10 Dringfa Mwyaf Poblogaidd Cymru


Mae'n rhaid i mi gyfaddef, mae ysgrifennu'r blog yn aml iawn yn un o uchafbwyntiau fy wythnos.


Roedd hynny'n arbennig o wir yr wythnos hon - wythnos gythryblus, ansicr i mewn ac allan o ynysu wrth aros am ganlyniadau profion Covid ac ati.


Ond un mantais o'r ynysu oedd y cyfle i ysgrifennu cofnod oedd yn gofyn am dipyn o ymchwil yr oeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen at ei ysgrifennu ers peth amser.


Cofnod am ddringfeydd mwyaf poblogaidd Cymru.


Ers dechrau'r Ddwy Olwyn, mae cofnodion am y mannau seiclo gorau yn ein cenedl wedi bod yn hynod boblogaidd, ac mae hynny oll diolch i'ch cyfraniadau gwerthfawr chi fel darllennwyr. Felly erbyn hyn, mae gen i fas data - fel petai - da o ddringfeydd a lleoliadau yng Nghymru.


Ar gyfer dod o hyd i'r dringfeydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, bum yn edrych ar y ffigurau 'x' number of attempts by 'y' people ar y segment perthnasol ar Strava, a defnyddio fformiwla gymhleth dros ben... (adio'r x a y at ei gilydd) i allu eu rhoi nhw yn eu trefn.


Felly, dyma ni'r rhestr - y deg dringfa mwyaf poblogaidd yng Nghymru.


Mwynhewch.


1. Mynydd Caerffili

Llun: Ifan Gwilym - Dringfeydd Gorau De Ddwyrain Cymru

Rhanbarth: Morgannwg

Pellter: 1.29km

Graddiant Cyfartalog: 10.1%

Nifer o ymdrechion: 63,211 (1af)

Nifer o bobl: 20,473 (2il)

Yn ogystal â'r lluniau, gogoniant cael cyfraniadau gan y darllennwyr yw eu harbenigedd nhw mewn ardaloedd sy'n anghyfarwydd. Felly, mewn cofnodion fel hyn, gallaf ddibynnu ar eu sylwadau o'r newydd. Dyma ddywedodd Dyfrig Williams am Fynydd Caerffili yn ei gofnod Hoff Bump: "Mae'r ffordd mas o'r ddinas trwy Barc Bute yn osgoi'r traffig prysur, ac mae'n cynnig cyfle da am glonc gyda ffrind cyn i'r gwaith caled dechrau. Rydych chi ar y Taff Trail nes i chi gyrraedd Tongwynlais, a dyna pryd mae pethau’n dechrau mynd yn fwy serth wrth i chi mynd heibio Castell Coch. Mae prysurdeb y ddinas yn diflannu wrth i chi seiclo o fewn y goedwig. Ar ôl cyrraedd brig y bryn, rhaid disgyn i lawr eto i Gaerffili, cyn esgyn y mynydd hynny. Mae’n teimlo fel eich bod chi’n codi'n unionsyth. Mae'n fryn byr ond mae'n hynod o heriol. Ond o leiaf pan rydych chi’n cyrraedd y brig, rydych chi'n gwybod bod e'n syth nol lawr ochr arall y bryn i'r brifddinas."


2. Y Tymbl

Llun: Dyfrig Williams - Hoff Bump

Rhanbarth: Gwent

Pellter: 4.64km

Graddiant Cyfartalog: 8.3%

Nifer o ymdrechion: 60,118 (2il)

Nifer o bobl: 22,456 (1af)

Ac aros yr ydym ni yng nghofnod Dyfrig ar gyfer y ddringfa nesaf, sydd o fewn trwch blewyn i'r brig. Am y Tymbl: "Dyma'r mynydd hir cyntaf wnes i ar feic. Weithiau mae'n teimlo fel gwneith e byth gorffen! Mae yna amrywiaeth yn y dringo - ar adegau mae'n serth, ond mae yn hefyd darnau sydd ychydig yn haws, ond byth yn hawdd! Mae'r ffaith ei fod e wedi bod y prif fynydd ar gymal o Tour Prydain Fawr yn dangos pa mor heriol yw e. Mae'n gallu fod yn hynod o wyntog ar y brig, ond bydd 'da chi teimlad o lwyddiant wrth i’r gwynt eich chwipio. Yn ffodus, mae'r ardal ehangach yn hynod o brydferth hefyd. Mae yna sawl siwrne posib - os dy chi’n ffansio siwrne hir, gallwch fynd o Gaerdydd. Neu fel arall, gallwch wneud loop o Gwmbrân, neu mae yna bosibiliadau di-ri o’r Fenni."


3. Bwlch yr Oernant

Llun: Gruffudd ab Owain

Rhanbarth: Clwyd - Sir Ddinbych

Pellter: 5.87km

Graddiant Cyfartalog: 5.5%

Nifer o ymdrechion: 40,222 (3ydd)

Nifer o bobl: 11,855 (4ydd)

Ond mi fyddai'n hurt pe na bawn i'n gallu cynnig fy arbenigedd o bryd i'w gilydd ar rai dringfeydd. Gan fod Nain yn byw ym Minera ger Coedpoeth, a bod teulu hefyd yn byw yn ardal Rhuthun, mae'r rhanbarth rhwng y Bala a'r parthau hyn yn gyfarwydd iawn i mi. Erbyn diwedd tymor y Senedd, mi fydd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd ar hyn o bryd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn Barc Cenedlaethol os ydy'r Llywodraeth yn anrhydeddu eu addewid. Does dim syndod felly, bod 'na lond dwrn o'r dringfeydd yn y cofnod hwn yn disgyn o fewn y rhanbarth. Mae'r Bwlch yn adnabyddus am y tro pedol hanner ffordd i fyny'r ddringfa o Langollen, sy'n gyfrifol am yr enw Saesneg, ac mae awyrgylch ddigon byrlymus a phrysur i'r dringo rhwng y ceir, y beic modur a chyd-seiclwyr.


4. Rhigos

Rhanbarth: Morgannwg

Pellter: 5.59km

Graddiant Cyfartalog: 5.1%

Nifer o ymdrechion: 34,812 (4ydd)

Nifer o bobl: 10,602 (5ed)

Mae'r Rhigos - yn amlach na pheidio wedi'i baru efo Bwlch y Clawdd - yn hen gyfarwydd i ddarllennwyr blog Y Ddwy Olwyn. Yn serennu'n aml mewn cofnodion megis y dringfeydd eiconig a'r dringfeydd uchaf, dyma ddringfa y gellir ei dringo o Dreorci neu'r pentref sy'n rhannu'r enw gyda phroffil tebyg i'r ddwy ochr. Yn ogystal, does dim dwywaith fod y stribyn hwn o darmac wedi chwarae rhan anferthol yn llwyddiannau'n seiclwyr mwyaf ni fel cenedl, cymaint felly fod Geraint Thomas ei hun yn ysgrifennu'n helaeth amdano yn ei hunangofiannau. Mae'n llawn haeddu'i le yn rhannau uchaf y rhestr yma.


5. Devil's Elbow

Llun: Geraint Rowlands - Dringfeydd Gorau'r Canolbarth

Rhanbarth: Brycheiniog a Maesyfed

Pellter: 1.88km

Graddiant Cyfartalog: 9.8%

Nifer o ymdrechion: 29,312 (6ed)

Nifer o bobl: 16,066 (3ydd)

Dringfa fethodd o drwch blewyn i gyrraedd y deg uchaf o ran y dringfeydd eiconig, ond sy'n cadarnhau ei le ymysg dringfeydd mwyaf Cymru ar y rhestr yma. Dringfa hynod galed, ac mae'n bosib nad yw'r ystadegau uchod yn gwneud cyfiawnder â graddfa'r her. Modd arall defnyddiol o gael arbenigedd yw gwefan Komoot, ac mae cylchgrawn Cyclist yn sylwi fod "nifer o ddringfeydd yn mynd yn anoddach bob yn fachdro, ond pan fo'r bachdro ar 25%, does dim ond angen un" a bod hynny'n gymwys i'r ddringfa hon. A sylwadau'r Dragon Ride oedd ei fod yn "crynhoi prydferthwch garw Cymru gudd", ac y byddwch yn teimlo fel eich bod mewn "gwylltineb gwirioneddol ynysig". Hynny'n ddigon i godi chwant dringo ar rywun, on'd ydy o?!


6. Nant Gwynant

Llun: Gruffudd ab Owain

Rhanbarth: Eryri

Pellter: 6.34km

Graddiant Cyfartalog: 4.4%

Nifer o ymdrechion: 33,651 (5ed)

Nifer o bobl: 6,513 (7fed)

Un arall o'r dringfeydd hynny y galla i gynnig sylwadau, er mai dim ond unwaith yr ydw i wedi'i daclo. Mae'n bosib ei fod yn fwy adnabyddus fel 'Pen y Pas' gan fod y llethrau'n arwain at y pwynt hwnnw sy'n arwain miloedd at gopa uchaf Cymru. Gan gychwyn o Feddgelert, byddwch yn pasio Dinas Emrys a Llyn Gwynant ar y llethrau cyson, cymhedrol tua'r copa. Does dim dwywaith fod y golygfeydd yn wych; y mynyddoedd mawrion urddasol yn creu argraff tra'n eich gwylio a'ch cysgodi wrth ddynesu at y brig. Dyma'r agosaf gewch chi at gopa 'Alpaidd' yng Nghymru, dybiwn i; cyrchfan i'r rhai sy'n bwriadu camu'n uwch. Ond os ydych chi, fel fi, yn bodloni ar gadernid y tarmac, mae un o'r stribynnau gorau o darmac yn Eryri (os nad y genedl gyfan) yn aros amdanoch chi ar y disgyniad pleserus i Lanberis. Yn debyg i Fwlch yr Oernant, fodd bynnag, rhaid bod yn wyliadwrus fod poblogrwydd y ddringfa i seiclwyr yn ymestyn i foduron hefyd.


7. Mynydd Du

Llun: Gareth Rhys Owen - Dringfeydd Gorau'r De Orllewin

Rhanbarth: Sir Gaerfyrddin

Pellter: 7.22km

Graddiant Cyfartalog: 5.3%

Nifer o ymdrechion: 24,497 (8fed)

Nifer o bobl: 9,814 (6ed)

Gyda sir Gar yn gyrchfan boblogaidd sydd nid yn unig yn denu seiclwyr yn eu lluoedd drwy'r cyfoeth naturiol, ond hefyd yn gwneud pwynt o hybu seiclo'n yr ardal, sydd bob amser yn wych i'w weld. Dwi wedi gweld y ddringfa hon yn cael ei chrybwyll sawl gwaith, gan gynnwys gan arbenigwyr lleol Manon Lloyd ar GCN, un o gyn-gyfrannwyr y blog Ed Laverack ac hefyd yn y Guardian. Arbenigwraig leol arall, Eleanor Jaskowska, sy'n gweithio i Komoot, ddywedodd hyn am y ddringfa: "#95 yn y 100 Greatest Climbs in Britain gwreiddiol, peidiwch methu hon! Mae'r graddiant yn tua 5%, mae ar ei serthaf yn y rhannau gwaelod rhwng y perthi, ac unwaith y croeswch dros y grid gwartheg mae'r tirwedd yn agor ac mae'r golygfeydd yn anhygoel. Mae'r ffordd yn nadreddu'n hir a graddol o gwmpas y mynydd, a cheir un bachdro sy'n werth ei gymryd yn llydan a bas."


8. Drws y Coed

Llun: Lefi Gruffudd - Hoff Bump

Rhanbarth: Eryri

Pellter: 4.34km

Graddiant Cyfartalog: 3.2%

Nifer o ymdrechion: 27,213 (7fed)

Nifer o bobl: 20,473 (12fed)

Yn ôl at gyfraniad o'r blog, mae Lefi Gruffudd yn hen gyfarwydd efo dringfa Drws y Coed: "Mae hon gorfod bod yn un o’r goreuon – dwi wedi bod rownd Drws y Coed dros ugain o weithiau ers dechrau’r argyfwng ma, heb ddifaru unwaith. Un byr perffaith i’r cyfnod hwn – y llwybr harddaf at Eryri, gyda’r ceir ddigon prin ar unrhyw adeg. Mae cymaint i’w fwynhau o Ben-y-groes, o wynebu crib gogoneddus Nantlle ar y dde lle aeth R. Williams Parry unwaith ganllath o gopa’r mynydd i weld ei ‘un troed oediog’ i’r pen arall at lyn y Gadair yn Rhyd-ddu, lle sgwennodd ei gefnder T H Parry-Williams am Lyn y Gadair, lle welwch chi ‘ddim byd ond mawnog a’i boncyffion brau, dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau’. A wnewch chi fyth flino ar yr olygfa o’r Wyddfa o Nantlle, na wnewch? Dyw’r ddringfa ei hun ddim ry heriol (er fod y gwynt rhy aml yn eich erbyn), a’r clip terfynol sy’n codi dros 12% y cant yn ddigon byr. Mae’r ffordd wedyn i Ryd Ddu yn agor yr opsiynau i fynd rownd y Pas neu nôl am lyn Cwellyn. Pa le gwell yng Nghymru?"


9. World's End

Rhanbarth: Clwyd - Wrecsam

Pellter: 3.21km

Graddiant Cyfartalog: 6%

Nifer o ymdrechion: 23,283 (9fed)

Nifer o bobl: 6,139 (9fed)

I Glwyd yr ydym ni'n dychwelyd ar gyfer dringfeydd olaf y rhestr hon, a'r ddringfa a elwir yn lleol yn 'World's End'. Mae'n adnabyddus am y rhyd uchod sy'n ychwanegu rhywfaint o ddrama ar y bachdro ar y ffordd rhwng Llangollen a'r copa, ond yr ochr gyferbynniol sy'n gyfrifol am ei roi ar y rhestr yma. Dwi wedi bod yn edrych ar y ddringfa hon drwy'r ffenest' o ystafell fwyta ty Nain ers oedran ifanc iawn, felly mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n eithaf rhyfedd ei fod yn cael lle ar y blog! Mewn ardal drefol, mae'n ddihangfa i naws fwy tawel a gwahanol - hynny yw, mae 'na wyrddni, defaid a rhostir, ac mae'n pontio hefyd i ardaloedd mwy gwledig a'r AHNE yn nyffryn Dyfrdwy. Cymerwch ofal, fodd bynnag, ar y brig - mae'r arwyneb yn wael iawn ar brydiau.


10. Y Shelf

Rhanbarth: Clwyd - Sir Ddinbych

Pellter: 4.93km

Graddiant Cyfartalog: 5.4%

Nifer o ymdrechion: 19,334 (10fed)

Nifer o bobl: 5,565 (10fed)

Er fy mod i wedi taclo'r ddringfa hon ddwywaith yn y gorffennol, does gen i ddim llun yn fy nghasgliad - ond dydy hynny ddim yn dweud dim am hyfrytwch y ddringfa. Mae 'na olygfeydd braf iawn o ardal wledig, amaethyddol sir Ddinbych oddi tano. Y ddwy waith yr ydw i wedi'i daclo, dwi wedi troi i'r chwith mewn un man yn hytrach na pharhau rownd y gornel chwith felly mae'n werth cymryd gofal i sicrhau nad ydych chi'n colli allan ar y ddringfa hon. Mae 'na fannau digon serth - yn enwedig tua'r diwedd - a plateau yn y canol sy'n gwneud i'r graddiant cyfartalog o tua 5% fod rywfaint yn dwyllodrus.


Bonws: Bwlch Pen Barras

Rhanbarth: Clwyd - Sir Ddinbych

Pellter: 2.28km

Graddiant Cyfartalog: 11.2%

Nifer o ymdrechion: 15,270 (11eg)

Nifer o bobl: 6,387 (8fed)

Gyda Bwlch Pen Barras - yng nghysgod Moel Famau - yn dod yn wythfed o ran y nifer o bobl sydd wedi taclo'r ddringfa, byddai'n annheg ei hepgor o'r rhestr. Yn 2016, pan y gwnes i ei daclo am y tro cyntaf, mi wnes i ddatgan na fyddwn i byth yn reidio beic byth eto. Mi wnaeth o gymryd tan eleni i mi ddychwelyd i'r llethrau. I gyrraedd yr ochr anoddaf, byddwch yn gadael Rhuthun heibio'r ddwy ysgol i gyfeiriad yr Wyddgrug (Clwyd Gate), cyn troi ar Lôn Cae Glas. Mae arwyneb y ffordd yn wachul (dydy'r ardal yma ddim yn enwog am darmac moethus) am y traean cyntaf, cyn y traean canol anoddaf rhwng y ddau grid gwartheg sy'n cynnwys y bachdro i'r chwith sy'n annioddefol. Wedi'r ail grid gwartheg, mae'n gostegu rywfaint ond yn parhau i fod yn heriol, yn enwedig o gofio ôl yr ymdrech sydd eisoes yn y coesau. Ceir rhyddhad wrth gyrraedd y copa, rhwng ambell anadl ddofn, wrth edrych 'nôl i lawr dros y dyffryn islaw.


Bob yn rhanbarth

 

Dyna ni, y rhestr o ddringfeydd mwyaf poblogaidd Cymru wedi ei guradu. Faint wnaethoch chi eu dyfalu?


Cyn i chi fynd, os hoffech chi eu gweld nhw i gyd mewn un casgliad Komoot handi, dyma fo:

Os y gwnaethoch chi fwynhau'r cofnod hwn, ewch i bori drwy gynnwys tebyg ar y lincs sydd wedi'u cynnwys eisoes, neu drwy ymweld â thudalen Map Seiclo Cymru.