top of page

Mwy o ddringfeydd diarffordd Cymru


Ar gyfer cofnod yr wythnos yma, mi gawn ni ddilyniant cofnod gwreiddiol oedd yn cynnwys pump o 'Ddringfeydd Diarffordd Cymru'.


Dyma wnes i ysgrifennu i ddiffinio dringfeydd 'diarffordd' bryd hynny, a dwi'n meddwl ei fod o'n ddigon da i'w ailgylchu:


Mae 'na rywbeth arbennig am ddringfa diarffordd. Dringfeydd nad ydych chi'n dod ar eu traws ar hap a damwain. Mae'n rhaid i chi gynllunio'r reid yma - mynd i'w concro yn unswydd. Yn aml iawn, mae'r gwobr am wneud hynny'n werthfawr.


Yn fy marn i, mae'r rhain ymysg y gorau y gallwch eu gwneud. Maen nhw'n dawel - oddi wrth heolydd prysur - ac yn cynnig ymdeimlad perffaith o ddihangdod.


Mae dringfeydd dead-end yn ffordd arall o ddisgrifio'r dringfeydd hyn. Dydyn'hw ddim yn bodoli ym mhobman, ac felly dydy sgôp y cofnod yma ddim yn eang iawn.


Ond doedd y cofnod gwreiddiol ddim yn cynnwys dim un ddringfa i'r de o Flaenau Ffestiniog.


Dwi wedi llwyddo i ddod o hyd i ddau y tro 'ma!


Heb oedi ymhellach, co ni off.


Pen y Gogarth

Iawn, ok. Falle nad ydy'r ddringfa hon cweit beth oeddech chi'n disgwyl ei weld ar y rhestr o ddringfeydd 'diarffordd'. Dydy hi ddim cweit yn cyfleu'r ddelwedd 'dawel oddi wrth lonydd prysur', ond eto, mae'n cwrdd â'r ddau brif faen prawf, sef 'dead-end' a'r angen i fynd yn unswydd. Er fod Pen y Gogarth yn adnabyddus ers tro, dwi'n credu fod y frwydr danllyd 'na gawson ni rhwng Wout van Aert a Julian Alaphilippe ar y cymal arbennig 'na o'r Tour of Britain llynedd yn sicr yn anfarwoli'r ddringfa. I'w gyrraedd, rhaid bod yn wyliadwrus yng nghanol Llandudno; dydy'r drofa ddim nepell o'r Pier, trowch ar Ffordd Tŷ Gwyn ac arhoswch arno fo. Mae'r hanner cyntaf yn dipyn anos na'r ail, gan fod â graddiannau'n dynesu at 20%, a'r brathiad mwyaf ar y gornel siâp S. Mae'n lleddfu rhywfaint yng nghanol y ddringfa lle mae'r ffordd o'r gylchdaith yn cwrdd (hwn yn ddringfa o lyfr Simon Warren hefyd), cyn drag olaf i'r maes parcio ar y copa yn ôl o gwmpas 10 ac 11%. Dyma'r linc i'r segment ar Strava: https://strava/segments/2147570



Marchlyn Mawr

Ar gyfer y cofnod cyntaf o ddringfeydd diarffordd, mi wnes i annog y darllennwyr i gysylltu â mi drwy ebost neu Twitter gyda chwynfannau blin am y rhai oedd wedi eu hepgor. Rŵan, dwi'n synnu'n fawr na wnaeth unrhyw un sôn nad oedd dwy ddringfa Marchlyn ar y rhestr, achos dwi'n meddwl ei bod hi'n sgandal mod i wedi'i hepgor nhw! Ond, â bod yn onest, ers hynny, mi'r ydw i wedi cael y cyfle i'w dringo ac felly yn medru siarad â mwy o gymhwyster nag o'r blaen. Y ffordd orau, yn fy marn i, o'u dringo yw dechrau ar lan Llyn Padarn. Trowch oddi ar y gylchfan newydd, dros Bont Pen y Llyn (stopiwch am lun, wrth gwrs), ac wedyn troi i'r dde y cyfle cyntaf gewch chi. Dal i ddringo drwy Fachwen, troi i'r dde ar y gyffordd T wrth Lodge Dinorwig, a throi i'r chwith wedyn. Cyffordd T mwy wedyn, troi i'r dde eto, ac wedyn hwpo'ch beic dros y giât. Llonyddwch pur. Mae gennych chi wedyn ddau ddewis; cario 'mlaen ac mi gyrrhaeddwch chi Marchlyn Mawr a golygfeydd tua sir Fôn ac Iwerddon hyd yn oed ar ddiwrnod clir, neu ryw hanner ffordd i fyny, trowch i'r dde, ac mi gyrrhaeddwch chi fan arbennig gyda golygfeydd - ymysg y gorau i mi eu gweld yng Nghymru - dros Lyn Padarn, Moel Eilio, Moel Cynghorion, Y Wyddfa etc etc. Rhowch y rhain ar frig eich rhestr. Segment Strava (Fachwen a Marchlyn): https://www.strava.com/segments/15049111. Segment Strava (Surge Pool): https://www.strava.com/segments/14608560


Allt yr Wyddfa

Dygwyd y llun oddi ar Komoot. Diolch i Dyfed Thomas am argymell hwn; dringfa ddiarffordd os welish i un erioed! Dim sôn am unrhyw segment Strava nac unrhywbeth, felly byddwch chi'n sicr yn y gwylltineb. Er, mae'r rhan gyntaf yr un fath â'r llwybr cerdded o Lanberis i gopa'r Wyddfa. Felly trowch ar Stryd Fictoria yn Llanberis, cario 'mlaen heibio Caffi Penceunant Isaf (Caffi Steffan y'i gelwir, mae'n debyg) hyd at giât y mynydd.


Cwm Teigl

 minnau'n byw yn y Bala, mae'n rhyfeddol â dweud y gwir nad ydw i na'r seiclwyr eraill yr ydw i'n eu hadnabod wir yn gyfarwydd â'r ddringfa hon. Llai na 350 o bobl sydd wedi'i choncro a'i recordio ar Strava. Grŵp o ymwelwyr ddaeth â hi i'm sylw i ar dop y Stwlan yr haf 'ma, gan ddweud ryw bethau mawr am y chwarel sydd yma. Felly, wedi tipyn o bori ac ymchwilio, mi wnes i ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Mae'r ddringfa hon yn dechrau yn Llan Ffestiniog; o gyfeiriad y Migneint, trowch i'r dde lawr y ffordd serth, ac yn lle troi i'r chwith am yr A470, trowch i'r dde a chario 'mlaen ffordd 'na (arwydd T dead-end addawol). O'r A470, trowch oddi arno - does dim arwydd troi, dim ond casgliad o dai, cilfan, a rownd y gornel arwydd 'anaddas i gerbydau nwyddau trwm'. Cariwch ymlaen ar y ffordd yma, heibio'r arwydd dead-end. Os am fwy o her, dechreuwch drwy ddringo Allt Goch i Lan Ffestiniog o Faentwrog, ac wedyn mynd ymlaen i fan hyn. Mae gan y ddringfa 4km raddiant cyfartalog o 7%, ond mae'r cilometr olaf yn lladdfa, gyda graddiannau ffigyrau dwbl drwyddi draw, a rhannau o gwmpas 20%. Mae'r ddringfa'n gorffen wrth chwarel Cwt y Bugail. Segment Strava: https://www.strava.com/segments/9672201


Llyn Teifi (Teifi Pools)

Dringfa 5km o hyd o Ffair-rhos yw hon, ym moelni ac anialwch yr Elenydd yng Ngheredigion. Mae'r ddringfa'n arwain ei choncwerwyr at gasgliad o lynnoedd sy'n dwyn yr enw 'Teifi Pools' - nes i ddim llwyddo i ddod o hyd i enw Cymraeg ar y casgliad - gan gynnwys Llyn Teifi, Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant, a chartref tarddbwynt yr Afon Teifi, sy'n llifo oddi yma i lawr y mynydd at Abaty Ystrad Fflur. Ar y groesffordd yn Ffair-rhos, trowch fyny am y mynydd. O ran y ddringfa ei hun, dydy'r graddiant cyfartalog o 3.5% ddim yn gwneud iddi ymddangos fel tipyn o her, ond eto, mae'r ffigwr hwnnw'n dwyllodrus. Hynny oherwydd fod 'na ambell i ran o oriwaered - mae'n eithaf fyny-ac-i-lawr - gydag ambell i ran dros 10%. Dringfa gwerth ei thaclo, yn ôl ei golwg hi. Segment Strava: https://www.strava.com/segments/5769192


Cae y Maen

Tan heddiw pan o'n i'n ymchwilio ychydig mwy ar gyfer y cofnod hwn, doeddwn i erioed wedi dod ar draws y ddringfa hon o'r blaen. 'The Kymin' yw'r enw yn y llyfrau, a'r enw sydd i'w weld fwyaf aml. Fel ambell un arall o'r dringfeydd ar y rhestr hon, mae ychydig yn fwy prysur na rhai eraill gan fod atyniad i bobl sydd ddim yn seiclwyr hefyd. Ar y copa, wedi'i leoli mewn safle cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae dau adeilad eithaf hanesyddol; 'The Round House' a'r 'Naval Temple'. Mae troed y ddringfa 2km hon yn Nhrefynwy; i'w gyrraedd, rhaid troi oddi ar yr A4136 gan ddilyn yr arwydd am Kymin. Dydy hi ddim yn hawdd o bell ffordd, gyda thri chornel gyda graddiannau o gwmpas 12%, ond mae'r rhannau rhwng rheiny ychydig yn fwy goddefgar, gan roi'r graddiant cyfartalog fymryn o dan 9%.

 

Felly dyna ni! Ddim mor brin ag oeddwn i'n ddisgwyl! Ac mae'n siŵr bod 'na fwy i'w cael o gwmpas; hyd yn oed digon i wneud trydydd cofnod... cawn weld. Os ydych chi'n ymwybodol o rai eraill gwerth eu dringo, ebostiwch yddwyolwyn@gmail.com neu gyrrwch neges ar Twitter neu Instagram.


Bachwch ar unrhyw gyfle rhwng rŵan a diwedd y tymor i ddringo'r rhain, a rhowch y gweddill ar y rhestr ar gyfer y flwyddyn newydd.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page