top of page

Cenhedloedd Seiclo: Yr Ariannin


Wrth i'r Vuelta a San Juan, ras sy'n tyfu ar gryn gyflymder gan ddenu enwau mawrion yn flynyddol bellach, fynd rhagddi'r wythnos hon am y tro cyntaf ers cyn y pandemig, ro'n i'n credu fod hynny'n ddigon o esgus i fynd ar ôl cysylltiadau seiclo cenedl arall.


Dwi'n credu'n wreiddiol y bwriad oedd canolbwyntio ar 'gadarnleoedd' seiclo ar gyfer y gyfres hon, ond erbyn hyn dwi'n gweld gwerth a diddordeb yn cymryd golwg ar rai llai amlwg.


Cofnodion eraill y gyfres


Dydw i heb gael cofnod ar Ffrainc na'r Eidal na Sbaen na'r Iseldiroedd, ond eto'n penderfynu ysgrifennu cofnod ar Yr Ariannin.


Hynny er gwaetha'r ffaith mai dim ond ddwywaith mewn deuddeg mlynedd y mae unrhyw Archentwr wedi ennill ras yn World Tour y dynion - Maximiliano Richeze yn ennill yn Nhwrci yn 2018 ac yn y Swistir yn 2016. Does dim Archentwr wedi ennill cymal mewn Grand Tour ers i Juan José Haedo ennill cymal o'r Vuelta yn 2011.


O ran y menywod, mae'r buddugoliaethau'n brinach byth - does dim Archentwraig wedi ennill ras y tu hwnt i'w cenedl hyd y gwela' i.


Ond er hyn oll, mae lle i gredu fod yr Ariannin yn 'genedl seiclo sy'n datblygu' - a bod bỳg seiclo De America yn lledu tua'r de o Golombia ac Ecwador.


Patagonia

Ffilm GCN+ ym Mhatagonia gyda James Lowsley-Williams a Mark Beaumont (llun IMDb)


Mi ddechreuwn ni fodd bynnag y tu hwnt i'r sffêr broffesiynol ac ym Mhatagonia.


Er fod Patagonia wedi ennyn sylw a thanio dychymyg teithwyr ers blynyddoedd, mae'n ymddangos pe bai ei ymwybyddiaeth fel cyrchfan i seiclwyr yn beth gweddol newydd.


Dau route sy'n cael ei ddilyn gan seiclwyr gan amlaf, Ruta 40 yr Ariannin neu Carretera Austral Chile. Mae gwynt yn elyn pennaf i seiclwyr ar y naill a'r llall, ac mae'n debyg mai cyfuniad o'r ddau yw'r delfrydol gan groesi o Esquel yn yr Ariannin ar draws yr Andes i Futaleufu yn Chile.


Beicbacio gwyllt yw'r apêl, ond mae'n debyg fod newid ar droed wrth iddyn nhw fentro gosod tarmac ar rannau helaeth o'r routes.


Yng nghyd-destun yr Ariannin fel cenedl seiclo felly, mae'r bwrlwm o amgylch seiclo yno ac apêl o'r newydd i seiclo-dwristiaid yn sicr o roi hwb hegar i statws y gamp yno.


Vuelta a San Juan

San Juan wedi'i uwcholeuo ar fap o'r Ariannin. (Llun Wikipedia)


Mae'r Vuelta a San Juan, yn naturiol ddigon, yn digwydd yn rhanbarth San Juan yr Ariannin.


Roedd y ras yn un amatur tan 2017 pan benderfynodd Llywodraeth San Juan ddarparu'r cyllid angenrheidiol i roi'r ras ar galendr proffesiynol yr UCI. Yn ail-strwythuriad categorïau'r rasys yn 2020, cadwodd y ras ei lle yn yr ail haen o rasys.


Mae'r ras yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac yn denu reidwyr o'r radd flaenaf sy'n awchu i brofi'u coesau ar ddechrau tymor fel hyn; Miguel Ángel López, Remco Evenepoel ac Egan Bernal i enwi ond tri o'r dringwyr amlycaf.


Un o'r prif resymau am hynny yw'r diffyg pwysau a bwrlwm sydd yn amgylchynnu'r ras o'i gymharu â'r Tour Down Under yn Awstralia.


Yn ddiau, mae cael ras o'r safon yma sy'n denu reidwyr o'r safon yma yn mynd i gael effaith aruthrol ar seiclo yn y genedl, yn enwedig wrth ystyried ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o reidwyr.


Y gwendid amlwg wrth gwrs yw'r diffyg ras cyfatebol i fenywod, ac ymddengys nad ydy'r un datblygiad yn cael ei wneud ar ochr fenywaidd y gamp yn y genedl.


Y llwybr i'r brig

Germán Tivani (llun CyclingNews)


Yn ôl Maximiliano Richeze, y prif wahaniaeth rhwng yr Ariannin ac Ewrop o ran datblygu seiclwyr yw'r tirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'r tirwedd yn wastad, a phrin yw'r cyfleon i feithrin sgiliau dringo yn y wlad.


Ar gyfer hynny, mae rhanbarthau San Juan a Phatagonia yn opsiynau prin ar gyfer y bryniau a'r mynyddoedd.


Felly, yn draddodiadol, mae seiclwyr mawr eu bri'r genedl fel Richeze wedi bwrw'u prentisiaeth ar y felodrôm, ond y gobaith yn awr yw y bydd y Vuelta a San Juan yn golygu y bydd y rhod yn troi tua'r tarmac.


Mae'n parhau i fod yn hynod anodd i seiclwyr ifanc sy'n dyheu am gael gwneud eu marc ar lefel ryngwladol i wneud y cam mawr o symud i Ewrop. Mae hyn yn fater cyffredin ar draws y byd - clywir sôn amdano gan Americanwyr ac Awstraliaid er enghraifft - ond mae Richeze hefyd yn credu fod cymeriad pobl o Dde America yn golygu ymlyniad clòs at eu teuluoedd a'u cymunedau.


Mae'n fater o bosib, fel yng Ngholombia, o gael y bêl yn rowlio, o greu llif o reidwyr sy'n mudo i Ewrop er mwyn adeiladu gyrfaoedd o fewn y gamp. Bydd y Vuelta a San Juan yn gymorth mawr yn hynny o beth, heb os.


Gallwn bwyntio at un enghraifft yn barod. Enillodd Germán Tivani gymal o'r ras yn 2019, ac wedi hynny, cafodd ei fachu gan dîm UAE fel stagiaire (reidiwr dan hyfforddiant). Tawelodd pethau rhywfaint wedyn, ond erbyn hynny, mae wedi ennill ei le ar dîm Corratec o'r Eidal; tîm fydd yn ymddangos ar linell ddechrau'r Giro d'Italia eleni.


Bydd y newidiadau ddim yn digwydd dros nos, a dydy'r angen i ohirio rhediad 2021 a 2022 o'r ras oherwydd Covid heb helpu, ond yn anad dim, mae'n fater o amser nes y byddwn ni'n gweld ffrwyth y datblygiad ar lefel ryngwladol.


Ffynonellau

Recent Posts

See All
bottom of page