Luke Rowe, Michal Kwiatkowski a/neu Tom Pidcock yn agos at flaen y ras.


Peter Sagan a Nils Politt fydd yn arwain Bora (y naill yn ennill yn Catalunya yn ddiweddar), tra bydd Alberto Bettiol (EF Nippo) yn awyddus i atgyfnerthu'i fuddugoliaeth yma yn 2019.


Gwelir barau all fod yn ddylanwadol mewn ambell i dim; er enghraifft yn DSM (Tiesj Benoot a Soren Kragh Andersen), UAE (Alexander Kristoff a Matteo Trentin) a Groupama-FDJ (Kevin Geniets a Stefan Kung).


Mae'n werth crybwyll ambell i enw arall fel Niki Terpstra, Michael Matthews, Sep Vanmarcke, Tim Wellens, John Degenkolb a Sylvain Dillier ond mewn gwirionedd deg uchaf fydd eu uchelgais nhw.


O ran y menywod, mae'r prif ffefrynnau wedi cael eu crybwyll yn barod, ond dylid cofio am rai o'r enwau canlynol sydd wedi argyhoeddi'r tymor hwn ac yn y gorffennol.


Ymysg y rhai sydd eisoes wedi ennill y ras yn y gorffennol fydd yn herio eleni mae Lizzie Deignan, Ellen van Dijk (y ddwy o Trek) a Marta Bastianelli (Ale).


Opsiwn arall i Ale fydd Marlen Reusser ac yn cefnogi Niewiadoma yn Canyon-SRAM bydd y chwiorydd Barnes ac Alena Amialiusik.


Mae dwy yn Groupama-FDJ Nouvelle Aquitaine sydd wedi profi eu gallu yn y ras hon o'r blaen sef Cecile Uttrup Ludwig a Marta Cavalli, tra bo tair reidiwr sydd wedi bod yn gryf y tymor hwn gan Movistar yn Jelena Eric, Emma Norsgaard a Leah Thomas.


Dau dim arall cryf yw Bike-Exchange (Grace Brown, Sarah Roy, Amanda Spratt) a DSM (Floortje Mackaij, Juliette Labous, Liane Lippert), tra dylid cadw llygad ar Lisa Brennauer, Lauren Stephens ac Elisa Balsamo wedi'i perfformiadau yn Gent-Wevelgem.


Flamme Rouge


Crynodeb o ffefrynnau ras y dynion

*****Wout van Aert, Mathieu van der Poel, Julian Alaphilippe

****Kasper Asgreen, Jasper Stuyven, Oliver Naesen

***Florian Senechal, Zdenek Stybar, Mads Pedersen, Dylan van Baarle

**Soren Kragh Andersen, Alberto Bettiol, Peter Sagan, Greg van Avermaet

*Michal Kwiatkowski, Nils Politt, Matteo Trentin, Tiesj Benoot, Stefan Kung


Crynodeb o ffefrynnau ras y menywod

*****Anna van der Breggen, Chantal van den Broek-Blaak

****Annemiek van Vleuten, Kasia Niewiadoma, Marta Bastianelli, Marianne Vos

***Cecile Uttrup Ludwig, Emma Norsgaard, Ellen van Dijk, Amy Pieters, Jolien d'Hoore

**Lisa Brennauer, Lauren Stephens, Elisa Balsamo, Marta Cavalli

*chwiorydd Barnes, Floortje Mackaij, Grace Brown, Lizzie Deignan


RHAGFYNEGIADAU


Ras y dynion: WOUT VAN AERT

'Outsider': SOREN KRAGH ANDERSEN


Ras y menywod: ANNA VAN DER BREGGEN

'Outsider': EMMA NORSGAARD

Recent Posts

See All
bottom of page